Cartref > Tirweddau Hanesyddol > Dolaucothi >

252 BRYN ARAU DUON

CYFEIRNOD GRID: SN 741484
ARWYNEBEDD MEWN HECTARAU: 698.10

Cefndir Hanesyddol
Ardal o fforest a blannwyd yn nhroedfryniau Mynyddoedd Cambria. Gorweddai gynt o fewn Cwmwd Malláen yng Nghantref Mawr a barhaodd yn arglwyddiaeth Gymreig annibynnol hyd 1284 a lle y goroesodd systemau tirddaliadaeth cynhenid i raddau helaeth trwy gydol y cyfnod Canoloesol (Rees n.d.). Ardal o ucheldir ydyw, sydd erbyn hyn yn hollol agored, a lle y mae'r ffiniau hynny sy'n bodoli yn rhai diweddarach sy'n perthyn i'r 19eg ganrif. Ymddengys fod hyn yn barhad o'r defnydd hanesyddol a wneid o'r tir yn yr ardal, gan mai'r unig anheddiad a gofnodir yw safle ty hir Ôl-ganoloesol. Fodd bynnag, mae map Rees o Dde Cymru yn y 14eg ganrif (Rees 1932) yn dangos llwybr yn rhedeg ar draws yr ardal o'r gogledd-orllewin i'r de-ddwyrain. At hyn, mae tirwedd yr ardal yn dirwedd ddefodol greiriol sy'n perthyn i'r Oes Efydd, ac mae nodweddion defodol ac angladdol megis meini hirion a charneddau, y bwriadwyd iddynt fod yn nodweddion gweledol amlwg yn y dirwedd, yn cyfrannu at bwysigrwydd a chyfoeth hanesyddol yr ardal. Mae yna hefyd yr hyn a fu gynt yn gloddfa plwm bariwm ar gwr deheuol yr ardal. Roedd plwm eisoes yn cael ei gloddio yn yr ardal hon erbyn diwedd y 13eg ganrif, a'r goron yn cymryd un rhan o un ar ddeg o'r mwyn yn dreth (Rees 1968), ond roedd y gwaith wedi dod i ben ar y cyfan erbyn canol y 19eg ganrif. Nid oes anheddiad diweddar yn yr ardal ac erbyn hyn mae fforest o goed coniffer a blannwyd ddiwedd yr 20fed ganrif gan y Comisiwn Coedwigaeth (yr adeg honno) yn ei gorchuddio'n llwyr.

Map a atgynhyrchwyd o fap yr OS gyda chaniatad yr Arolwg Ordnans ar ran Rheolwr Llyfrfa Ei Mawrhydi, © Hawlfraint y Goron 2001. Cedwir pob hawl. Byddai ei atgynhyrchu heb ganiatad yn torri Hawlfraint y Goron a gall hynny arwain at erlyniad neu achos sifil. Rhif y drwydded: GD272221

Disgrifiad a hanfodion hanesyddol y dirwedd
Gorchuddir yr ardal gyfan â phlanhigfa o goed coniffer. Lleolir yr ardal ar fryniau copa crwn a dyffrynnoedd ochrau serth rhwng 250m a 420m o uchder. Gweundir agored oedd yr ardal cyn ei gorchuddio â choedwig. Prif hanfodion y dirwedd yw'r blanhigfa a'i ffyrdd a'i thramwyfeydd cysylltiedig. Mae dwysedd y nodweddion archeolegol a gofnodwyd yn gymharol uchel. Dau faen hir, rhes gerrig a rhes gerrig bosibl, cylch cerrig posibl, grwp o dair carnedd domen ac un garnedd wrth ei hun a dwy garnedd gylch yw'r nodweddion tirwedd a defodol sy'n perthyn i'r Oes Efydd. Ty hir a chloddfa plwm bariwm yw'r safleoedd Canoloesol.

Nid oes adeiladau yn dal i sefyll.

Mae hon yn ardal ar wahân gan fod gweundir agored, neu gaeau a ffermydd ar loriau'r dyffryn yn ei ffinio.