Cartref > Tirweddau Hanesyddol > Dolaucothi >

241 DOLAUCOTHI - PUMPSAINT

CYFEIRNOD GRID: SN 663409
ARWYNEBEDD MEWN HECTARAU: 126.90

Cefndir Hanesyddol
Ardal gymeriad fach gyda phentref Pumsaint, anheddiad hirgul ar y naill ochr a'r llall i ffordd yr A482, ar gymer afon Cothi a'i hisafon, afon Twrch, yn ganolbwynt iddi. Gorweddai gynt o fewn Cwmwd Caeo yng Nghantref Mawr a barhaodd yn arglwyddiaeth annibynnol Gymreig hyd 1284, a lle y goroesodd systemau cynhenid tirddaliadaeth i raddau helaeth trwy gydol y cyfnod Canoloesol. Mae ffordd yr A482 yn dilyn llinell y ffordd Rufeinig rhwng y caerau yn Llanymddyfri (Alabum) a Llanio (Bremia) a heibio i gloddfeydd aur Rhufeinig Ardal 243. Roedd y rhain yn weithredol erbyn y ganrif 1af OC a hwy a'i gwnaeth yn ofynnol fod caer yn cael ei hadeiladu ar y tir gwastad islaw'r pentref presennol. Cloddiwyd safle'r gaer, Louentium, yn rhannol (Jones a Little, 1974), a chafwyd bod adeilad baddondy a safai wrth ei hun yn nodwedd o'r safle. Gallai gweithgaredd Rhufeinig fod wedi dylanwadu ar batrymau anheddu yn nes ymlaen. Honnwyd (Jones 1994, 88) bod peth cloddio am aur wedi parhau hyd y cyfnod l-Rufeinig gan effeithio ar statws yr ardal oddi amgylch, a ddaeth i gael ei hystyried yn ardal ddigon pwysig i gael ei henwi yn ymylnodau y Book of St Chad (Jones 1994, 88), tra gellir olrhain sefydlu capel Canoloesol, 'Llanpumsaint', a saif o fewn rhagfuriau'r gaer, i'r cyfnod cyn y Goresgyniad (Sambrook a Page 1994, 4). Capel anwes ydoedd i blwyf Caeo. Ceir sn amdano yn ewyllys Rhys Fychan yn 1271 (ibid.), ac fe'i nodir ar fap Saxton o Sir Gaerfyrddin dyddiedig 1578. Fodd bynnag, nid oes tystiolaeth fod anheddiad wedi tyfu o'i gwmpas. Mwy na thebyg mai gyda datblygiad y ffordd Rufeinig yn ffordd bwysig i borthmyn yn y cyfnod l Ganoloesol, ac yn ln bost o ddiwedd y 18fed ganrif, y datblygodd y pentref presennol, a hefyd yn sgl sefydlu ystad Dolaucothi y safai'r pentref yn rhannol ar ei thir. Mae'r patrwm presennol o gaeau mawr rheolaidd eu sip hefyd yn awgrymu bod y dirwedd wedi'i hailfodelu yn sgl sefydlu'r ystad. Erbyn ail hanner y 19eg ganrif roedd swyddfa bost, tafarndy, neuadd a siop ym mhentref Pumsaint. Ar lawr y dyffryn i'r dwyrain o'r pentref saif Ty Dolaucothi a sefydlwyd gan deulu'r Johnes, cangen o deulu Jones Abermarlais, a hynny cyn 1679 gan fod y ty erbyn hynny'n adeilad o faint sylweddol, ac ynddo chwe aelwyd; yn 1704 fe'i disgrifiwyd fel 'y brif breswylfa o'r enw 'Tyddyn Dole Cothi' (Jones 1987, 56). Fe'i hailadeiladwyd i bob pwrpas yn 1792-6 ac erbyn 1873 roedd yr ystad yn 3172 erw o faint (ibid.). Atafaelwyd y ty yn ystod yr Ail Ryfel Byd, cymerwyd y plwm oddi ar y toi ac fe'i dymchwelwyd yn 1951 (Whittle 1999). Daeth y tir i feddiant yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol yn 1956. Ym mhen gogleddol yr ardal saif Brunant, ty bonedd sy'n dal i sefyll, y gellir ei olrhain i ddiwedd y 16eg neu 17eg ganrif (Jones 1987, 15).

Map a atgynhyrchwyd o fap yr OS gyda chaniatad yr Arolwg Ordnans ar ran Rheolwr Llyfrfa Ei Mawrhydi, Hawlfraint y Goron 2001. Cedwir pob hawl. Byddai ei atgynhyrchu heb ganiatad yn torri Hawlfraint y Goron a gall hynny arwain at erlyniad neu achos sifil. Rhif y drwydded: GD272221

