Cartref > Tirweddau Hanesyddol > Dolaucothi >

247 MYNYDD MALLŃEN

CYFEIRNOD GRID: SN 726433
ARWYNEBEDD MEWN HECTARAU: 2424.00

Cefndir Hanesyddol
Ardal o weundir agored ar lwyfandir Mynydd MallŠen, sydd yn uwch na 300m. Fe'i rhennid gynt rhwng cwmwd Caeo a chwmwd MallŠen yng Nghantref Mawr, a barhaodd yn arglwyddiaeth annibynnol Gymreig hyd 1284 a lle y goroesodd systemau tirddaliadaeth cynhenid i raddau helaeth trwy gydol y cyfnod Canoloesol. A hithau'n ardal o ucheldir, defnyddid y tir yn bennaf fel tir mynydd ar gyfer pori anifeiliaid, ac ymddengys mai tir agored ydoedd gan fwyaf yn ystod y cyfnod hanesyddol, fel y mae heddiw. Fe'i dangosir fel porfa agored ar y mapiau hanesyddol cynharaf a chofnodir mai tir comin ydoedd yn rhannol yn ystod y cyfnod Canoloesol. Mae yna, yn y dirwedd, dystiolaeth ffisegol o'r defnydd yn yr Oes Efydd, a hynny ar ffurf safleoedd tirnod defodol, a gynrychiolir gan garneddau o'r Oes Efydd a maen hir posibl, nodweddion y bwriedid iddynt fod yn rhai gweledol ac amlwg yn y dirwedd. Roedd tyllau cwningod yn dyddio o ddiwedd y cyfnod Canoloesol - cyfnod ‘l-ganoloesol cynnar - ar ystlys ddeheuol y llwyfandir, a cheir peth tystiolaeth o dir wedi'i rannu'n gaeau a hynny mewn cysylltiad ‚'r cytiau hir sy'n nodweddiadol o batrwm anffurfiol anheddu ucheldir yn ne-orllewin Cymru yn ystod y cyfnod hwn (Sambrook a Ramsey, 1999). Mae yna sawl cloddfa a fu gynt yn gloddfeydd plwm a chopr bach ar gyrion yr ardal y gallent fod yn gloddfeydd cynnar. Roedd mwynau eisoes yn cael eu cloddio yn yr ardal hon erbyn diwedd y 13eg ganrif, a chymerai'r goron un rhan o un ar ddeg o'r mwynau yn dreth (Rees 1968), ond daethai'r gwaith i ben gan fwyaf erbyn canol y 19eg ganrif. Nid oes unrhyw anheddiad diweddar yn yr ardal.

Map a atgynhyrchwyd o fap yr OS gyda chaniatad yr Arolwg Ordnans ar ran Rheolwr Llyfrfa Ei Mawrhydi, © Hawlfraint y Goron 2001. Cedwir pob hawl. Byddai ei atgynhyrchu heb ganiatad yn torri Hawlfraint y Goron a gall hynny arwain at erlyniad neu achos sifil. Rhif y drwydded: GD272221

Disgrifiad a hanfodion hanesyddol y dirwedd
Llwyfandir bryniog ac anghyfannedd sy'n cyrraedd uchder o dros 450m yw Mynydd MallŠen. I'r gorllewin a'r gogledd, mae ei ochrau'n serth iawn ac yn aml yn ysgythrog a disgynnant at ddyffrynnoedd afon Tywi ac afon Cothi. I'r de mae ymyl y llwyfandir yn fwy toredig ond mae'r llethrau'n dal yn serth. Yn ei hanfod gweundir agored yw Mynydd MallŠen - tir pori garw, rhedyn a gorchudd o fawn - gydag ychydig o dir pori wedi'i wella ar yr ymyl deheuol. Ar rai llethrau serth o amgylch y llwyfandir mae yna beth coetir o brysgwydd, a chaiff planhigfa fach o goed coniffer ei chynnwys yn yr ardal. Mae yna rai hen gloddiau terfyn ar gyrion y llwyfandir, ond ffensys gwifren yma a thraw sy'n cadw da byw rhag crwydro.

Dengys archeoleg a gofnodwyd gyfoeth cymharol o nodweddion yn cynnwys carneddau o'r Oes Efydd a maen hir posibl, tyllau cwningod Canoloesol i ‘l-ganoloesol, cytiau hir a systemau caeau, llwybrau, cloddfeydd plwm a chopr, a chloddweithiau y mae eu tarddiad yn anhysbys.

Nid oes adeiladau yn dal i sefyll.

Mae hon yn ardal wedi'i diffinio'n dda. Am y ffin ‚ hi ceir naill ai ffermydd a chaeau ar lawr y dyffrynnoedd, ochrau uchel y dyffrynnoedd lle y mae'r tir yn rhannol wedi'i rannu'n gaeau, neu dir coedwigaeth.

 

 

 

 

 

[cliciwch am rhestr y pynciau os nad yw'n bresennol]