Cartref > Tirweddau Hanesyddol > Tywi >

184 MORFA MELYN

CYFEIRNOD GRID: SN 426206
ARWYNEBEDD MEWN HECTARAU: 132.20

Cefndir Hanesyddol
Gorlifdir llanw Afon Tywi a'i hisafon afon Gwili yn yr ardal yn union islaw tref Caerfyrddin. Mae cwrs presennol yr afon yn gyfres o ddolenni yr ymddengys eu bod wedi aros yn weddol gyson ers y cyfnod Canoloesol o leiaf, pan leolid ochr ogledd-orllewinol yr afon o fewn Bwrdeistref Caerfyrddin a phan berthynai'r ochr dde-ddwyreiniol i Arglwyddiaeth Cydweli (Rees 1932); sefydlasid y ddwy ar ddechrau'r 12fed ganrif. Cyfeirir at sawl ardal o forfa heli mewn adroddiadau cyfoes, pan ymddengys fod yr ardal wedi'i defnyddio fel tir pori tymhorol yn unig, yn ôl pob tebyg wedi'i dal o'r goron fel tir comin, fel yr oedd 'Sylly' yn y pen gogleddol (James 1980, 44). Mae llyfr rhent y dref ym 1675 yn crybwyll 14 o erwau ym 'Morfa Uchaf', a 'chlawdd wedi'i atodi ato' (ibid.), amddiffynfa rhag llifogydd efallai; fodd bynnag roedd ardal o'r enw 'Yr Ynys' yn dadlau ag Arglwyddiaeth Cydweli oherwydd newidiadau bach yng nghwrs yr afon (James 1980, 42). Roedd y tir wedi'i amgáu i raddau cyfyngedig erbyn 1842 (map degwm Sant Pedr Caerfyrddin) pan ymddengys fod systemau draenio ffurfiol wedi'u cyflwyno, ond ceid llifogydd yn aml yn yr ardal hon ac mae hynny'n dal i ddigwydd. Cloddiwyd sawl pwll clai ar y gorlifdir yn ystod y 19eg ganrif ac awgrymwyd i'r clai a ddefnyddiwyd ar ragfuriau tref Rufeinig Caerfyrddin ddod o'r gorlifdir (James 1992, 22). Ffurfia rheilffordd y LNWR, a agorwyd ym 1871 ond sydd wedi'i disodli bellach gan y ffordd osgoi newydd, ymyl ogledd-orllewinol yr ardal hon, ac mae'r hen A40 - sy'n dilyn llinell y Ffordd Rufeinig i Lanymddyfri, a ffordd dyrpeg ddiweddarach - yn mynd trwyddi ar arglawdd. Mae rhywfaint o ddatblygiad hirgul wedi digwydd ar hyd y ffordd yn ystod y 19eg ganrif a'r 20fed ganrif, fel arfer ar lwyfannau argloddiedig o amgylch fferm a llaethdy; cynhwysodd y datblygiad hwn ddepo bysiau a gaeodd ym 1998

Map a atgynhyrchwyd o fap yr OS gyda chaniatad yr Arolwg Ordnans ar ran Rheolwr Llyfrfa Ei Mawrhydi, © Hawlfraint y Goron 2001. Cedwir pob hawl. Byddai ei atgynhyrchu heb ganiatad yn torri Hawlfraint y Goron a gall hynny arwain at erlyniad neu achos sifil. Rhif y drwydded: GD272221

Disgrifiad ac elfennau hanfodol y dirwedd hanesyddol
Darnau byrion o ddyffryn Tywi, a chwm Gwili isaf, sy'n gorwedd ar lefel y môr neu'n agos ati. Ceir llifogydd yn yr ardal hon ar adeg llanwau eithriadol o fawr a cheir llifogydd rheolaidd yn ystod misoedd y gaeaf pan fydd yn bwrw glaw'n drwm. Mae cylchoedd dyddodi ac erydu afon hefyd yn eithaf gweithredol yn yr ardal hon. O ganlyniad nid oes unrhyw anheddiad yn yr ardal dirwedd hanesyddol hon, ac, ar wahân i'r ardal gerllaw Abergwili lle y mae'r caeau wedi'u hamgáu gan wrychoedd, ffensys gwifrau a/neu ffosydd sy'n nodi ffiniau amhendant y clostiroedd. Porfa a geir dros yr ardal gyfan. Ar wahân i goed bach achlysurol mewn rhai gwrychoedd a choetir prysglog ar lannau'r afonydd, tirwedd ddi-goed ydyw yn y bôn. Ym 1999, agorodd ffordd osgoi ddwyreiniol Caerfyrddin, sy'n croesi'r ardal hon. Caledwyd darnau o lannau'r afon fel rhan o'r gwaith peirianyddol a oedd yn gysylltiedig â'r ffordd osgoi.

Mae'r archeoleg a gofnodwyd yn gyfyngedig. Soniwyd am y ffordd Rufeinig ac mae dwy felin ddðr wedi'u lleoli'n betrus o fewn yr ardal. Sefydlwyd maes tanio yn un o'r dolenni yn yr 20fed ganrif.

Nid oes unrhyw beth arbennig am yr un o'r adeiladau, sy'n dyddio'n bennaf o'r 19eg ganrif a'r 20fed ganrif.

Mae'r ardal yn wahanol i'r tir sy'n codi i'r gogledd-orllewin ac i'r de-ddwyrain, ond mae'r ffin â'r gorlifdir i'r gorllewin yn llai pendant.