251 CEFN BRANDDU
CYFEIRNOD GRID: SN 706463
ARWYNEBEDD MEWN HECTARAU: 315.10
Cefndir Hanesyddol
Ardal gul sy'n gorchuddio ochr ogleddol dyffryn Cothi. Gorweddai gynt
o fewn Cwmwd Caeo yng Nghantref Mawr a barhaodd yn arglwyddiaeth Gymreig
annibynnol hyd 1284 (Rees n.d.) a lle y goroesodd systemau tirddaliadaeth
cynhenid trwy gydol y cyfnod Canoloesol. Ardal o weundir pori yn yr ucheldir
ydyw. Rhannwyd y rhan orllewinol yn fwy diweddar, yn ystod y 19eg ganrif
(map degwm Cynwyl Gaeo, 1840), pryd y'i lluniwyd yn gaeau mawr â ffiniau
syth. Deil y traean dwyreiniol heb ei rannu'n gaeau a mwy na thebyg fod
yr ardal gyfan yn borfeydd comin agored yn ystod y rhan fwyaf o'r cyfnod
hanesyddol. Yr unig dystiolaeth sy'n cofnodi bod y tir wedi'i anheddu
gynt yw bwthyn o'r cyfnod Ôl-ganoloesol, ac efallai mai sgwatwyr a'i cododd.
Nid oes anheddiad yn awr.
Map a atgynhyrchwyd o fap yr OS gyda chaniatad yr Arolwg
Ordnans ar ran Rheolwr Llyfrfa Ei Mawrhydi, © Hawlfraint y Goron 2001.
Cedwir pob hawl. Byddai ei atgynhyrchu heb ganiatad yn torri Hawlfraint
y Goron a gall hynny arwain at erlyniad neu achos sifil. Rhif y drwydded:
GD272221
Disgrifiad a hanfodion hanesyddol y dirwedd
Cefnen uchel copa crwn yw Cefn Branddu sydd yn 400m o uchder ar ei huchaf.
Fe'i rhannwyd yn gaeau mawr gan gloddweithiau, ond mae'r rhain bellach
yn ddilewyrch a ffensys gwifren sy'n cadw da byw rhag crwydro. Defnydd
cymysg a wneir o'r tir, ond tir pori wedi'i wella ydyw gan fwyaf, a cheir
porfa fwy garw a rhedyn ar lethrau serth ac yn y mannau uchaf. Mae yna
goed unigol a chlytiau bychan o goetir o goed collddail lled naturiol
ar y llethrau serth sy'n wynebu'r gogledd-orllewin. Nid oes unrhyw aneddiadau,
a llwybrau a throedffyrdd geirwon yw'r unig gysylltiadau ar gyfer trafnidiaeth.
Yr unig safle archeolegol a gofnodwyd yn yr ardal hon yw
safle'r unig fwthyn.
Nid oes unrhyw adeiladau.
Mae hon yn ardal wedi'i diffinio'n dda. Am y ffin â hi
ceir coetir ar lethrau serth i'r dwyrain a'r de, a ffermydd a chaeau i'r
gorllewin. Ar yr ochrau eraill nid yw'r ardaloedd cymeriad tirwedd wedi'u
diffinio hyd yma.
|