Cartref > Tirweddau Hanesyddol > Tywi >

181 CAERFYRDDIN

CYFEIRNOD GRID: SN 411198
ARWYNEBEDD MEWN HECTARAU: 733. 10

Cefndir Hanesyddol
Mae cryn dipyn o nodweddion tirwedd hanesyddol wedi goroesi yn ardal adeiledig tref Caerfyrddin, a fu yn ei thro yn brifddinas civitas Rhufeinig, bwrdeistref Ganoloesol a thref sirol. Sefydlasid tref Rufeinig Moridunum erbyn dechrau'r 2il ganrif fel maestref ddwyreiniol caer yn dyddio o 75 OC (James 1992, 32). Cynrychiolir yr Oesoedd Tywyll gan eglwys glas Teulyddog Sant ymhellach i'r dwyrain, ac o bosibl gan eglwys y plwyf, sef eglwys Sant Pedr, sy'n sefyll dros ran o'r giât orllewinol Rufeinig. Mae hanes Caerfyrddin ar ôl y Goncwest (y mae'r fersiwn hwn ohono wedi'i seilio ar James 1980, a Lodwick a Lodwick 1972) yn dechrau pan sefydlwyd castell ym 1093, nid ar y safle presennol ond yn Rhydygors i'r de o'r ardal dirwedd. Gadawyd y safle hwn o blaid safle'r castell presennol ym 1109, a ddewiswyd yn ddiau am resymau strategol a hithau'n edrych dros fan pontio a ddefnyddid o bosibl gan y Rhufeiniaid, ond a oedd yn ddigon pell o'r clas ac eglwys Sant Pedr - a elwid gyda'i gilydd ar ôl hynny yn 'Hen Gaerfyrddin' - fel nad ystyrid ei fod yn ymyrryd â'r dref. Datblygodd y castell, a sefydlwyd gan y brenin, fel ffocws i fwrdeistref fach - Caerfyrddin Newydd - a gafodd siarter o dan Harri II, ac amddiffynfeydd o waith maen a adeiladwyd yn y 1230au. Datblygodd maestref sylweddol ar hyd llwybr gorllewinol y dref (Stryd Lammas) a rhwng y dref gaerog ac Eglwys Sant Pedr, ar hyd Stryd y Brenin a Stryd Spilman. Ym 1275 roedd 181 o fwrdeisiaid ond bu'r weithred o ddyrchafu Caerfyrddin yn dref sirol ym 1282 yn ddiau yn symbyliad i ragor o anheddu. Roedd cyn eglwys glas Teulyddog Sant wedi'i had-drefnu yn briordy Awstinaidd ym 1125, a sefydlwyd ffreierdy Ffransisgaidd i'r gorllewin o'r dref rhwng 1272 a 1282. Ymosodwyd ar Gaerfyrddin nifer o weithiau yn ystod y 12fed ganrif, a gwarchaewyd ar y dref gan Owain Glyndw^r ym 1407 ac yn ystod y rhyfel cartref. Fodd bynnag, ni chafwyd erioed rwystr difrifol i ddatblygiad domestig y dref a pharhaodd Caerfyrddin i fod y dref bwysicaf yng Nghymru, ac un o'r fwyaf, tan y Chwyldro Diwydiannol. Lleolid maenor demên bwrdeistref Caerfyrddin yn Llanllwch, 4 km i'r gorllewin o'r dref, gyda chnewyllyn o amgylch y felin a'r eglwys ganoloesol. Er bod y faenor yn uned weinyddol yn hytrach nag uned diriogaethol, a'i bod wedi'i lleoli yn bennaf y tu hwnt i'r ardal gymeriad hon lle y'i coffeir yn yr enw Manor Farm, nodwyd ardaloedd sylweddol cefnen a rhychau gynt o amgylch yr eglwys ei hun. O'r 14eg ganrif ymlaen gosodwyd y demên ar rent i denantiaid yn ôl y ddefod. Daeth Caerfyrddin yn ganolbwynt i nifer o ddiwydiannau yn y 18fed ganrif, gyda llawer ohonynt yn manteisio ar ddyfrffosydd mynachaidd megis y gwaith haearn a sefydlwyd gan Robert Morgan ar safle'r priordy ym 1748 a'r felin bapur a'r felin wlân a gyflenwid gan ffrwd y ffreierdy, tra datblygodd Treioan fel anheddiad i'r gorllewin o'r dref. Cysylltwyd Caerfyrddin â'r prif rwydwaith rheilffyrdd ym 1852. Fodd bynnag, ers diwedd y 19eg ganrif mae wedi datblygu yn bennaf fel canolfan weinyddol amaethyddol a rhanbarthol, ar gyfer ymhlith pethau eraill addysg a gofal iechyd.

