Cartref > Tirweddau Hanesyddol > Tywi >

185 PLWYFI LLANGYNNWR - LLANARTHNE

CYFEIRNOD GRID: SN 485190
ARWYNEBEDD MEWN HECTARAU: 1207.00

Cefndir Hanesyddol
Ardal fawr a oedd gynt wedi'i rhannu'n anghyfartal rhwng dau gwmwd, ac arglwyddiaethau diweddarach. Lleolid cwmwd Cydweli, a gynrychiolir gan Faenor Cunnor (plwyf Llangynnwr), i'r gorllewin, ac Iscennen, a gynrychiolir gan Faenor Vouwen (plwyf Llanarthne) i'r dwyrain (Rees 1953, 174). Mae fferm 'Ffos-y-ffin' yn cofnodi presenoldeb y ffin. Roedd Cydweli wedi bod mewn dwylo Eingl-Normanaidd ers tua 1110 ond yn wahanol i weddill Cantref Bychan parhaodd Iscennen i fod yn annibynnol mewn enw tan 1284 (Rees 1953, xv). Ym 1327 trosglwyddwyd Cydweli i Dþ Caerhirfryn a throsglwyddwyd Iscennen iddo ym 1340 (ibid.). Er gwaethaf y ddeiliadaeth ddeuol, ymddengys fod y tir, yn ystod y cyfnod hanesyddol, wedi'i reoli mewn ffordd ddigon tebyg yn y ddwy ran o'r ardal, a ddelid fel Brodoraethau yn ystod y cyfnod Canoloesol (Rees 1953, 220), er y cofnodir rhywfaint o'r hyn a all fod yn dir eglwysig fel enw cae yn nwyrain yr ardal. Mewn gwirionedd roedd llawer o'r tir uwch yn union i'r de o'r ardal hon yn gytir, sef rhan o dir comin Mynydd Cyforth a Mynydd Ucha, ac roedd y rhan fwyaf ohono wedi'i amgáu gan nifer o unigolion preifat - rhydd-ddeiliaid pwysig megis y teuluoedd Stepney, Morgan a Philipps - yn ystod y 16eg ganrif ac ar ddechrau'r 17eg ganrif fel y cofnodwyd yn eithaf manwl ym 1609 (Rees 1953, 243-9). Mae'n debyg felly fod Ardal 185, lle y ceir caeau mwy afreolaidd a llai o faint, wedi'i hamgáu yn gynharach, efallai trwy i bobl dresmasu arni ar ddiwedd y cyfnod Canoloesol. Fodd bynnag ceir enw lle yn cynnwys yr elfen hafod (porfa dymhorol) tua'r gorllewin o'r ardal, ac enw lle yn cynnwys yr elfen hendre i'r dwyrain. Mae mapiau degwm plwyfi Llangynnwr (1842) a Llanarthne (1848) yn dangos bod patrwm y clostiroedd a'r ffermydd bryd hynny yn debyg iawn i'r patrwm a welir heddiw. I'r dwyrain o'r ardal, roedd cyn ddaliad unigol mawr, sef Penddaulwyn, a grybwyllwyd ar ddiwedd yr 17eg ganrif, wedi ymrannu'n bum fferm ar wahân erbyn diwedd y 18fed ganrif (Jones 1987, 147), ac roedd un o'r ffermydd hyn yn rhan o ystad Cawdor. Ychydig iawn o ddatblygiad diweddarach a fu, ond cynrychiolir gweithgaredd diwydiannol gan nifer sylweddol o fwyngloddiau plwm i'r gorllewin o'r ardal gerllaw Cystanog.

Map a atgynhyrchwyd o fap yr OS gyda chaniatad yr Arolwg Ordnans ar ran Rheolwr Llyfrfa Ei Mawrhydi, © Hawlfraint y Goron 2001. Cedwir pob hawl. Byddai ei atgynhyrchu heb ganiatad yn torri Hawlfraint y Goron a gall hynny arwain at erlyniad neu achos sifil. Rhif y drwydded: GD272221

