250 ALLT Y BERTH
CYFEIRNOD GRID: SN 706454
ARWYNEBEDD MEWN HECTARAU: 125.4
Cefndir Hanesyddol
Ardal gul yn gorchuddio ochr ogleddol dyffryn Cothi. Gorweddai gynt
o fewn Cwmwd Caeo yng Nghantref Mawr a barhaodd yn arglwyddiaeth Gymreig
annibynnol hyd 1284 (Rees n.d.) a lle y goroesodd systemau tirddaliadaeth
cynhenid trwy gydol y cyfnod Canoloesol. Mae'r llethrau serth o dan orchudd
o goetir o goed collddail a fu mewn bodolaeth trwy gydol y cyfnod hanesyddol
mae'n debyg. Parhad o ffiniau caeau Ardal 251 yw'r ffiniau caeau hynny
sy'n bodoli. Maent i gyd yn ffiniau diweddar gan mai yn y19eg ganrif y'u
lluniwyd yn wreiddiol (map degwm Cynwyl Gaeo, 1840). Nid oes anheddiad
yn awr, ac ni chofnodwyd anheddiad yn y gorffennol.
Map a atgynhyrchwyd o fap yr OS gyda chaniatad yr Arolwg
Ordnans ar ran Rheolwr Llyfrfa Ei Mawrhydi, © Hawlfraint y Goron 2001.
Cedwir pob hawl. Byddai ei atgynhyrchu heb ganiatad yn torri Hawlfraint
y Goron a gall hynny arwain at erlyniad neu achos sifil. Rhif y drwydded:
GD272221
Disgrifiad a hanfodion hanesyddol y dirwedd
Er mor fach ydyw, mae'r ardal gymeriad hon yn ardal nodedig. Fe'i
lleolir ar lethrau serth ac ysgythrog iawn dyffryn Cothi uchaf, llethrau
sy'n wynebu'r de-ddwyrain. Ac eithrio ychydig glytiau bychan o weundir
agored, mae'r ardal gyfan yn ardal goediog. Mae bron y cyfan o'r coetir
hwn yn goed collddail lled naturiol, ynghyd ag ychydig o blanhigfeydd
bach o goed coniffer.
Nid oes archeoleg a gofnodwyd yn yr ardal hon, ac nid oes
adeiladau.
Mae hon yn ardal o gymeriad amlwg iawn. Am y ffin â hi
ceir naill ai ucheldir lled agored neu ffermydd a chaeau ar lawr y dyffryn.
|