|
244 CAEO
CYFEIRNOD GRID: SN 675393
ARWYNEBEDD MEWN HECTARAU: 213.70
Cefndir Hanesyddol
Ardal fechan yn amgylchynu anheddiad cnewyllol Caeo, ar gymer afon Annell
a Nant Frena. Gorweddai gynt o fewn Cwmwd Caeo yng Nghantref Mawr a barhaodd
yn arglwyddiaeth Gymreig annibynnol hyd 1284 a lle y goroesodd systemau
tirddaliadaeth cynhenid trwy gydol y cyfnod Canoloesol. Nid oes amheuaeth
nad yw eglwys y plwyf, eglwys Cynwyl Sant, Cynwyl Gaeo, sydd erbyn hyn
yng nghanol y pentref, yn dyddio o'r cyfnod cyn y Goresgyniad, ac mae'n
sefyll gerllaw'r ffordd Rufeinig a gysylltai'r caerau yn Llanymddyfri
(Alabum) a Llanio (Bremia), a chloddfeydd aur Rhufeinig Ardal 243. Efallai
mai'r eglwys oedd y ganolfan eglwysig bwysicaf yng ngogledd-ddwyrain Sir
Gaerfyrddin cyn i Landeilo Fawr achub y blaen arni yn y 9fed ganrif (Sambrook
a Page 1995, 4), a bu ganddi nifer o is-eglwysi yn ystod y cyfnod Canoloesol.
Saif Eglwys Cynwyl Sant yn agos iawn at y gaer Rufeinig ym Mhumsaint (Ardal
241) a'r cloddfeydd aur yn Nolaucothi (Ardal 243), a oedd yn dal yr un
mor bwysig yn dybiannol yn y cyfnodau Ôl-Rufeinig. Yn rhan o adeiladwaith
mur yr eglwys ceir ECM o'r 6ed ganrif, a chanfuwyd dau arall yn y plwyf
(Ardal 253), y mae un ohonynt yn gofeb i Sant Paulinus, athro Dewi Sant
yn ôl y sôn, a sefydlodd gymuned a oedd, erbyn y 9fed ganrif, wedi ehangu
i gynnwys 'adeiladau niferus' (Sambrook a Page 1995, 4). Er nad oedd y
gymuned hon o angenrheidrwydd wedi'i lleoli o fewn plwyf Caeo, efallai
mai'r ardal hon oedd ei 'patria'. Ymddengys, ymhellach, mai cwmwd Caeo,
oedd calon treftadaeth Tywysogion Deheubarth; caniataodd Harri'r Iaf i
Gruffydd ap Rhys, mab Rhys ap Tewdwr, brenin Deheubarth a laddwyd gan
y Normaniaid yn 1093, gadw'r cwmwd (Ab Ithel 1860). Rhoddwyd yr eglwys,
a'r tir ym mhen deheuol yr ardal, i Abaty Tal-y-llychau tua 1200 (Ludlow
1998); fel arall yr un oedd ffiniau Maenor Ganoloesol Caeo mae'n debyg
â ffiniau'r plwyf. Efallai mai o safle'r pentref, a ddatblygodd yn brif
anheddiad taeog y cwmwd (Jones 1971, 317) ac sydd, yn ôl pob golwg, yn
anheddiad cnewyllol cynnar, y'i gweinyddid; yn wir, cofnodir y fynwent
gan George Owen yn 1601 fel safle ffair flynyddol (Sambrook a Page 1995,
22). Mae'n bosibl fod morffoleg rheiddiol rhai ffiniau caeau i'r dwyrain
o'r pentref yn dangos faint o diroedd o fewn y caeau a gâi eu ffermio
gan y gymuned daeog, tra gallai fod system o gaeau stribed yn goroesi'n
rhannol o leiaf yn y patrwm o glostiroedd unionlin a geir mewn mannau
eraill. Ceir caeau stribed wedi'u hamgáu ar lechweddau i'r dwyrain a'r
de-ddwyrain o'r pentref ar fap degwm 1840. Cofnodir Gwarnoethle, annedd
i'r gogledd-orllewin o'r pentref, mewn gweithred ddyddiedig 1638 fel 'y
gornoythe' a daeth yn rhan o ystad Dolaucothi (Jones 1987, 86). Yn y 18fed
ganrif, pan oedd yn ganolfan gweithgaredd porthmyn, y datblygodd y pentref.
Daeth y ffordd Rufeinig yn ffordd bwysig i'r porthmyn ac yn lôn bost (Sambrook
a Page 1995, 23) o ddiwedd y 18fed ganrif hyd nes i ffordd bresennol yr
A482, ffordd osgoi i'r de o'r pentref, gymryd ei lle. Mae corlannau'r
porthmyn wedi goroesi fel cloddweithiau ar ochr ddeheuol y pentref, a
bu yno gynt efail y gof. Efallai mai yn sgîl gweithgaredd porthmyn y codwyd
capel cynnar, ym 1777 yn wreiddiol. Erbyn diwedd y 19eg ganrif roedd y
pentref wedi datblygu'n ganolfan leol o bwys gyda swyddfa bost, ysgol,
rhesdai a dwy dafarn. Bu peth datblygiad diweddar yn cynnwys codi ystad
o dai cyngor.