Disgrifiad ac elfennau hanfodol y dirwedd hanesyddol
Mae'r ardal hon yn cynnwys llethr ddeheuol fryniog dyffryn Tywi sy'n codi o lawr y dyffryn sydd tua 20 m uwchben lefel y môr ar ei ymyl ogleddol i dros 140 m ar y bryniau llyfngrwn i'r de. Ardal wledig ydyw lle y ceir patrwm anheddu o ffermydd gwasgaredig ac anheddau eraill. Nodweddir patrwm y caeau gan glostiroedd afreolaidd bach, yn dyddio o bosibl o ddiwedd y cyfnod Canoloesol - a grëwyd trwy i bobl dresmasu ar dir eithaf ymylol a wynebai'r gogledd - wedi'u hamgáu gan gloddiau pridd gyda gwrychoedd ar eu pennau. Mae cyflwr y gwrychoedd hyn yn amrywio, ond maent yn dueddol o fod wedi tyfu'n wyllt ac maent yn cynnwys coed a llwyni bach. Mae rhai ohonynt wedi'u hesgeuluso. Yn ogystal â'r mwyafrif o'r ffiniau hanesyddol hyn ceir ffensys gwifrau yn amgáu'r clostiroedd. Mae nifer o glystyrau bach o goetir collddail a rhai clystyrau mwy o faint yn rhan ogledd-ddwyreiniol yr ardal (rhai eilaidd yn y dyffrynnoedd mwy bas), ac mae'r rhain, ynghyd â nifer o blanhigfeydd coniffer llai o faint, yn rhoi golwg goediog a chymeriad arbennig i'r ardal dirwedd hanesyddol hon. Lle y mae'r coetir wedi'i ddosbarthu fwyaf trwchus a lle y mae'r gwrychoedd wedi tyfu'n wyllt, mae porfa heb ei gwella a llawer o dir brwynog a gwlyb yn rheoli'r defnydd a wneir o'r tir. Mewn mannau eraill, yn arbennig tua'r ffin ddeheuol a'r ffin dde-orllewinol, porfa wedi'i gwella a geir yn bennaf, ac mae'r gwrychoedd yn dueddol o gael eu cynnal a'u cadw'n well.

Mae'r archeoleg a gofnodwyd yn cynnwys caer bentir fewndirol yn perthyn i'r Oes Haearn yng Nghae'r Castell yr ymddengys i Heneb Gristnogol Gynnar Ddosbarth III bwysig gael ei hadfer ohoni. Mae yna safleoedd posibl crugiau crwn a meini hirion yn perthyn i'r Oes Efydd, a safleoedd posibl ffynhonnau a chroesau sanctaidd. Mae archeoleg yr Oesoedd Canol yn amlygu amrediad nodweddiadol o safleoedd, adeiladau yn bennaf, gan gynnwys melinau, gefeiliau, ffynhonnau, pontydd, ffermydd, odynau posibl, bythynnod, capel ac ysgol.

Ychydig iawn o adeiladau nodweddiadol sydd. Cofnodwyd Tþ Cwm-du ym 1500 (Jones 1987, 46) ond nid yw wedi cadw unrhyw nodweddion cynnar. Yn yr ardal lle y ceir y borfa wedi'i gwella mae'r ffermydd at ei gilydd yn fach i ganolig eu maint. Adeiladau deulawr o gerrig ydynt ac iddynt dri bae a thoeau llechi. Maent yn dyddio o ddiwedd y 18fed ganrif neu'r 19eg ganrif ac fel arfer maent yn y dull brodorol, gyda threfniant anffurfiol o dai allan o gerrig ac adeiladau fferm modern. Ar y tir gwael mae'r ffermydd yn llai o faint gyda nifer fach ond nodedig o anheddau unllawr y cymerir eu bod wedi'u hadeiladu o gerrig wedi'u rendro ond a allai fod wedi'u hadeiladu o bridd neu glom. Mae gan y ffermydd nifer gyfyngedig o dai allan bach, sydd fel arfer mewn un rhes.

Mae'r ardal dirwedd hanesyddol hwn yn weddol ddiffiniedig. I'r gorllewin ac i'r gogledd ceir ardaloedd o ffermydd mwy cyfoethog a mwy o faint wedi'u lleoli mewn caeau gweddol fawr o borfa wedi'i gwella. Lleolir Gardd Fotaneg Genedlaethol Cymru i'r dwyrain. I'r de ni ddiffiniwyd yr ardal dirwedd hanesyddol eto, ond mae'n cynnwys esgair o gaeau gweddol fawr a ffermydd sydd wedi'u gwasgaru'n eang.