Cartref > Tirweddau Hanesyddol > Dolaucothi >

246 BANC LLWYNCEILIOG

CYFEIRNOD GRID: SN 682416
ARWYNEBEDD MEWN HECTARAU: 306.30

Cefndir Hanesyddol
Ardal o goedwig o goed coniffer wedi'u plannu ar lethr orllewinol Mynydd Malláen. Gorweddai gynt o fewn Cwmwd Caeo yng Nghantref Mawr a barhaodd yn arglwyddiaeth Gymreig annibynnol hyd 1284 a lle y goroesodd systemau tirddaliadaeth cynhenid trwy gydol y cyfnod Canoloesol. Ardal ucheldir wedi'i rhannu'n gaeau mawr, rheolaidd ydyw, a hynny'n hwyr yn ei hanes, gan mai ar ôl arolwg y degwm 1840 y lluniwyd y clostiroedd. Nid oes anheddiad erbyn hyn, ac efallai fod hyn yn adlewyrchiad o'r sefyllfa at ei gilydd yn y cyfnod hanesyddol, ond cofnodwyd un fferm anghyfannedd. Mae yna dystiolaeth ar ffurf nodweddion defodol (carneddau tomen) o'r Oes Efydd fod yma breswylwyr yn y cyfnod cyn-hanes ac mae dyfrbontydd Rhufeinig yn arwain at Ardal 243 yn croesi'r ardal.

Map a atgynhyrchwyd o fap yr OS gyda chaniatad yr Arolwg Ordnans ar ran Rheolwr Llyfrfa Ei Mawrhydi, © Hawlfraint y Goron 2001. Cedwir pob hawl. Byddai ei atgynhyrchu heb ganiatad yn torri Hawlfraint y Goron a gall hynny arwain at erlyniad neu achos sifil. Rhif y drwydded: GD272221

Disgrifiad a hanfodion hanesyddol y dirwedd
Ar ochr uchel dde-ddwyreiniol dyffryn Cothi uchaf y mae'r ardal hon. Mae rhwng 180m a 330m o uchder. Rhannwyd yr ardal yn gaeau mawr, eithaf rheolaidd eu siâp, gan wrthgloddiau a gwrychoedd, ond mae'r rhain erbyn hyn yn ddilewyrch ar y cyfan - y gwrychoedd wedi diflannu neu'n ddim ond llinellau anniben o lwyni a choed bach - a ffensys gwifren sydd yna i gadw da byw rhag crwydro. Tir pori wedi'i wella yw llawer o'r tir, ond mae yna dir mwy garw ar rai llethrau serth ac ar lefelau uwch, yn arbennig ym mhen gogledd-ddwyreiniol yr ardal lle y mae yr hyn a fu gynt yn gaeau mwy o faint yn ymdoddi i'r gweundir agored. Mae yna glytiau o goetir o goed collddail hynafol ar lechweddau serth iawn, a cheir yma hefyd ddwy blanhigfa fach o goed coniffer. Llwybrau a throedffyrdd geirwon yw'r unig gysylltiadau ar gyfer trafnidiaeth. Nid oes unrhyw aneddiadau. Mae cloddweithiau dyfrbontydd Rhufeinig sy'n croesi ochr y dyffryn ymhlith elfennau nodedig y dirwedd. Gwedd gyffredinol yr ardal yw un o dir pori wedi'i wella ac a rennir gan ffensys gwifren, gyda choetir ar lechweddau serth.

Dengys archeoleg a gofnodwyd ddwy garnedd o'r Oes Efydd, cronfa a dyfrbontydd Rhufeinig a fferm anghyfannedd.

Nid oes unrhyw adeiladau'n dal i sefyll.

Mae Banc Llwynceiliog yn ardal o gymeriad pendant. Mae'n ardal glustog rhwng ffermydd a chaeau ar lawr y dyffryn, a gweundir agored a thir coedwigaeth ar yr ucheldir. I'r de-orllewin ceir ardal nodedig Cloddfeydd Aur Dolaucothi.