|
183 ABERGWILI - PLWYF LLANEGWAD
CYFEIRNOD GRID: SN 477247
ARWYNEBEDD MEWN HECTARAU: 5017.00
Cefndir Hanesyddol
Ardal fawr i'r gogledd o Afon Tywi. I'r de yn codi'n uchel uwchben
yr ardal ceir tri chlogwyn yn edrych dros yr afon. Ar ben y clogwyn dwyreiniol
lleolid bryngaer fawr ym Merlin's Hill. Mae'n bosibl bod y fryngaer hon
yn ganolbwynt i diriogaeth fawr (yn cynnwys y rhan fwyaf o Ardal 183)
ac mae'n bosibl bod iddi statws oppidum bron - awgrymwyd i'r boblogaeth
gael ei symud trwy rym i dref Rufeinig newydd Moridunum (Williams 1988,
11). Fodd bynnag, nid oes unrhyw dystiolaeth ffisegol amlwg o unrhyw systemau
caeau yn perthyn i'r Oes Haearn o fewn yr ardal. Effeithiwyd ar lawer
o ddatblygiadau yr ardal ar ôl hynny gan ei chysylltiad â'r brif ffordd
Rufeinig i Orllewin Cymru, sy'n ffurfio ffin ddeheuol yr ardal (gweler
isod). Yn ystod y cyfnod hanesyddol lleolid y rhan fwyaf o'r ardal o fewn
hanner deheuol cwmwd, ac yn ddiweddarach gantref, Widigada (Rees 1932).
Fe'i trosglwyddwyd i'r Brenin Harri I yn fuan ar ôl sefydlu'r castell
yng Nghaerfyrddin (James 1980, 23) ac fe'i delid o'r goron fel rhan o
'Uchelarglwyddiaeth' Caerfyrddin. Lleolid rhan ddwyreiniol yr ardal, i'r
dwyrain o Afon Cothi, o fewn cwmwd/cantref Cetheiniog, a ddelid o arglwyddiaeth
Gymreig annibynnol Cantref Mawr tan 1284 pan unwyd y ddwy ardal yn dilyn
sefydlu sir Caerfyrddin. Gall natur gymharol gydryw y dirwedd bresennol
gynrychioli undod hanesyddol o ran y defnydd a wneid o'r tir - mae llawer
o'r ardal uwchben 200 m o uchder a hwyrach mai tir pori fu erioed. Roedd
yr eglwys a bwrdeistref Abergwili ym meddiant Esgobion Tyddewi a saif
'Melin yr esgob' o fewn yr ardal; fodd bynnag, nid oes unrhyw dystiolaeth
bod yr esgobion yn berchen ar ddeiliadaethau amaethyddol ar raddfa fawr.
Perthynai rhan dde-ddwyreiniol yr ardal i Faenor Frwnws, sef maenor helaeth
a oedd yn eiddo i Abaty Talyllychau a ymestynnai i mewn i Ardal 191 (Richards
1974, 119). Mae'n bosibl ei fod yn rhan o'r tir a roddwyd yn wreiddiol
gan Rhys ap Gruffudd yn ystod y 1180au-90au ac fe'i crybwyllir ym 1324
a 1589 (ibid.). Mae dogfen ddiweddarach, sef Rhôl Faenoraidd Talyllychau,
dyddiedig 1633, (Owen 1894, 92-107), yn rhoi lleoliad a maint y mwyafrif
o faenorau Talyllychau ond hepgorwyd Maenor Frwnws, oherwydd iddi gael
ei rhannu o bosibl. Nid yw ei harferion deiliadol, amaethyddol na bugeiliol
yn hysbys, ond mae'n debyg, gyda'r mwyafrif o faenorau eraill, fod tir
wedi'i osod ar rent a'i ffermio gan denantiaid a sefydlodd ragflaenwyr
y ffermydd modern. O fewn cwrtil y faenor saif eglwys Sant Mihangel, Llanfihangel-uwch-Gwili
('Llanfihangel Llechweilir) a fu, fodd bynnag, bob amser yn eglwys anwes
i blwyf Abergwili ac ym meddiant, felly, Eglwys Gadeiriol Tyddewi (Ludlow
1998). Adlewyrchir yr hyn a all fod yn un o ddeiliadaethau Marchogion
yr Ysbyty yn yr enw lle Ysbyty Ifan ond ni phrofwyd hyn eto. Nid ymddengys
i unrhyw ystadau bonedd ddatblygu o dir Abaty Talyllychau o fewn yr ardal
hon ac nid ymddengys fod tþ cyfagos Wern-drefi, o'r 17eg ganrif, yn sefyll
