Cartref > Tirweddau Hanesyddol > Tywi >

190 LLANFIHANGEL

ABERBYTHYCH CYFEIRNOD GRID: SN 585189
ARWYNEBEDD MEWN HECTARAU: 2294.00

Cefndir Hanesyddol
Ardal gymeriad fawr iawn a rennir yn ddwy gan ddyffryn Afon Cennen. Mae'n ymestyn dros ran ganolog cwmwd Iscennen a arhosodd, yn wahanol i weddill Cantref Bychan lle'r roedd wedi'i leoli, yn annibynnol mewn enw ar reolaeth Eingl-Normanaidd tan 1284 pan drosglwyddwyd ef i John Giffard. Ym 1340 daeth yn aelod o Ddugiaeth Caerhirfryn (Rees 1953, xv-xvi). Efallai yr adlewyrchir natur y ddeiliadaeth hon yn y patrwm o gaeau afreolaidd o faint bach a chanolig sy'n nodweddu'r ardal hon, ac mae'n bosibl bod y patrwm hwn yn perthyn i ddiwedd yr Oesoedd Canol, fel caeau tebyg yn Ardal 185 tua phen gorllewinol Dyffryn Tywi yr ymddengys eu bod yn rhagflaenu'r gwaith a wnaed ar ddiwedd yr 16eg ganrif i amgu eu hymylon. Fodd bynnag, cofnodwyd tystiolaeth o amaeth cefnen a rhych yn rhan orllewinol Ardal 190. Serch hynny roedd y patrwm presennol o glostiroedd a ffermydd wedi datblygu erbyn dechrau'r 19eg ganrif o leiaf, a dyna'r patrwm a ddarlunnir ar fapiau degwm plwyfi Llanfihangel Aberbythych (1837) a Llanarthne (1848), er y dangosir pob anheddiad cynnar i fod yn wasgaredig. Lleolir tir eglwysig posibl i'r gorllewin o'r ardal a dywedir bod Talhardd, fferm ar y tir isel ar ochr orllewinol afon Cennen, yn tarddu o faenor o'r 13eg ganrif a fu'n eiddo i'r Premonstratensiaid yn Nhalyllychau (Rees 1932). Fodd bynnag, nis rhestrir ymhlith eiddo blaenorol yr abaty mewn llyfr rhenti o ddechrau'r 17eg ganrif (Owen 1894, 92) a all fod wedi'i wneud ar l iddi gael ei gwahanu oddi wrth yr ystad. Mae'r t presennol yn perthyn i'r Oesoedd Canol fwy neu lai ond mae'n bosibl bod yr enw lle maerdy gerllaw, sy'n cynnwys yr elfen maer neu feili, yn gysylltiedig daliad mynachaidd neu ystad Tregb yn Ardal 203 (Sambrook and Page 1995, 17). Yr unig blasty arall yw Derwydd, i'r de-ddwyrain o'r ardal, daliad pwysig y cyfeiriwyd ato ym 1550 fel cartref Rhydderch ap Hywel ap Bedo (Jones 1987, 55), a chanddo ardd a ailfodelwyd ym 1889 (Whittle 1999). Mae Cellifor i'r gorllewin yn dyddio o ddiwedd yr 17eg ganrif o leiaf (Jones 1987, 29), ac erbyn hyn mae wedi'i ailadeiladu, tra sefydlwyd Caeglas a Chefneithin i'r dwyrain ar ddiwedd y 18fed ganrif (Jones 1987, 20, 27), er nad oedd yr un o'r tai diwethaf hyn yn gysylltiedig ag ystadau mawr. Adeiladwyd rheilffordd ar hyd Dyffryn Cennen rhwng Rhydaman a Llandeilo ym 1841 gan y GWR, ond bu datblygu yn ystod y 19eg ganrif a'r 20fed ganrif yn gyfyngedig. Er bod rhywfaint o waith yn mynd ymlaen yn yr ardal i echdynnu calchfaen, yn union y tu hwnt i'r ardal i'r de-ddwyrain echdynnwyd calchfaen ar raddfa fawr o'r 19eg ganrif ymlaen ac o ganlyniad crwyd nifer o aneddiadau. Mae'r rhain wedi'u canoli ar ymyl yr ardal, sydd hefyd yn cynnwys aneddiadau newydd yng Ngharmel, Milo a Phant-y-llyn.

