Cartref > Tirweddau Hanesyddol > Tywi >

189 LLANARTHNE

CYFEIRNOD GRID: SN 526199
ARWYNEBEDD MEWN HECTARAU: 244.30

Cefndir Hanesyddol
Ardal fach o amgylch anheddiad cnewyllol Llanarthne, sydd fwy neu lai yn gydamserol ag ardal a leolid o fewn cwmwd Iscennen ond a oedd yn eiddo i Esgobion Tyddewi, yn ôl pob tebyg o ganlyniad i grant a roddwyd cyn y Goresgyniad. Mae enwau caeau yn union i'r de-orllewin o'r pentref sy'n cynnwys yr elfennau Henllan a Llandre yn awgrymu bod clas-eglwys yn yr ardal, a nodwyd ôl cnwd hirsgwar sy'n perthyn i olynydd diweddarach. Mae'n bosibl mai'r eglwys hon, neu'r eglwys bresennol sydd wedi'i chysegru i Dewi Sant, yw'r 'Llanadneu' y cyfeirir ati fel un o eglwysi 'Dewi' yn y gerdd 'Cerdd i Dewi' a luniwyd gan Gwynfardd Brycheiniog yn y 12fed ganrif (Ludlow 1998). Nid oedd eglwys Dewi Sant yn eglwys blwyf yn ystod y cofnod cyn y Goresgyniad. Roedd yn eiddo i'r Esgob fel un o brebendau'r eglwys golegaidd yn Aberhonddu, ac fe'i neilltuwyd ar gyfer Prior yr Ysbytywyr yn Lloegr gan Esgob Thomas Bek ym 1290 (Ludlow 1998). Parhaodd Iscennen, yn wahanol i weddill Cantref Bychan lle'r oedd wedi'i leoli, i fod yn annibynnol mewn enw tan 1284 (Rees 1953, xv-xvi), a chadwyd systemau brodorol o ddeiliadaeth. Felly mae'n debyg bod yr anheddiad cnewyllol presennol, sy'n anffurfiol ac yn eithaf gwasgaredig, yn perthyn i'r cyfnod Ôl-Ganoloesol a dim ond rhyw 10 annedd a ddarlunnir ar fap degwm Llanarthne o 1848. Yn hanner gorllewinol yr ardal lleolir tair fferm yn dwyn yr enw 'Bremenda' sy'n cynrychioli daliad mwy o faint a dorrwyd i fyny. Ymddengys i hyn ddigwydd rhwng 1697 a 1789 pan oedd ym meddiant ystad Gelli Aur (Jones 1987, 13). Efallai mai'r ystad sy'n gyfrifol am y patrwm presennol o gaeau rheolaidd mawr sy'n dyddio yn ôl pob tebyg o'r 18fed ganrif. Âi prif linell reilffordd Gorllewin Cymru'r LNWR trwy'r ardal ers llawer dydd, ac roedd gorsaf yn Llanarthne. Fe'i hagorwyd, fel 'Llinell Dyffryn Tywi', gan Gwmni Rheilffordd a Dociau Llanelli ym 1855 (Gabb, 1977, 76), a symbylodd ragor o ddatblygu, er bod tafarn y Golden Grove Arms wedi'i sefydlu eisoes o dan nawdd yr ystad. Mae datblygu ar raddfa fach wedi parhau hyd at ddiwedd yr 20fed ganrif.

Map a atgynhyrchwyd o fap yr OS gyda chaniatad yr Arolwg Ordnans ar ran Rheolwr Llyfrfa Ei Mawrhydi, © Hawlfraint y Goron 2001. Cedwir pob hawl. Byddai ei atgynhyrchu heb ganiatad yn torri Hawlfraint y Goron a gall hynny arwain at erlyniad neu achos sifil. Rhif y drwydded: GD272221

Disgrifiad ac elfennau hanfodol y dirwedd hanesyddol
Lleolir pentref ac ardal dirwedd hanesyddol Llanarthne ar deras sy'n graddol ddisgyn ar ochr ddeheuol Afon Tywi. Mae ymyl ogleddol yr ardal yn gorwedd ar lefel o 20 m, ychydig o fetrau yn unig uwchben gorlifdir Afon Tywi, tra bod y ffin ddeheuol, yn erbyn llethr serth y dyffryn yn codi i uchder o 30 m - 40 m. Mae'r ardal wedi'i chanoli ar bentref Llanarthne. Mae elfennau hanesyddol y pentref erbyn hyn yn cynnwys yr eglwys Ganoloesol a dau dafarn yn dyddio o'r 19eg ganrif. O amgylch y craidd hanesyddol ceir datblygiadau tai a godwyd ar ôl y rhyfel, ar ddiwedd yr 20fed ganrif yn bennaf ac mewn amrywiaeth o ddulliau a deunyddiau, ac mae hyn yn cynnwys ystad o dai cyngor. Saif y pentref mewn tirwedd, sy'n perthyn i'r 18fed ganrif yn ôl pob tebyg, sy'n cynnwys caeau canolig-mawr o borfa fras wedi'i gwella a ffermydd gwasgaredig. Mae cloddiau pridd â gwrychoedd ar eu pennau i'w gweld ym mhob man. Mae'r gwrychoedd mewn cyflwr da, a cheir coed nodweddiadol yn tyfu mewn llawer ohonynt. Nid oes fawr ddim coetir. Lleolir chwarel nas defnyddir i'r gorllewin o'r ardal hon. Mae'r B4300 a llinell reilffordd adawedig y LNWR yn rhedeg trwy'r ardal.

Cynrychiolir yr archeoleg a gofnodwyd gan safle'r clas/capel ac eglwys bresennol Dewi sant, sy'n rhestredig Gradd B. Mae hefyd faen hir posibl o'r Oes Efydd, ffynnon sanctaidd bosibl, safle melin bannu ac odyn bosibl.

Mae nifer o adeiladau nodweddiadol, gan gynnwys gefail restredig Gradd II. Mae Bremenda-ucha, Bremenda-ganol a Bremenda-issa ynn 'ffermdai helaeth o'r math gorau', a newidiwyd lawer yng nghanol y 19eg ganrif (Jones 1987, 13). Yn gyffredinol mae'r ffermdai wedi'u hadeiladu o gerrig ac iddynt doeau llechi a dau lawr; maent yn dyddio o ddiwedd y 18fed ganrif a'r 19eg ganrif, ac maent yn y traddodiad Sioraidd boneddigaidd yn hytrach na'r traddodiad brodorol, er bod enghreifftiau o ffermdai yn y traddodiad brodorol i'w cael. Ar ffermydd mwy o faint mae yna duedd i'r tai allan o gerrig sy'n dyddio o'r 19eg ganrif fod wedi'u cynllunio'n ffurfiol, ond nid yw'r duedd hon mor gryf ar ffermydd llai o faint . Mae gan y mwyafrif o ffermydd adeiladau fferm modern mawr. Mae adeiladau eraill yn cynnwys pont, dau dafarn a dau gapel. Mae'r orsaf reilffordd wedi mynd.

Nid yw'n hawdd diffinio ardal dirwedd hanesyddol Llanarthne am ei bod yn rhannu llawer o elfennau tirwedd hanesyddol â'i chymdogion. Fodd bynnag, i'r de mae llethr serth a choediog dyffryn Tywi yn darparu border gweddol bendant rhwng yr ardal hon a'i chymdogion. I'r gogledd mae gorlifdir Afon Tywi yn debyg iawn i'r ardal ar lawer cyfrif. Yn y fan hon ceir ardal drawsnewidiol yn hytrach na border pendant.