ar yr hyn a arferai fod yn dir mynachaidd (Jones 1987, 196). Fodd bynnag,
roedd nifer o dai bonedd o fewn yr ardal gan gynnwys Castell Pigyn, a
berthynai i'r esgob ym 1561 (Jones 1987, 26) ond a fu'n eiddo i berchenogion
preifat yn ddiweddarach. Dywedir bod Gilfach-y-berthog yn dyddio o 1327
ac mae'n bosibl mai hwn oedd cartref Llywelyn Foethus a sefydlodd gapel
gerllaw Allt?y?ferin, Cwmgwili, a oedd yn bodoli erbyn tua 1460. Roedd
Hendre Hedog yn perthyn i'r teulu Lloyd o Lansteffan ym 1575, roedd Allt-y-gôg,
Gelli-fergam, Hengil a Phen-y-banc Ucha wedi'u sefydlu erbyn 1600, a Beili-glas,
Esgair-holiw, Pant-yr ystrad a Phen-y-banc Issa erbyn yr 17eg ganrif o
leiaf (Jones 1987). Nid oedd yr un o'r rhain yn ganolbwynt i ystad fawr
ac ni cheir tirweddau unrhyw ystadau o fewn yr ardal hon. Mae diwydiant
wedi gadael ei ôl yn Felingwm lle y câi nifer o felinau, o wahanol swyddogaeth,
eu gyrru gan Afon Cothi a lifai'n gyflym, a suddwyd nifer o gyn fwyngloddiau
plwm yn ardal y clogwyni yn edrych dros Afon Tywi. Ychydig iawn o ddatblygu
a fu yn ystod yr ugeinfed ganrif, ond yn y cyfnod modern mae datblygu
wedi digwydd ar hyd ffordd yr A485, gan arwain at ddatblygu llinellol
ac aneddiadau cnewyllol bach ym Mheniel a Rhydargaeau
Map a atgynhyrchwyd o fap yr OS gyda chaniatad yr Arolwg
Ordnans ar ran Rheolwr Llyfrfa Ei Mawrhydi, © Hawlfraint y Goron 2001.
Cedwir pob hawl. Byddai ei atgynhyrchu heb ganiatad yn torri Hawlfraint
y Goron a gall hynny arwain at erlyniad neu achos sifil. Rhif y drwydded:
GD272221
Disgrifiad ac elfennau hanfodol y dirwedd hanesyddol
Er ei bod yn fawr iawn, mae'r ardal dirwedd hanesyddol hon, gyda'i
bryniau tonnog o borfa amgaeëdig a ffermydd gwasgaredig, yn un gydlynol.
O gymer llawr dyffryn Afon Tywi i'r de ar 15 m uwchben lefel y môr, mae'r
ardal yn codi'n serth i dros 100 m, ac yn parhau i godi mewn cyfres o
fryniau crwn yn frith o ddyffrynnoedd wedi'u haendorri'n ddwfn i dros
240 m. Mae ochrau'r dyffrynnoedd yn serth ac yn aml wedi'u gorchuddio
â choetir collddail hynafol. Fodd bynnag, mae'r rhan fwyaf o'r ardal hon
yn cynnwys clostiroedd o borfa fras. Porfeydd wedi'u gwella yw'r mwyafrif
llethol o'r rhain ac ni cheir fawr ddim porfa arw a thir heb ei wella.
Mae'r caeau'n fach i ganolig eu maint ac yn afreolaidd. Yn gyffredinol
gwrthgloddiau â gwrychoedd ar eu pennau sy'n ffurfio'r ffiniau. Fel arfer
mae'r gwrychoedd ar lefelau is mewn cyflwr da, er bod bylchau'n agor mewn
rhai ohonynt. Ar lefelau uwch maent yn dueddol o gael eu hesgeuluso ac
yn y fan hon maent wedi mynd yn ddiffaith i ryw raddau. Ar ben hynny mae
ffensys gwifrau'n rhedeg ar hyd y mwyafrif o'r ffiniau. Mae coed gwrychoedd
nodweddiadol i'w gweld, ond nid ydynt yn gyffredin. Nodweddir yr hen batrwm
anheddu sefydlog gan ffermydd gwasgaredig yn bennaf, gyda chlystyrau o
ffermydd yn Felin-wen a Felingwm-uchaf. Mae datblygu strimyn modern wedi
digwydd ar hyd priffyrdd. O fewn yr ardal hon mae tri phrif lwybr. Yr
un pwysicaf yw'r coridor ar hyd ffiniau deheuol yn nyffryn Tywi ar hyd
y rhyngwyneb rhwng y llifwaddod a daeareg solet ochr ogleddol yr afon.
