Cartref > Tirweddau Hanesyddol > Tywi >

191 NANTGAREDIG - DERWEN FAWR

CYFEIRNOD GRID: SN 535233
ARWYNEBEDD MEWN HECTARAU: 2789.00

Cefndir Hanesyddol
Ardal gymeriad fawr iawn a leolir ar ochr ogleddol dyffryn Tywi ac sy'n ymestyn o Nantgaredig yn y gorllewin y tu hwnt i Landeilo i'r dwyrain. Y dyffryn oedd y prif lwybr hanesyddol i Orllewin Cymru a dilynai'r ffordd Rufeinig o Gaerfyrddin i Lanymddyfri y rhyngwyneb rhwng y llifwaddod a'r ddaeareg solet ar ochr ogleddol Afon Tywi. Dilynir llwybr y ffordd Rufeinig fwy neu lai gan ffordd fodern yr A40(T). Yn ystod y cyfnod hanesyddol lleolid y rhan fwyaf o'r ardal o fewn hanner deheuol cymydau, ac yn ddiweddarach gantrefi, Cetheiniog a Maenordeilo (Rees 1932). Delid y ddau gwmwd o arglwyddiaeth Gymreig annibynnol Cantref Mawr nes i sir Gaerfyrddin gael ei sefydlu ym 1284. Mae'n bosibl bod cymeriad cymharol gydryw y dirwedd bresennol yn cynrychioli undod hanesyddol o ran y defnydd a wneid o'r tir. Cofnodwyd y dull amaethu cefnen a rhych yng ngorlifdir Afon Tywi ond mae'n bosibl bod yr ymyl ogleddol hon hefyd yn dir pori yn bennaf, ac i'r gogledd o Lanegwad roedd ardal o dir diffaith neu dir comin o'r enw 'Fforest Killardun' (Rees 1932). Ar ben hynny mae'n bosibl i'r tir o fewn yr ardal hon gael ei amgu yn gymharol ddiweddar, am fod y mwyafrif o'r caeau'n rheolaidd ac o faint canolig. Llanegwad yw'r unig anheddiad cnewyllol cynnar o fewn yr ardal. Mae'n bosibl ei fod yn cynrychioli eglwys ac anheddiad a sefydlwyd cyn y Goresgyniad oedd system reiddiol o ffiniau a oedd o bosibl yn barhad o system mewnfaes-allfaes (Sambrook 1995, 59). Ar y safle hwn lleolid eglwys blwyf, mwnt ac yn ddiweddarach - o dan nawdd Esgobion Tyddewi - fwrdeistref fach, sydd bellach yn bentref. I'r gogledd yn Allt-y-ferin ceir ail fwnt a berthynai i Arglwyddiaeth Caerfyrddin i'r dwyrain (Ardal 183), ac mae'n bosibl mai dyma oedd safle'r 'Dinweilir' a gymerwyd gan y Cymry ac a ailfeddiannwyd ym 1159 (Jones 1952, 61). Fe'i cysylltid chyn-gapel. Rhennir gweddill yr ardal rhwng plwyfi Llangathen a Llandeilo Fawr. Yng nghymer afon Cothi ac afon Tywi lleolid craidd Maenor Brunus, y cyfeiriwyd ati yn Siarteri Llandaf o'r 12fed ganrif ond sy'n hn na'r Goresgyniad yn l pob tebyg (Richards 1974, 119), ac roedd capel yn Llandeilo Rwnws ar lannau Afon Tywi ac un arall gerllaw Pontargothi. Roedd y lleoliad hwn mor bwysig fel y'i henwyd (fel 'Ystrad Brwnws') fel safle brwydr rhwng y Cymry a'r Normaniaid ym 1116 (ibid.); o ganlyniad i'r defnydd a wneid ohono fel llwybr darparodd Dyffryn Tywi'r safle ar gyfer brwydr arall, gerllaw Derwen Fawr, ym 1257 (Rees 1932). Rhoddwyd Maenor Brwnws i'r Premonstratensiaid yn Nhalyllychau. Nid yw'r dyddiad yn hysbys ond mae'n debyg i hyn ddigwydd ar ddiwedd y 12 fed ganrif (ibid.). Cynrychiolid y faenor wedi'r diddymiad gan blastai Wythfawr ac Ystradwrallt, a sefydlasid erbyn y 1540au (Jones 1987, 199); mae'n bosibl bod yr ail wedi cadw'r elfen 'Ystrad' o Ystrad Brwnws. Lleolid Penllwynau hefyd o fewn ystad Llandeilo Rwnws a phlasty ydoedd yn ddiweddarach (Jones 1987, 150). T o ddiwedd yr Oesoedd Canol yw Cilsaen gerllaw Llangathen a ddaeth yn rhan o ystad Gelli Aur yn yr 17eg ganrif (Jones 1987, 32) ond mae'n perthyn i gyfnod cynharach, am ei fod yn gysylltiedig thywysogion diwethaf Deheubarth ac am y cyfeirir ato fel 'maenor' mewn dogfennaeth o ddechrau'r cyfnod l-Ganoloesol. Mae Cwrt-henri yn dyddio o'r 16eg ganrif ac mae'n gysylltiedig ag ardal fach o barcdir o'r 19eg ganrif ac eglwys de novo o'r 19eg ganrif (Lloyd 1991, 37-46), tra bod ail ardal o barcdir yn Allt-y-ferin yn cyfoesi 'r t a adeiladwyd ym 1869 (Jones 1987, 6). Hefyd dylanwadwyd ar y patrwm anheddu o ganlyniad i sefydlu cysylltiadau modern. Dilynai ffordd dyrpeg, a sefydlwyd ym 1763-71 (Lewis, 1971, 43), linell y ffordd Rufeinig fwy neu lai. Fodd bynnag adeiladwyd y llwybrau syth trwy Bontargothi a Derwen Fawr o dan Thomas Telford yn y 1820au (Archifdy Sir Gaer, Mapiau Cawdor 172) ac yn ddiweddarach datblygodd y ddau bentref hyn, a Felindre. Croesai prif linell reilffordd Gorllewin Cymru y cyn LNWR, a agorwyd, fel 'Llinell Dyffryn Tywi', gan Gwmni Rheilffordd a Dociau Llanelli ym 1858, yr ardal (Gabb, 1977, 76). Mae anheddiad presennol Nantgaredig yn hollol fodern a datblygodd o amgylch yr orsaf reilffordd.

