Cartref > Tirweddau Hanesyddol > Dolaucothi >

248 DYFFRYN FANAGOED

CYFEIRNOD GRID: SN 688454
ARWYNEBEDD MEWN HECTARAU: 127.20

Cefndir Hanesyddol
Ardal ar lawr dyffryn ucheldir afon Fanagoed, un o isafonydd afon Cothi, ger ei tharddle ym Mynyddoedd Cambria. Gorweddai gynt o fewn Cwmwd Caeo, yn benodol ym Maenor rhwng Twrch a Chothi, yng Nghantref Mawr a barhaodd yn arglwyddiaeth Gymreig annibynnol hyd 1284, a lle y goroesodd systemau tirddaliadaeth cynhenid i raddau helaeth trwy gydol y cyfnod Canoloesol. Mae'r ardal mewn dyffryn ucheldir ond mae'n glwt o dir cymharol ffrwythlon y gwnaed defnydd eithaf dwys ohono erioed mae'n debyg. Mae yno system o gaeau bach hirsgwar, a cheir tystiolaeth ffisegol o dirwedd cefnen-a-rhych nad yw o angenrheidrwydd yn dyddio o'r Oesoedd Canol ond a allai fod yn hytrach yn dyst i gyflwr gwlyb y tir; roedd y ffiniau yn eu lle erbyn 1840 (map degwm Cynwyl Gaeo). Erbyn hyn mae yna nifer o ffermydd bychan.

Map a atgynhyrchwyd o fap yr OS gyda chaniatad yr Arolwg Ordnans ar ran Rheolwr Llyfrfa Ei Mawrhydi, Hawlfraint y Goron 2001. Cedwir pob hawl. Byddai ei atgynhyrchu heb ganiatad yn torri Hawlfraint y Goron a gall hynny arwain at erlyniad neu achos sifil. Rhif y drwydded: GD272221

Disgrifiad a hanfodion hanesyddol y dirwedd
Mae'r ardal mewn dyffryn ucheldir - dyffryn uchaf afon Fanagoed - rhwng 200m and 250m o uchder. Tirwedd o ffermydd gwasgaredig a chaeau ydyw. Mae'r caeau'n fach ac yn afreolaidd eu sip, a chloddweithiau ac arnynt wrychoedd yn ffiniau iddynt. Ac eithrio ar hyd ymyl y lonydd a'r llwybrau, mae'r gwrychoedd mewn cyflwr gwael; naill ai'n ddilewyrch neu'n ddim mwy na llinellau anniben o lwyni wedi tyfu'n wyllt a choed bychan. Defnydd tir pori wedi'i wella a wneir o'r ffermdir, ond mae yna dir mawnog a brwynog yn gorchuddio llawer o lawr y dyffryn, ac mae rhedyn yn tyfu ar lethrau serth. Ceir clytiau o goetir o goed collddail a phrysgwydd. Lonydd a llwybrau lleol yw'r cysylltiadau i drafnidiaeth. Lleolir y ffermydd prin yn is i lawr ar ochrau'r dyffryn, neu wrth droed ochrau'r dyffryn. Adeiladau deulawr o gerrig thri bae yn y dull brodorol yw'r ffermdai sy'n dyddio o'r 18fed neu'r 19eg ganrif. Mae'r tai allan cerrig o'r un cyfnod fwy neu lai ac yn gymharol fach o ran eu maint. Maent fel arfer ar ffurf un rhes neu ddwy. Mae adeiladau amaethyddol bach modern yn gysylltiedig ffermydd. Nid oes unrhyw ddatblygiad preswyl diweddar.

Cyfyngir archeoleg a gofnodwyd i'r dirwedd cefnen-a-rhych a safle melin.

Nid yw'r adeiladau'n arbennig o nodedig ac nid oes yr un ohonynt yn adeilad rhestredig.

Mae hon yn ardal wedi'i diffinio'n dda ac am y ffin hi ceir gweundir uchel lled agored neu blanhigfeydd coedwigaeth. .

 

 

 

 

 

[cliciwch am rhestr y pynciau os nad yw'n bresennol]