Cartref > Tirweddau Hanesyddol > Tywi >

182 YSTRAD TYWI: CAERFYRDDIN - LLANDEILO

CYFEIRNOD GRID: SN 530209
ARWYNEBEDD MEWN HECTARAU: 1752.00

Cefndir Hanesyddol
Ardal hir iawn, ond cul sy'n ymestyn o Gaerfyrddin yn y gorllewin i Landeilo yn y dwyrain, a leolir yng ngorlifdir llifwaddodol ffrwythlon Afon Tywi ac sy'n cynnwys darnau byr o ddwy o'i hisafonydd, Afon Cellyn ac Afon Dulas. Y dyffryn oedd y coridor i'r prif lwybr hanesyddol i Orllewin Cymru. Dilynai'r ffordd Rufeinig o Gaerfyrddin i Lanymddyfri'r rhyngwyneb rhwng y llifwaddod a daeareg solet ochr ogleddol Afon Tywi, ac fe'i dilynir fwy neu lai gan ffordd fodern yr A40(T). Mae'r ffordd Rufeinig yn ffurfio ochr ogleddol yr ardal hon rhwng Felin-wen a Nantgaredig. Yma mae'n croesi dyddodion llifwaddodol, sy'n awgrymu bod cwrs Afon Tywi wedi bod yn weddol sefydlog ers cyfnod cynnar, efallai cyn belled yn l 'r Oes Efydd gan fod tri chrug crwn wedi'u lleoli gerllaw Felin-wen. Yn ystod y cyfnod Canoloesol, fodd bynnag, defnyddid un o'r ystumllynnoedd, gerllaw Abergwili, fel pwll pysgod gan Esgobion Tyddewi. Yn ystod y cyfnod hwn yr afon oedd un o brif ffiniau Sir Gaerfyrddin, a gwahanai Gantref Mawr ar y lan ogleddol oddi wrth Gantref Bychan (Iscennen yn benodol) a Chydweli ar y lan ddeheuol (Rees, 1932). Felly o ran deiliadaeth mae hanes brith wedi bod i'r ardal gymeriad, a phrofodd gyfnod cythryblus o ryfela tan ddiwedd y 13eg ganrif. Parhaodd Cantref Mawr i fod yn arglwyddiaeth Gymreig annibynnol tan 1284, roedd Cydweli wedi bod mewn dwylo Eingl-Normanaidd ers tua 1110 ond parhaodd Iscennen i fod yn annibynnol mewn enw, yn wahanol i weddill Cantref Bychan, tan 1284 (Rees 1953, xv). Mae tair pont yn croesi Afon Tywi rhwng Caerfyrddin a Llandeilo, pob un yn dyddio o'r cyfnod Canoloesol, a rhedai fferi yn Nglantowylan. Mae Afon Tywi yn gorlifo ei glannau o leiaf unwaith y flwyddyn, tra soniwyd am natur goediog y dyffryn gan ysgrifenwyr cyfoes yr ymddengys eu bod yn cynnwys y gorlifdir. Ysgrifennodd Leland, yn y 1530au, fod ardal Dryslwyn er enghraifft yn 'lle anodd iawn a llawn rhwystrau i fynd trwyddo' (Smith 1906). Fodd bynnag mae'r system cefnen a rhych, a nodwyd trwy'r ardal drwyddo draw, yn tystio yr arferid amaethu'r pridd ffrwythlon iawn hwn gynt a hynny ers diwedd y cyfnod Canoloesol o leiaf. Ychydig iawn o anheddu a fu erioed ar y gorlifdir ei hun ond mae'n digwydd ar 'ynysoedd' uchel o fewn y llifwaddod, ac mae'n bosibl bod yr 'ynys' uchel yng Nglantywilan wedi bod yn safle pentrefan. Fodd bynnag nodweddir y patrwm anheddu yn bennaf gan ffermydd anghysbell ac o'r rhain mae'n bosibl bod Beili-glas, Pentre Davis a Ro-fawr yn dyddio o gyfnod cynnar. Roedd y dirwedd wedi'i hamgu 'r patrwm presennol o gaeau rheolaidd erbyn i'r arolygon degwm gael eu cynnal yn ail chwarter y 19fed ganrif, proses yr ymgymerwyd hi o bosibl yn ystod y 18fed ganrif. Ni cheir creiddiau unrhyw ystadau pwysig o fewn yr ardal hon. Defnyddiai mathau diweddarach o drafnidiaeth y dyffryn hefyd. Dilynai ffordd dyrpeg, a sefydlwyd ym 1763-71 (Lewis, 1971, 43) fwy neu lai linell y Ffordd Rufeinig a chroesir yr ardal gyfan gan brif linell reilffordd Gorllewin Cymru y cyn LNWR a agorwyd, fel 'Llinell Dyffryn Tywi', gan Gwmni Rheilffordd a Dociau Llanelli ym 1855 (Gabb, 1977, 76). Torrai camlas, Camlas Gelli Aur, trwy ran o hanner dwyreiniol y gorlifdir yn yr 17eg ganrif, ac fe'i defnyddid i gludo glo o Afon Tywi i Blasty Gelli Aur yn Ardal 193 (Sambrook 1995, 75). Fodd bynnag nid oes unrhyw wir hanes diwydiannol ac ardal amaethyddol fu'r ardal hon erioed; yn y cyfamser cynrychiolir gweithgareddau hamdden gan gae rasio o'r 18fed ganrif neu ddechrau'r 19eg ganrif a leolir yn un o ystumiau'r afon yng Nglantowylan.

