Cartref > Tirweddau Hanesyddol > Tywi >

180 GORLIFDIR LLANW TYWI

CYFEIRNOD GRID: SN 399147
ARWYNEBEDD MEWN HECTARAU: 364.80

Cefndir Hanesyddol
Ffurfiwyd tirwedd y gorlifdir llawn ar y naill ochr a'r llall i Afon Tywi mewn nifer o gyfnodau, er bod y rhan fwyaf ohoni - yn ei ffurf bresennol - yn gymharol ddiweddar. Fodd bynnag, ymddengys fod cwrs presennol yr afon yn hanner gogleddol yr ardal wedi aros yn weddol gyson ers o leiaf y cyfnod Canoloesol, pan orweddai glan orllewinol o fewn Arglwyddiaethau Caerfyrddin a Llansteffan ac roedd y lan ddwyreiniol yn perthyn i Arglwyddiaeth Cydweli (Rees 1932). Crybwyllir sawl ardal o forfa heli mewn adroddiadau cyfoes, pan y'i delid yn uniongyrchol o'r goron fel tir comin ar gyfer pori tymhorol, fel y dengys yr enwau 'Morfa Brenin' a 'King and Queen's Marsh' (James 1980, 42-44). Lleolid darn o dir comin i'r de o'r ardal ym Morfa Uchaf, ger Glanyfferi.

Map a atgynhyrchwyd o fap yr OS gyda chaniatad yr Arolwg Ordnans ar ran Rheolwr Llyfrfa Ei Mawrhydi, © Hawlfraint y Goron 2001. Cedwir pob hawl. Byddai ei atgynhyrchu heb ganiatad yn torri Hawlfraint y Goron a gall hynny arwain at erlyniad neu achos sifil. Rhif y drwydded: GD272221

Disgrifiad ac elfennau hanfodol y dirwedd hanesyddol
Mae gorlifdir llanw Afon Tywi yn ymestyn o Lansteffan i'r de i Gaerfyrddin yn y gogledd, pellter o ryw 10 km. Mae'r tir yn yr ardal hon yn cynnwys yn bennaf siltiau a thywodydd a gronnwyd yn ddiweddar. Mae hyn yn dra amlwg yn rhan ddeheuol yr ardal lle na cheir ond traeth Llansteffan a morfa heli. Ymhellach i fyny'r afon mae'r dyddodiadau'n hþn, ac maent yn ffurfio morfa; fodd bynnag, maent yn cael eu boddi gan y llanw yn aml. Nid ymchwiliwyd i'r hanes sy'n gysylltiedig â draenio ac adennill y tir yn y fan hon; fodd bynnag, i'r de o Gaerfyrddin lle y mae dyffryn yn ymagor yn orlifdir sydd bron yn 1 km o led, mae ffosydd draenio a ffensys gwifrau'n rhannu'r ardal yn borfa dymhorol arw. Ar wahân i ardal o amgylch Pil-roath a Choed Marsh, nid ymddengys fod unrhyw ymdrech wedi'i gwneud ar y cyd i ddraenio'r ardal trwy adeiladu amddiffynfeydd arfordirol, ac mae diffyg clostiroedd neu unrhyw dystiolaeth ffisegol o systemau draenio ffurfiol y gellir ei gweld ar unwaith ee. naill ai gafael, neu gefnen a rhych, yn hanner deheuol yr ardal, yn awgrymu mai ardal o forfa a thywod a fu erioed.

Mae'r archeoleg a gofnodwyd yn gyfyngedig i'r cyfryw nodweddion arforol megis maglau pysgod, safleoedd llongddrylliadau ac arwyddion mordwyo yn dyddio o'r cyfnod Ôl-Ganoloesol. Fodd bynnag, cofnodwyd man darganfod yn dyddio o'r Oes Efydd gerllaw Llansteffan.

Mae adeiladau wedi'u cyfyngu i odyn calch Ôl-Ganoloesol.

Ardal ddiffiniedig ydyw a leolir rhwng y Marc Penllanw a'r tir amgaeëdig sy'n codi i'r dwyrain a'r gorllewin. Dim ond i'r gogledd, lle y mae'r ardal yn ymgyfuno â'r morfa llanw islaw tref Caerfyrddin, y mae'r ffin yn aneglur.