Map a atgynhyrchwyd o fap yr OS gyda chaniatad yr Arolwg Ordnans ar ran Rheolwr Llyfrfa Ei Mawrhydi, Hawlfraint y Goron 2001. Cedwir pob hawl. Byddai ei atgynhyrchu heb ganiatad yn torri Hawlfraint y Goron a gall hynny arwain at erlyniad neu achos sifil. Rhif y drwydded: GD272221

Disgrifiad ac elfennau hanfodol y dirwedd hanesyddol
Mae ardal gymeriad Llanfihangel Aberbythych yn codi o ddyffryn Tywi ar ei hymyl ogleddol ar 20 m uwchben lefel y mr i dros 250 m ar ei ffin ddeheuol. Mae'n cynnwys dyffryn isaf Afon Cennen a dyffryn Marlais. Yn ei hanfod mae'n cynnwys tir sydd wedi'i amgu'n gyfan gwbl gan gaeau afreolaidd o faint bach a chanolig gyda phatrwm anheddu o ffermydd gwasgaredig. Defnyddir y tir bron yn gyfan gwbl ar gyfer pori anifeiliaid, ac mae ychydig o dir r. Mae'r borfa wedi'i gwella at ei gilydd, er bod tir mwy garw a brwynog yn ardal Temple Bar/Milo. Ceir llawer o glystyrau bach o goetir collddail, yn arbennig ar lethrau serth dyffrynnoedd, ac mae'n bosibl bod rhai o'r clystyrau hyn yn hynafol. Cloddiau pridd gwrychoedd ar eu pennau sy'n ffurfio ffiniau'r caeau, ac mae'n bosibl eu bod yn perthyn i ddiwedd yr Oesoedd Canol. At ei gilydd mae'r gwrychoedd mewn cyflwr da, er bod tystiolaeth eu bod wedi'u hesgeuluso rhywfaint ar lefelau uwch. Bob hyn a hyn ceir gwrychoedd sydd wedi tyfu'n wyllt, a cheir coed nodweddiadol yn tyfu mewn rhai o'r gwrychoedd. Ar lefelau is tua dyffryn Tywi mae'r ffermydd yn dueddol o fod yn fwy na'r ffermydd ar dir uwch. Wedi'u harosod ar y patrwm anheddu hynafol o ffermydd gwasgaredig mae pentrefi a phentrefannau, datblygiadau llinellol ac anheddau gwasgaredig o'r 19eg ganrif a'r 20fed ganrif. Mae i bentrefi Milo a Charmel greiddiau o anheddau a chapeli wedi'u hadeiladu o gerrig sy'n dyddio o'r 19eg ganrif, ond mae gan y ddau ychwanegiadau o ddiwedd yr 20fed ganrif ar ffurf anheddau mewn amrywiaeth o ddulliau a deunyddiau. Rhes o fythynnod i weithwyr yw Pant-y-llyn a adeiladwyd yn y 19g ganrif a'r 20fed ganrif i wasanaethu chwareli calchfaen gerllaw. At ei gilydd mae datblygiadau gwasgaredig a llinellol y 19eg ganrif a'r 20fed ganrif yn ymestyn ar hyd ffyrdd yr A476 a'r A483(T), gyda chrynoadau yn agos at Landeilo ac yn Nerwydd.

