Cartref > Tirweddau Hanesyddol > Dolaucothi >

249 ALLT-Y-HEBOG

CYFEIRNOD GRID: SN 678436
ARWYNEBEDD MEWN HECTARAU: 272.70

Cefndir Hanesyddol
Ardal o fforest fodern o goed coniffer yn nhroedfryniau Mynyddoedd Cambria. Gorweddai gynt o fewn Cwmwd Caeo, Maenor rhwng Twrch a Chothi yn benodol, yng Nghantref Mawr a barhaodd yn arglwyddiaeth Gymreig annibynnol hyd 1284 ac lle y goroesodd systemau tirddaliadaeth cynhenid trwy gydol y cyfnod Canoloesol. Ardal ucheldir ydyw, ond mae'n debyg y gwneid defnydd eithaf dwys o'r tir erioed a cheir dau batrwm rhannu'n gaeau sy'n wahanol iawn i'w gilydd. I'r gorllewin, ar lethr o'r bryn sy'n wynebu'r dwyrain, sef Troed-y-rhiw, a dyffryn Nant y Garth gwelir patrwm o glostiroedd bach, unionlin, y mae rhai ohonynt yn hir a chul ac yn awgrymu mai yr hyn a fu gynt yn gaeau stribed wedi'u llunio'n gaeau ydynt, efallai cae mewnol maenordy. I'r dwyrain, mae bryniau Allt Bryn-teg ac Allt-yr-hebog wedi'u rhannu'n gaeau mawr, rheolaidd eu siâp a hynny'n gymharol ddiweddar, gan mai ar ôl yr arolwg degwm 1840 y'u sefydlwyd (plwyf Cynwyl Gaeo). Mae yna nifer o anheddau/ffermydd cynnar anghyfannedd, yn cynnwys y ddau annedd â'r enwau diddorol, Erw-hen ac Erw-newydd. Nid oes anheddiad diweddar yn yr ardal sydd erbyn hyn wedi'i gorchuddio'n llwyr gan blanhigfa o goed coniffer o ddiwedd yr 20fed ganrif.

Map a atgynhyrchwyd o fap yr OS gyda chaniatad yr Arolwg Ordnans ar ran Rheolwr Llyfrfa Ei Mawrhydi, © Hawlfraint y Goron 2001. Cedwir pob hawl. Byddai ei atgynhyrchu heb ganiatad yn torri Hawlfraint y Goron a gall hynny arwain at erlyniad neu achos sifil. Rhif y drwydded: GD272221

Disgrifiad a hanfodion hanesyddol y dirwedd
Coetir ar lethrau serth dyffryn Cothi Uchaf yw'r ardal gymriad hon. Mae rhwng tua 180m a 340m o uchder. Coetir o goed collddail hynafol gyda phlanhigfeydd mawr o goed coniffer rhyngddynt. Ymddengys fod y mwyafrif o'r planhigfeydd wedi'u sefydlu yn yr hyn a fu gynt yn dir agored, er bod ardaloedd bach wedi'u rhannu'n gaeau bach. Mae ardal fach o goed gwasgaredig, clystyrau bach o goed, a thir pori garw ar lethrau creigiog serth yn rhoi syniad o'r olwg oedd ar lawer o'r dirwedd cyn gorchuddio'r tir â choedwigoedd. Mae'n bosibl mai ystad Dolaucothi a sefydlodd y dirwedd fel yr oedd cyn gorchuddio'r tir â choedwigoedd. Prif elfennau'r dirwedd hanesyddol erbyn hyn yw planhigfeydd a'u llwybrau a'u tramwyfeydd cysylltiedig.

Cyfyngir archeoleg a gofnodwyd i ffermydd a bythynnod anghyfannedd archaeology, a chasgliad o ddarnau arian Rhufeinig.

Ychydig o adeiladau sydd yna ac nid oes yr un ohonynt yn nodedig.

Mae'r ardal hon wedi'i diffinio'n dda i'r de a'r gorllewin gan ffermydd a chaeau ar lawr y dyffryn. Mewn mannau eraill nid yw'r ardaloedd cymeriad wedi'u diffinio eto.