Map a atgynhyrchwyd o fap yr OS gyda chaniatad yr Arolwg Ordnans ar ran Rheolwr Llyfrfa Ei Mawrhydi, © Hawlfraint y Goron 2001. Cedwir pob hawl. Byddai ei atgynhyrchu heb ganiatad yn torri Hawlfraint y Goron a gall hynny arwain at erlyniad neu achos sifil. Rhif y drwydded: GD272221

Disgrifiad ac elfennau hanfodol y dirwedd hanesyddol
Mae'r dref hanesyddol yn ymestyn ar hyd glan ogleddol Afon Tywi o'i chraidd lle y mae'r castell yn edrych dros y bont, er bod datblygiad wedi ymestyn ar hyd y ddwy lan erbyn hyn. Mae rhan sylweddol o hanner dwyreiniol y dref hanesyddol yn ymestyn dros ardal lle y safai tref Rufeinig Moridunum, a gafodd effaith sylweddol ar y topograffi presennol a chynllun y strydoedd. Gellir gweld tystiolaeth o hyn mewn ardal hirsgwar, sy'n dal heb ei datblygu i raddau helaeth, sy'n dilyn llinell yr amddiffynfeydd sy'n dyddio o ddiwedd yr 2il ganrif o bobtu i'r stryd echelinol o'r enw Stryd y Priordy (James 1992, 32.) Castell mwnt a beili yw'r castell, a bu'r beili mewn defnydd parhaol o'r 1780au hyd at y 1920au fel carchar, a gynlluniwyd yn wreiddiol gan John Nash, ac o 1938 ymlaen fel Neuadd y Sir. Datblygodd y castell fel y ffocws ar gyfer ar gyfer bwrdeistref a gynrychiolir gan y Guild Square presennol, Nott Square,Quay Street a Stryd y Bont, lle yr adeiladwyd amddiffynfeydd yn y 1230au. Codwyd wal o amgylch y faestref o gwmpas Stryd y Brenin a Stryd Spilman ar ddechrau'r 15fed ganrif ac mae amddiffynfeydd a godwyd adeg y rhyfel cartref wedi dylanwadu ar gynllun y strydoedd yn rhan orllewinol y dref hanesyddol. Mae'r priordy a'r ffreierdy oedd mor nodweddiadol o dopograffi Canoloesol Caerfyrddin wedi diflannu erbyn hyn. Erbyn hyn saif archfarchnad Tesco ar safle'r priordy tra ceir meysydd chwarae ar yr ail. Fodd bynnag, ni fu fawr ddim ailddatblygu o fewn craidd y dref hanesyddol, ac mae'r mwyafrif o'r ffiniau'n adlewyrchu lleiniau o dir bwrdais yn dyddio o'r Canol Oesoedd. Hyd yn ddiweddar llwybrau prifwythiennol oedd y strydoedd echelinol, Stryd y Priordy a Stryd Lammas. Nodweddir Caerfyrddin gan nifer o dai tref o ansawdd da sydd wedi'u canoli'n bennaf yng nghanol y dref, tra lleolir y mwyafrif o adeiladau'r 18fed ganrif a'r 19eg ganrif ar ei chyrion. Ystyrid bod bythynnod a thai teras Stryd y Priordy o ansawdd gwael gan lygad-dystion cyfoes. Ni chafodd diwydiant fawr ddim effaith ar forffoleg ac amgylchedd y dref, a'r diwydiant manwerthu, addysg a datblygiadau ym maes gofal iechyd sydd wedi effeithio arni yn bennaf. Sefydlwyd coleg diwinyddol ym 1848, coleg celf ym 1854 a choleg technegol ym 1927, a sefydlwyd tair ysgol uwchradd yn y 19eg ganrif a'r 20fed ganrif. Sefydlwyd ysbyty seiciatrig ym 1865 a sefydlwyd ysbyty cyffredinol rhanbarthol mawr yn y 1950au-60au ar safle newydd i'r gogledd o'r dref yn y 1960au. Adeiladwyd tai cyngor sylweddol yn y 1950au-60au yn Neuadd y Parc ac yn Nhregynwr, i'r de o'r dref. Datblygodd strimyn o fannau manwerthu ym Mhensarn, ar hyd y ffordd i'r de o'r dref, ar ddiwedd yr 20fed ganrif ac ehangodd pan ail-leolwyd prif swyddfa ddosbarthu Swyddfa'r Post yn y fan hon yn y 1980au. O ganlyniad i sefydlu ffordd osgoi'r de yng nghanol y 1980au datblygwyd mannau manwerthu mawr y tu allan i'r dref rhwng y ffordd osgoi a'r coleg technegol. Saif un o'r siopau hyn ar safle Tþ Rhydygors, cyn blasty. Mae'n debyg y caiff cwblhau ffordd osgoi'r dwyrain ym 1999 effaith debyg ar ochr ddwyreiniol y dref, ac ar Ardal 186.