Map a atgynhyrchwyd o fap yr OS gyda chaniatad yr Arolwg Ordnans ar ran Rheolwr Llyfrfa Ei Mawrhydi, Hawlfraint y Goron 2001. Cedwir pob hawl. Byddai ei atgynhyrchu heb ganiatad yn torri Hawlfraint y Goron a gall hynny arwain at erlyniad neu achos sifil. Rhif y drwydded: GD272221

Disgrifiad ac elfennau hanfodol y dirwedd hanesyddol
Disgrifiwyd gorlifdir llifwaddodol Afon Tywi yn Arolwg Defnydd Tir Prydain 1946 fel 'y tir llaethyddiaeth gorau ei ansawdd yn y wlad' (Cadw/ICOMOS, 1998, 27. Ar gyfartaledd mae'r ardal yn gilomedr o led ac mae'n codi llai nag 20 m dros yr 20 km rhwng Caerfyrddin a Llandeilo. Mae rhannau o'r afon mewn cylch erydu a dyddodi; mae rhai o ystumiau Afon Tywi yn weithredol, ac mae'r ystumllynnoedd yn arbennig o niferus i'r dwyrain o Abergwili lle y mae Pwll yr Esgob erbyn hyn yn warchodfa natur, ac i'r gorllewin o Barc Dinefwr, Llandeilo, ond mae'r rhain yn hen ac mae'r rhan fwyaf o'r gorlifdir yn sefydlog ac mae wedi'i amgu ers amser hir. Mae'r caeau yn fach i ganolig eu maint ac maent yn dueddol o fod yn rheolaidd eu sip, er y ceir llawer o batrymau gwahanol o gaeau bach afreolaidd i gaeau mawr rheolaidd. Gwrychoedd heb gloddiau a gwrthgloddiau gwrychoedd ar eu pennau sy'n ffurfio ffiniau'r caeau. Mae'r cyntaf wedi'u plannu ar lawr y dyffryn i hwyluso draenio llifddwr yn l pob tebyg. Mae cyflwr y ffiniau hyn yn amrywio. Mewn rhai lleoliadau, megis rhwng Abergwili a Felin-wen, maent yn cael eu cynnal a'u cadw'n dda ac maent mewn cyflwr da, ond mewn mannau eraill maent wedi torri i lawr yn gyfan gwbl ac mae'r gwrychoedd naill ai'n ddiffaith neu maent wedi diflannu. Mae ffosydd hefyd yn ffurfio rhai ffiniau. Defnyddir ffensys gwifrau yn ogystal 'r holl ffiniau hanesyddol. Erbyn hyn porfa wedi'i gwella a geir dros bron y cyfan o lawr y dyffryn. I bob pwrpas nid oes unrhyw goetir bellach, ond mae coed nodweddiadol, mewn gwrychoedd, ar eu pennau eu hunain neu mewn clystyrau bach ar hyd y dyffryn i gyd, ond yn arbennig y rhai sy'n agos at greiddiau ystadau Dinefwr a Gelli Aur, yn rhoi golwg 'parcdir' i'r ardal. Ar wahn i 'ynysoedd' o dir ychydig yn uwch, mae Afon Tywi yn gorlifo'r ardal hon i gyd o leiaf unwaith bob gaeaf. Ar yr 'ynysoedd' hyn y lleolir nifer o ffermydd. O'r prif ffyrdd mae'r A40(T) yn rhedeg ar dir uwch i'r gogledd, ac mae'r B4300 yn rhedeg heibio i'r ardal i'r de. Mae hen linell y rheilffordd a adeiladwyd ar arglawdd isel i osgoi llifogydd yn un o nodweddion arbennig y gorlifdir.

