Cartref > Tirweddau Hanesyddol > Dolaucothi >

243 CLODDFEYDD AUR DOLAUCOTHI

CYFEIRNOD GRID: SN 664402
ARWYNEBEDD MEWN HECTARAU: 44.84

Cefndir Hanesyddol
Ardal gymeriad fach iawn sy'n cwmpasu'r cloddfeydd aur yn Nolaucothi. Er bod yna dystiolaeth o ddatblygu adnoddau cyn hynny, y Rhufeiniaid a ysgogodd y datblygiad cloddio presennol, a dyma'r cloddfeydd mwyaf datblygedig a ganfuwyd hyd yma ym Mhrydain; eu cynnyrch hwy oedd eurfarrau'r bathdai ymerodrol a gallent fod wedi bod yn un o'r cymhellion a symbylodd oresgyniad Prydain. Benthycwyd y rhan helaethaf o'r adran hon o waith Jones a Lewis, 1971, ac ychwanegwyd passim Burnham ati. Sefydlwyd y cloddfeydd yn ystod ton gyntaf goresgyniad de-orllewin Cymru, yn 75-80OC, a buont yn gynhyrchiol hyd ddiwedd y 4edd ganrif. Yn y 14eg ganrif dyddiwyd olwyn ddraenio bren o un o'r ponciau dwfn yn olwyn o tua 50CC, tra bod darnau arian a ganfuwyd yn y cyffiniau yn dyddio o'r ganrif 1af hyd deyrnasiad Valentinian a theyrnasiad Valens, 364-375 OC (James 182, 33). Cadwyd cloddfeydd fel y rhain o dan reolaeth y fyddin ac i'r diben hwn sefydlwyd caer ar y gwastadedd ym Mhumsaint yn union i'r gorllewin (Ardal 241). Gwelir yn yr ardal gasgliad o fynedfeydd, hushes, ponciau ac ardaloedd cynnau tn sy'n nodweddiadol o dechnegau cloddio cynnar, ond nid ydynt i gyd o angenrheidrwydd yn Rhufeinig. Haerwyd (Jones 1994, 88) bod peth echdynnu aur wedi parhau hyd y cyfnod l-Rufeinig, ond gallai mai datblygu dyddodion llifwaddod oedd hyn. Ymgymerid ag echdynnu aur yn ystod diwedd y cyfnod Canoloesol, o bosibl o dan Bremonstratensiaid Abaty Tal-y-llychau (cafodd tomen rwbel bosibl ei dehongli fel mwnt ers peth amser). Bu i hyn barhau yn ystod y cyfnod l-ganoloesol, a chanfuwyd casgliadau eithaf mawr o grochenwaith sy'n dyddio o'r 17eg ganrif yn ddwfn yn un o'r prif ffrydiau a'r cronfeydd (James 1982, 33). Ar l bwlch, ailgychwynnwyd cloddio tua 1870 a pharhaodd hyn hyd 1910, o dan gyfarwyddyd Awstraliad o'r enw Mr Mitchell a ailagorodd lawer o'r gweithiau cynharach. Cychwynnwyd ailgloddio yn y cyfnod modern ym 1934 dan gyfarwyddyd 'Roman Deep Holdings Ltd' a pharhaodd hyn hyd ddechrau'r Ail Ryfel Byd, a dyma pryd y darganfuwyd yr olwyn ddraenio. Daeth y safle i feddiant yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol ar l y rhyfel.

Map a atgynhyrchwyd o fap yr OS gyda chaniatad yr Arolwg Ordnans ar ran Rheolwr Llyfrfa Ei Mawrhydi, Hawlfraint y Goron 2001. Cedwir pob hawl. Byddai ei atgynhyrchu heb ganiatad yn torri Hawlfraint y Goron a gall hynny arwain at erlyniad neu achos sifil. Rhif y drwydded: GD272221

Disgrifiad a hanfodion hanesyddol y dirwedd
Ardal gymeriad fach iawn sy'n ymestyn ar draws llechweddau bryniog sy'n wynebu'r gogledd-orllewin ac sy'n amrywio o ran uchder o 120m i fwy na 200m; mae llawer o goed yn tyfu arnynt, yn cynnwys coed collddail lled naturiol, planhigfeydd o goed collddail a phlanhigfeydd o goed conifferaidd. Mae yna ychydig o dir pori wedi'i wella o amgylch yr ymylon. Mae'r cloddfeydd erbyn hyn ym meddiant yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol ac fe'u rhedir fel canolfan twristiaid ac ymchwil. Mae'r Ymddiriedolaeth wedi ailsefydlu detholiad o adeiladau sy'n ymwneud chloddio i'w defnyddio gan ymwelwyr, wedi ailgodi olwyn pen pwll dros siafft, wedi creu llwybrau a rhodfeydd, ac wedi creu meysydd parcio. Fodd bynnag, gweddillion yr hen gloddfeydd yw'r elfennau mwyaf amlwg a sylweddol yn yr ardal. Y nodwedd fwyaf amlwg sy'n ymwneud chloddio yw'r prif waith cloddio brig Rhufeinig. Yn y pwll dwfn hwn a'i lechweddau ysgythrog, coediog y mae'r mwyafrif o adeiladau sy'n ymwneud chloddio wedi'u hadfer. Mae nodweddion cloddio eraill wedi'u cynnwys yn y gwaith cloddio brig, rhai'n dyddio o'r cyfnod Rhufeinig megis tanciau i storio dwr, ac eraill, megis siafftau, mynedfeydd a gweithfeydd cloddio brig, yn dyddio o'r cyfnod l-ganoloesol. Mae nodweddion cloddio y tu allan i'r prif waith cloddio brig ar wasgar ar draws y dirwedd: gweithfeydd brig llai o faint (na wyddys dyddiad rhai ohonynt), tanciau a ffrydiau Rhufeinig, byrddau golchi, tomenni sbwriel, gweithfeydd treialu, incleins, tramffyrdd, mynedfeydd a siafftau. Prin y mae yna ddarn un metr sgwr o'r ardal gymeriad nad yw cloddio wedi effeithio arno.

Cyfyngwyd archeoleg a gofnodwyd i'r nodweddion cloddio a nodwyd eisoes gan fwyaf; at y rhain gellir ychwanegu'r mwnt posibl, carreg ddyrnu sef 'Carreg Pumsaint' ym mytholeg yr ardal, a ffynnon gysegredig bosibl.

Ychydig o adeiladau sydd yna o fewn yr ardal ac nid oes yr un ohonynt yn nodedig.

Elfennau cloddio'r dirwedd hon sy'n rhoi iddi ei chymeriad amlwg. Mae rhai elfennau megis ffrydiau a thanciau yn llifo i ardal gymeriad arall i'r gogledd-ddwyrain, ond mae'r ardaloedd cyffiniol eraill yn gwrthgyferbynnu'n gryf ac mae ffin bendant rhwng yr ardal hon ac ardaloedd cyfagos y pentrefi, y ffermydd a'r caeau.

 

 

 

 

 

[cliciwch am rhestr y pynciau os nad yw'n bresennol]