Mae'r archeoleg a gofnodwyd yn gymharol brin ac ni cheir llawer o amrywiaeth. Lleolir grp o dwmpathau llosg o'r Oes Efydd ger Afon Cennen, ac mae safleoedd posibl crugiau crwn a meini hirion. Mae dwy fryngaer o'r Oes Haearn. Mae'n bosibl bod y llinell o ffiniau caeau yn nodi llwybr ffordd Rufeinig i'r de o Landeilo. Ceir carreg arysgrifenedig yn rhan ddwyreiniol yr ardal, yr ymddengys ei bod yn gysylltiedig 'r eglwys yn Llandeilo Fawr a sefydlwyd cyn y Goresgyniad (Ardal 202), a chofnodir ffynhonnau a chroesau sanctaidd posibl fel enwau lleoedd. Mae'r nodweddion l-Ganoloesol yn cynnwys chwareli, odynau calch ac odynau posibl i'r de o'r ardal, pontydd, melin, gefail bosibl, ffald neu gorlan bosibl, a bythynnod. Mae'r rheilffordd a agorwyd gan y GWR ym 1841 yn dal yn weithredol ac mae'n nodwedd dra amlwg yn y dirwedd.

Mae rhai adeiladau nodweddiadol. Mae ffermdy Talhardd, sy'n rhestredig Gradd II, yn perthyn i ddiwedd y cyfnod canoloesol yn bennaf, ac mae'n cynnwys ffitiadau o'r 17eg ganrif a gwaith ailfodelu a wnaed ar ddiwedd y cyfnod Sioraidd; credid ar un adeg bod ffos o'i amgylch. Mae Derwydd yn rhestredig Gradd II* ac mae'n ymgorffori t o ddechrau'r 16eg ganrif ac o bosibl olion t o'r 15fed ganrif hefyd. Cynhwysai 18 o aelwydydd ym 1670 ac felly Derwydd oedd un o'r tai mwyaf yn Sir Gaerfyrddin ar y pryd (Jones 1987, 55). Mae'r t a'r ardd wedi'u cofnodi fel cyfeirnod PGW (Dy) 6 (CAM) yng Nghofrestr Cadw/ICOMOS o Barciau a Gerddi o Ddiddordeb Hanesyddol Arbennig yng Nghymru (Whittle, 1999). {PREIFAT} Yn ymgodi uwchlaw pen gorllewinol pellaf yr ardal hon mae Tr Paxton, sef ffoli restredig Gradd II a godwyd ar ran anghysbell o ystad Middleton tua 1807-10, a cheir dau borthordy sy'n perthyn i'r ystad honno. Mae'r ffermydd sydd wedi'u lleoli ar lefelau is tua dyffryn Tywi yn dueddol o fod yn fwy na'r ffermydd ar dir uwch. Mae adeiladau'r ffermydd hynny o ansawdd uwch, ac yn aml ceir anheddau trillawr o'r 18fed ganrif a'r 19eg ganrif yn y traddodiad Sioraidd. Mae'r adeiladau o gerrig ar y ffermydd mwy o faint, sy'n dyddio o'r 19eg ganrif yn bennaf, hefyd yn fwy o faint ac yn aml maent wedi'u trefnu'n ffurfiol o amgylch iard. Fodd bynnag, y math mwyaf cyffredin o ffermdy yw'r annedd ddeulawr o gerrig ac iddi do llechi a thri bae sydd wedi'i hadeiladu yn y traddodiad brodorol yn hytrach nag yn y traddodiad boneddigaidd. Mae'r gwaith maen, adeiladau fferm o'r 19fed ganrif yn bennaf ar y daliadau llai o faint hyn yn dueddol o fod yn llai o faint ac wedi'u trefnu'n llai ffurfiol, ac yn aml maent yn cynnwys un rhes yn unig. Mae gan y mwyafrif o'r ffermydd adeiladau fferm modern mawr yn gysylltiedig hwy. Mae nifer o gapeli sy'n perthyn i'r 19eg ganrif.

Mae ffiniau'r ardal gymeriad hon yn weddol bendant ar hyd ei hymyl ogleddol ac yn erbyn tref Llandeilo. I'r de mae'r ardaloedd cymeriad heb eu diffinio eto, ond o leiaf mae ffin clir yn rhannol rhwng yr ardal hon ac esgair galchfaen. I'r dwyrain nid oes unrhyw ddiffiniad pendant rhwng yr ardal hon a'i chymdogion, gan fod pob un yn meddu ar elfennau tirwedd hanesyddol tebyg, ond yn hytrach ceir ardal drawsnewidiol.

 

 

 

 

 

[cliciwch am rhestr y pynciau os nad yw'n bresennol]