Mae'r archeoleg a gofnodwyd yn cynnwys nodweddion o'r cyfnod Rhufeinig hyd at y cyfnod Modern. Mae gwaith cloddio wedi datgelu llawer o'r cynllun strydoedd a'r adeiladau Rhufeinig, manylion y gaer Rufeinig, yn ogystal â'r amffitheatr i'r dwyrain o'r dref. Castell mwnt a beili oedd y castell, ac mae'r mwnt i'w weld heddiw wedi'i goroni â gwaith maen o'r 13eg ganrif (a gwaith maen diweddarach). Fodd bynnag, ychydig sydd wedi goroesi o waliau'r dref a'r unig adeilad Canoloesol arall yw Eglwys Sant Pedr, ond mae rhan o'r gwrthgloddiau a godwyd fel amddiffynfeydd yn ystod y rhyfel cartref wedi goroesi. Mae safleoedd y ffreierdy a'r priordy Canoloesol wedi'u cloddio.

Ceir nifer fawr o adeiladau rhestredig - tua 190 yn yr ardal dirwedd hon - sy'n dai tref yn bennaf sy'n adlewyrchu statws Caerfyrddin fel tref sirol. Yn eu plith hefyd ceir neuadd y dref a gynlluniwyd gan John Nash, a'r farchnad, y ddwy yn dyddio o'r 1770au, y castell Canoloesol ac eglwys y plwyf, yr eglwys Ganoloesol yn Llanllwch, eglwysi a chapeli diweddarach, ac ysbyty Dewi Sant. Cynlluniwyd Neuadd y Sir, a sefydlwyd ym 1938, yn null plasty Ffrengig gan Syr Percy Thomas. Mae'r bont bresennol hefyd yn dyddio o'r 1930au ac fe'i lleolir ar safle'r bont Ganoloesol.

Mae'r ardal adeiledig hon yn wahanol i'r ardaloedd gwledig oddi amgylch i'r de ac i'r gorllewin. Ni ddiffiniwyd ardaloedd cymeriad i'r gogledd ac i'r dwyrain eto.