Map a atgynhyrchwyd o fap yr OS gyda chaniatad yr Arolwg Ordnans ar ran Rheolwr Llyfrfa Ei Mawrhydi, Hawlfraint y Goron 2001. Cedwir pob hawl. Byddai ei atgynhyrchu heb ganiatad yn torri Hawlfraint y Goron a gall hynny arwain at erlyniad neu achos sifil. Rhif y drwydded: GD272221

Disgrifiad ac elfennau hanfodol y dirwedd hanesyddol
Ardal gymeriad fawr iawn ar ochr ogleddol Dyffryn Tywi ac sy'n cynnwys rhan o waelod dyffryn Cothi. Mae'n codi o orlifdir Afon Tywi ar 20 m OD mewn cyfres o fryniau llyfngrwn isel sy'n codi i dros 120 m lle y maent ar eu huchaf. Mae'r ardal gyfan wedi'i hamgu gan gaeau gweddol fawr o borfa, gyda'r rhan fwyaf o'r borfa honno'n borfa wedi'i gwella - ychydig iawn o dir garw neu dir brwynog sydd. Mae'r caeau wedi'u rhannu gan gloddiau pridd gwrychoedd ar eu pennau. At ei gilydd mae'r gwrychoedd yn cael eu cynnal a'u cadw'n dda ac maent mewn cyflwr da. Ceir coed nodweddiadol yn tyfu mewn llawer o'r gwrychoedd hyn. Mae llawer o glystyrau bach o goetir collddail, yn arbennig ar lethrau serth dyffrynnoedd lle y gall fod yn hynafol, a cheir planhigfeydd coniffer ar lethrau serth iawn dyffryn Cothi. Nodweddir y prif batrwm anheddu gan ffermydd gwasgaredig. Mae ffermydd hn sydd wedi goroesi, megis Llethr Cadfan, yn dangos bod y patrwm anheddu'n ymestyn yn bell yn l mewn amser - rhywbeth na ellir ei weld yn hawdd yn yr adeiladau eraill sydd wedi goroesi. Wedi'i arosod ar y patrwm hynafol hwn o ffermydd gwasgaredig mae patrwm anheddu mwy diweddar o aneddiadau cnewyllol. Mae pentref Llanegwad yn mynd yn l i'r Oesoedd Canol ond mae'r adeiladau sydd wedi goroesi yn dangos iddo ddatblygu yn y 18fed ganrif a'r 19eg ganrif, ac iddo ehangu'n gyflym yn yr 20fed ganrif. Mae Felindre'n glwstwr rhydd o anheddau o'r 19eg ganrif a'r 20fed ganrif, ond erbyn hyn mae pentrefi cnewyllol, clystyrol a llinellol megis Nantgaredig, Pontargothi a Derwen Fawr, er bod ganddynt graidd bach o adeiladau o'r 19eg ganrif, yn ddatblygiadau sy'n perthyn yn y bn i ddiwedd yr 20fed ganrif. Mae i'r ardal, fel llawer o Ddyffryn Tywi, naws parcdir a cheir ardaloedd bach o barciau a grwyd yn y 19eg ganrif o amgylch T Allt-y-ferin a Chwrt-henri. Roedd y bryniau isel a hawdd eu cyrraedd i'r gogledd o'r gorlifdir wedi'i gwneud yn bosibl i ddatblygu llwybr pwysig o'r dwyrain i'r gorllewin ar hyd dyffryn Tywi, o'r cyfnod Rhufeinig i'r cyfnod modern, a gynrychiolir gan ffordd bresennol yr A40(T). Mae'r aneddiadau modern a ddisgrifiwyd uchod, ar wahn i Nantgaredig a ddatblygodd o amgylch gorsaf reilffordd, yn dueddol o fod wedi'u lleoli ar hyd y ffordd hon.