Mae'r archeoleg a gofnodwyd yn gymharol brin. Mae mannau darganfod yn cynnwys darganfyddiadau o'r Oes Efydd a chelc arian bath Rhufeinig. Mae tri chrug crwn o'r Oes Efydd gerllaw Felin-wen, un sy'n gofrestredig, ac o leiaf un maen hir o'r Oes Efydd. Ceir tystiolaeth o'r Ffordd Rufeinig a llinell reilffordd y LNWR mewn caeau, a phrin y gellir gweld llinell camlas Gelli Aur. Mae safleoedd melin dr, a dau gapel diflanedig, o'r cyfnod Canoloesol.

Ychydig iawn o adeiladau arbennig sydd. O'r tair pont dros Afon Tywi mae Pont Llandeilo Rwnws, a adeiladwyd o gerrig ym 1786, yn rhestredig Gradd II; ceir nifer o bontydd llai pwysig. Mae adeiladau gorsafoedd Gelli Aur a Dryslwyn wedi goroesi o fewn yr ardal hon ac erbyn hyn anheddau preifat ydynt, ynghyd ag un o borthordai Gelli Aur. Ychydig o ffermydd a bythynnod sydd ond mae Glantowylan, Beili-glas, Pentre Davis, Ro-fawr a fferm plasty Abercothi, a sefydlwyd erbyn 1857 (Jones 1987, 1), yn sylweddol. At ei gilydd strwythurau yn y dull Sioraidd 'bonheddig' a adeiladwyd o gerrig yn y 18fed ganrif a'r 19eg ganrif yw'r rhain a ffermydd eraill.

Mae gan ffermydd resi sylweddol o dai allan a adeiladwyd o gerrig, rhai ohonynt wedi'u trefnu'n lled-ffurfiol o amgylch iard. Mae gan y mwyafrif o ffermydd adeiladau amaethyddol modern. Mae'r rhan hon o Ystrad Tywi yn nodweddiadol iawn ac iddi ffiniau a nodir gan lawr ochrau'r dyffryn. Yn y mwyafrif o leoliadau mae'r ffin hon yn bendant iawn, ond yn ymyl Nantgaredig ar ochr ddeheuol y dyffryn gerllaw Llandeilo ceir ardal drawsnewidiol, yn hytrach na ffin bendant.

 

 

 

 

 

 

[cliciwch am rhestr y pynciau os nad yw'n bresennol]