Disgrifiad a hanfodion hanesyddol y dirwedd
Mae hon yn ardal gymeriad gymhleth er ei bod yn gymharol fach. Mae'n gorchuddio llawr y dyffryn a gwaelod ochrau dyffryn afon Cothi i fyny'r afon o bentref Pumsaint ac mae rhwng 120m a 200m o uchder. Yn ei hanfod tirlun ystad sy'n dyddio o'r 18fed a'r 19eg ganrif ac a arosodwyd ar elfennau tirwedd cynharach yw tirwedd yr ardal. Mae dau bwynt ffocws yma: Ty Dolaucothi a phentref Pumsaint. Dymchwelwyd y ty yn Nolaucothi a oedd yn dyddio o ddiwedd y 18fed ganrif a dechrau'r 19eg, ac eithrio'r adain ogleddol sydd erbyn hyn yn ffermdy. Erys cerbyty hefyd. Erys hefyd lawer o elfennau'r parc a'r gerddi a oedd yn gysylltiedig 'r ty, yn cynnwys gardd a wal o'i chwmpas, ffod glawdd tramwyfeydd a thirlunio posibl ar gyfer rhodfeydd ar hyd glannau'r afon. Elfen fwyaf eithriadol y parc, fodd bynnag, yw'r planhigion, ac mae llawer o enghreifftiau gwych o goed wedi goroesi. Mae'r cyfan o orlifdir afon Cothi yn edrych fel parcdir. Mae gwedd parcdir gorlifdir afon Cothi yn ymestyn i fyny'r afon o dy Dolaucothi gynt oherwydd ym mhen gogledd-ddwyreiniol yr ardal mae ty bonedd Brunant a'r tir o'i amgylch sy'n dyddio o'r 19eg ganrif. Islaw pentref Pumsaint ceir caer Rufeinig, ond ychydig o olion sydd ar l ar wyneb y tir. Mae tai ac adeiladau eraill yn y pentref yn dyddio'n bennaf o ganol y 19eg ganrif; fe'u codwyd gan ystad Dolaucothi ac mae iddynt nodweddion arbennig - arddull 'llyfr patrwm' o welydd cerrig rwbel patrymog, toi llechi ar oleddf serth, ymylon bondo ac estyll tywydd (wedi'u peintio'n goch) a ffenestri adeiniog chwarelau sip diemwnt. Mae yna gapel yn y pentref sy'n dyddio o 1875, ac nid nepell oddi wrtho ceir rhes o dai deulawr math fila sy'n dyddio o'r 19eg ganrif ond nad ydynt o'r un arddull 'r ystad. Cyfyngir datblygiad sy'n perthyn i'r 20fed ganrif i neuadd bentref o haearn - tun - gwrymiog ac ychydig o dai. Y tu allan i'r pentref a'r parcdir mae cloddiau ac arnynt wrychoedd yn rhannu'r ardal yn gaeau bach afreolaidd eu sip o dir pori wedi'i wella. Nid yw'r gwrychoedd mewn cyflwr da ac eithrio'r rhai sy'n rhedeg hyd ymyl y ffyrdd a'r llwybrau. Mae bylchau mawr mewn rhai ohonynt ac mae eraill wedi tyfu'n wyllt. Mae llawer o goed arbennig yn y gwrychoedd. Mae ffermydd gwasgaredig ac anheddau eraill yn gyffredinol ar arddull 'llyfr patrwm' 1850au Dolaucothi. Mae adeiladau allanol y ffermydd o'r un arddull. Ac eithrio ffordd yr A482 sy'n rhedeg trwy bentref Pumsaint, cysylltiadau lleol sydd yna ar gyfer trafnidiaeth - ffyrdd bach, lonydd a llwybrau.

Dengys archeoleg a gofnodwyd fod yma haen ar ben haen o hanes, a chynrychiolir bron pob cyfnod. Mae yma ddarganfyddiadau Neolithig, maen hir o'r Oes Efydd, y ffordd Rufeinig, y gaer Rufeinig, baddonau Rhufeinig a chasgliad darnau arian Rhufeinig, safle'r capel Canoloesol, l cnwd o darddiad anhysbys, nodweddion parcdir sy'n gysylltiedig ag ystad Dolaucothi, ac adeiladau.

Mae yna lawer o adeiladau arbennig, y codwyd y mwyafrif ohonynt ar ran ystad Dolaucothi. Mae'r ty yn Nolaucothi wedi diflannu ond mae ar y safle arwyddion o barcdir sy'n dyddio o ddechrau'r 19eg ganrif gyda gweddillion coedlan o goed leim o bosibl, a dwy ardd amgaedig a oedd yn bodoli c. 1770, a ailfodelwyd yn llwyr c. 1790, ac a gafodd eu newid a'u gwella'n gynnar yn y 19eg ganrif. Mae'r ardd wal o'i chwmpas wedi goroesi'n rhannol a chofrestrwyd y cyfan fel rhif cyf. PGW (Dy) 1 (CAM) yng Nghofrestr Cadw/ICOMOS o Barciau a Gerddi o Ddiddordeb Hanesyddol Arbennig yng Nghymru (Whittle 1999). Mae'r bloc stablau, y ty ceirt, y porthordy a fferm y plas yn adeiladau rhestredig Gradd II. Mae Brunant, sy'n cynnwys elfennau sy'n perthyn i'r 16eg neu'r 17eg ganrif, hefyd yn adeilad rhestredig Gradd II. Mae yna 14 o adeiladau rhestredig Gradd II eraill o fewn yr ardal gymeriad yn cynnwys capel Salem dyddiedig 1875, y tafarndy, neuadd y pentref, y swyddfa bost, siop, cofeb i'r rhai a laddwyd mewn rhyfel, efail y gof a chiosg ffn K6.

Er bod y gwahanol rannau o'r ardal hon yn annhebyg iawn i'w gilydd, nid yw terfynau'r ardal wedi'u diffinio'n glir; mae'r ardal yn ymdoddi i'r ardaloedd sy'n cyffinio hi i'r gogledd-ddwyrain, i'r dwyrain ac i'r de-orllewin, ond mae'r ffin ddeheuol yn fwy amlwg yn erbyn Cloddfa Aur Dolaucothi.

 

 

 

 

 

[cliciwch am rhestr y pynciau os nad yw'n bresennol]