Mae'r archeoleg a gofnodwyd mewn ardal dirwedd mor fawr yn cynnwys amrediad o safleoedd o bob cyfnod. Mae'r mwyafrif o'r nodweddion archeolegol yn ymwneud defnyddio'r tir at ddibenion amaethyddol ond ceir hefyd ddau gastell mwnt, yr ychwanegwyd un ohonynt, sef Allt-y-ferin, ar gaer bentir fewnol o'r Oes Haearn, meini hirion o'r Oes Efydd a heneb ar ffurf hengor yn Nantgaredig.

Ailadeiladwyd eglwys plwyf Llanegwad yn y 1840au ac fel yr eglwys yng Nghwrt-henri sy'n dyddio o'r 19eg ganrif nid yw'n rhestredig. Mae ffermdy Llethr Cadfan sy'n rhestredig Gradd II a'i ysgubor restredig Gradd II* yn perthyn i'r 17eg ganrif, ac mae T Llwynhelig a'r bloc stablau sy'n dyddio o ddechrau'r 19eg ganrif hefyd yn rhestredig Gradd II. Ar wahn i hynny mae adeiladau nodweddiadol yn gymharol brin yn yr ardal ond mae Cwrt-henri sy'n perthyn i'r 18fed ganrif a'r 19eg ganrif yn bennaf, sy'n rhestredig Gradd II*, yn cadw craidd cynharach ac mae gan fferm y plas adeiladau o waith maen o ansawdd da. Mae'r ffermydd at ei gilydd yn dyddio o'r 18fed ganrif a'r 19eg ganrif, maent wedi'u hadeiladau o gerrig ac iddynt doeau llechi. Mae i'r mwyafrif ohonynt ddau lawr a thri bae, yn y dull Sioraidd, ond mae enghreifftiau mwy o faint yn bodoli. Yn gysylltiedig 'r ffermdai mwy o faint mae casgliadau o adeiladau fferm, ac mae'r rhain yn aml wedi'u trefnu'n lled ffurfiol sy'n adlewyrchu statws uwch y daliadau. Ceir ffermdai yn y traddodiad brodorol, ond mae llai o'r rhain nag sydd o ffermdai yn y dull boneddigaidd. Mae yna dueddiad i ffermdai llai o faint a'r rhai yn y traddodiad brodorol fod chasgliad mwy cyfyngedig o adeiladau sy'n llai o faint, yn aml wedi'u cywasgu'n un rhes.

Nid yw ffiniau'r ardal hon yn bendant am fod y mwyafrif o'r ardaloedd cyfagos yn rhannu elfennau tirwedd hanesyddol tebyg. Lleolir rhan o'r ffin i'r de yn erbyn gorlifdir afon Tywi, Parc Dinefwr a thref Llandeilo; mae'r rhain yn nodi'r ffin yn weddol glir. Mewn mannau eraill i'r de, ac i'r gorllewin ac i'r dwyrain nid oes unrhyw ffin bendant rhwng yr ardal hon a'i chymdogion, ond yn hytrach ceir ardal drawsnewidiol.

 

 

 

 

 

[cliciwch am rhestr y pynciau os nad yw'n bresennol]