Yn y fan hon mae'r A40(T) - a uwchraddiwyd ym 1999 fel rhan o ffordd osgoi
ddwyreiniol Caerfyrddin - yn seiliedig ar ffordd dyrpeg, sydd yn ei thro
yn dilyn llwybr y ffordd Rufeinig o Gaerfyrddin i Lanymddyfri. Mae ffordd
yr A485 o Gaerfyrddin i Landeilo o'r gogledd i'r de yn rhedeg yn agos
at ffin orllewinol yr ardal ac mae'r ffordd hon hefyd yn dilyn llwybr
cyffredinol ffordd Rufeinig. Mae'r B4310 yn rhedeg o'r gogledd i'r de
ar draws rhan ddwyreiniol yr ardal. Mae'r archeoleg a gofnodwyd o ardal
dirwedd mor fawr yn cynnwys ystod o safleoedd o bob cyfnod. Fodd bynnag,
mae safleoedd nodedig yn cynnwys y fryngaer fwy o faint ym Merlin's Hill
a'r ffordd Rufeinig.
Mae archeoleg gynhanesyddol a Chanoloesol yn ymwneud yn
bennaf â'r defnydd amaethyddol a wneid o'r tir ond mae nodweddion Ôl-Ganoloesol
yn cynnwys capeli, melinau a siafftiau mwyngloddiau plwm.
Mae eglwys Sant Mihangel, Llanfihangel-uwch-Gwili, yn dyddio
o'r Oesoedd Canol. Mae'r tirnod hwn a'i dðr cynnar anarferol o'r 17eg
ganrif yn rhestredig Gradd B. Ychydig o'r tai bonedd sydd wedi cadw unrhyw
adeiladwaith cynnar ond mae Cwmgwili, a grybwyllwyd tua 1460, sydd erbyn
hyn yn perthyn i'r 18fed ganrif yn bennaf ond sydd â nodweddion yn perthyn
i'r 16eg ganrif a'r 17eg ganrif, yn rhestredig Gradd II. Ailfodelwyd Gilfach-y-berthog
ar raddfa fawr ym 1692 ac mae'n rhestredig Gradd II*, gyda stablau ac
ysgubor sy'n rhestredig Gradd II. Mae'r Felin-wen o'r 18fed ganrif a'r
19eg ganrif yn rhestredig Gradd II. Erbyn hyn mae Gelli-fergam, a grybwyllwyd
ar ddiwedd yr 16eg ganrif yn dþ deulawr sylweddol a chanddo ardd â wal
o'i gwmpas. Nid yw Esgair-holiw wedi cadw unrhyw nodweddion cynnar ond
mae'n gysylltiedig â chyn felin ddðr. Yn draddodiadol mae ffermydd wedi'u
hadeiladu o gerrig, ac iddynt ddau lawr a thri bae. Fel arfer maent yn
dyddio o'r 19eg ganrif ac yn y traddodiad brodorol, er bod yna rai enghreifftiau
yn y dull Sioraidd mwy 'boneddigaidd'. Dim ond un neu ddwy res o adeiladau
allan o gerrig sydd gan ffermydd. Mae'r rhain hefyd yn dyddio o'r 19eg
ganrif ac yn achlysurol iawn maent wedi'u trefnu'n lled-ffurfiol o amgylch
iard, ynghyd ag adeiladau amaethyddol modern. Mae anheddau mwy modern
yn tueddu i fod mewn ystadau bach ym Mheniel a Rhydargaeau, mewn datblygiad
strimyn ar hyd yr A485, neu fel tai gwasgaredig sydd wedi'u lleoli yn
bennaf ar hyd y priffyrdd. Mae'r datblygiad modern hwn mewn amrywiaeth
o ddulliau a deunyddiau.
Mae ffin yr ardal hon i'r de yn erbyn Ystrad Tywi yn dra
phendant wrth waelod llawr y dyffryn. I'r gogledd mae'r ffin yr un mor
bendant lle y mae tir comin uchel a amgaewyd gan Ddeddf Seneddol yn y
19eg ganrif yn darparu llofnod nodweddiadol yn y dirwedd. Mae'r ardal
i'r de-ddwyrain yn debyg iawn o ran ei chymeriad i'r ardal hon, ond yn
gyffredinol nid yw mor uchel - nid oes unrhyw ffin bendant rhwng y ddwy.
Ni ddiffiniwyd yr ardaloedd i'r dwyrain ac i'r gorllewin eto, ond maent
yn cynnwys llawer o elfennau tebyg i ardal gymeriad hanesyddol Plwyf Abergwili-Llanegwad
|