Map a atgynhyrchwyd o fap yr OS gyda chaniatad yr Arolwg
Ordnans ar ran Rheolwr Llyfrfa Ei Mawrhydi, © Hawlfraint y Goron 2001.
Cedwir pob hawl. Byddai ei atgynhyrchu heb ganiatad yn torri Hawlfraint
y Goron a gall hynny arwain at erlyniad neu achos sifil. Rhif y drwydded:
GD272221
Disgrifiad a hanfodion hanesyddol y dirwedd
Lleolir ardal gymeriad Caeo yn nyffryn afon Annell uchaf rhwng 150m
a 200m o uchder. Calon yr ardal yw pentref cnewyllol Caeo, a chanol y
pentref hwnnw yw eglwys Ganoloesol Cynwyl Sant. Pentref bach ydyw ac yn
ogystal â'r eglwys mae yna ysgol, rhes o dai deulawr sy'n dyddio o'r 19eg
ganrif, tai wedi'u hadeiladu o gerrig a thafarn, tai sy'n dyddio o ddiwedd
y 19eg ganrif, datblygiad preswyl o'r 20fed ganrif yn cynnwys tai cyngor
ac, ar ymylon yr anheddiad, gapel dyddiedig 1907. Y tu allan i'r pentref
nodweddir yr ardal gan ffermydd gwasgaredig, caeau a choetir. Mae'r caeau'n
fach ac yn amrywio o reolaidd i afreolaidd o ran eu siâp. Mae'r system
caeau stribed caeëdig a welir ar y map degwm wedi esblygu erbyn hyn yn
system o gaeau bach rheolaidd. Gwrthgloddiau a gwrychoedd arnynt yw'r
ffiniau terfyn. Mae'r gwrychoedd gan fwyaf mewn cyflwr da ac wedi'u cadw'n
dda, er eu bod wedi'u hesgeuluso ar y llechweddau uchaf. Yn ychwanegol
at y gwrychoedd, ceir ffensys gwifren. Mae yna goed nodedig yn y gwrychoedd,
a choetir o goed collddail ar ochrau serth y dyffryn. Tir pori wedi'i
wella yn bennaf yw'r defnydd a wneir o dir amaeth. Mae mwyafrif y ffermdai
yn dyddio o'r 19eg ganrif, ac yn eu plith ceir enghreifftiau o arddull
nodedig unigryw ystad Dolaucothi - 'ffermydd llyfrau patrwm' y 1850au,
wedi'u hadeiladu o gerrig, ac iddynt ffenestri casment â chwarelau siâp
diemwnt - ond adeiladau yn y dull brodorol yw'r mwyafrif o'r ffermdai,
sef adeiladau deulawr, o gerrig, ac â thri bae. Mae adeiladau amaeth sy'n
gysylltiedig â'r ffermydd hyn naill ai'n dyddio o'r 19eg ganrif ac wedi'u
hadeiladu o gerrig ac ar ffurf un rhes neu ddwy sydd wedi'u trefnu'n anffurfiol
mewn perthynas â'r ty, neu maent yn adeiladau amaeth modern. Ar wahân
i ffordd yr A482, ffordd dyrpeg gynt, sy'n dilyn terfyn de-orllewinol
yr ardal hon, ffyrdd lleol, llwybrau a lonydd yw'r cysylltiadau ar gyfer
trafnidiaeth.
Dengys archeoleg a gofnodwyd ddyfrbont Rufeinig, yr eglwys
ac ECM, dau enw lle yn cynnwys yr enw 'Castell' ac odyn sychu yd.
Mae yma nifer o adeiladau nodedig. Mae'r eglwys Ganoloesol
â thwr yn dirnod ac yn adeilad rhestredig Gradd II*. Mae porth y fynwent,
a beddrod â rheilen, yn adeiladau rhestredig Gradd II, ac felly hefyd
ffermdy Glanyrannell, a ailadeiladwyd tua 1845 gan ystad Dolaucothi, y
mae arno ddylanwad y llyfrau patrymau pensaernïol. Yn y rhes o adeiladau
sy'n cynnwys yr ysgubor, mae'r ysgubor, y beudy a'r oerdy yn adeiladau
rhestredig unigol Gradd II. Mae Castell, ty sy'n dyddio o ddechrau'r 19eg
ganrif, hefyd yn adeilad rhestredig Gradd II ac felly hefyd Dyffryn (y
ficerdy), a'r bont dros afon Annell. Mae'r swyddfa bost sy'n dyddio o'r
19eg ganrif, yr ysgol, y rhesdai a'r tafarnau, a'r ystad o dai cyngor
sy'n dyddio o'r 1950au yn haeddu sylw. I'r gogledd mae'r ardal hon wedi'i
diffinio'n weddol glir gan Gloddfeydd Aur Dolaucothi, gweundir lled agored
uchel a thir coedwigaeth.
I'r gorllewin mae yna duedd i'r ardal ymdoddi i'r ardal
gyffiniol. Mewn mannau eraill deil yr ardaloedd cymeriad heb eu diffinio
eto.
|