|
192 LLANGATHEN CYFEIRNOD
GRID: SN 575217
ARWYNEBEDD MEWN HECTARAU: 418.20
Cefndir Hanesyddol
Ardal dirwedd gryno ar ochr ogleddol Afon Tywi lle y bu pobl yn byw ers
o leiaf yr Oes Haearn, a lle y mae bob amser wedi bod o leiaf un daliad
o statws uchel. Lleolir yr ardal rhwng yr afon a'r ffordd Rufeinig trwy
Ddyffryn Tywi (gweler Ardal 191), ac yn edrych drosti mae Bryn Grongaer
a'i fryngaer fawr o'r Oes Haearn, a oedd o bosibl yn ganolbwynt i diriogaeth
fawr a ymestynnai dros Ardal 192 i gyd a'r tu hwnt. Yn ystod y cyfnod
hanesyddol lleolid y rhan fwyaf o'r ardal o fewn hanner deheuol cwmwd,
ac yn ddiweddarach gantref, Cetheiniog (Rees 1932), a ddelid o arglwyddiaeth
Gymreig annibynnol Cantref Mawr nes i Sir Gaerfyrddin gael ei sefydlu
ym 1284. Mae'n bosibl bod y fryngaer wedi parhau i ddylanwadu ar fri a
phatrymau deiliadaeth i mewn i gyfnod yr Oesoedd Canol. Mae'n bosibl i
Arglwyddiaeth Ganoloesol Allt-y-gaer, a oedd wedi'i chanoli yng Nghwm
Agol i'r de o Fryn Grongaer, ddatblygu o ystad a sefydlwyd cyn y Goresgyniad
a ddelid fel maerdref neu o dan ddeiliadaeth debyg, neu ddeiliadaeth gymunedol
(Owen 1892). Lleolid ail safle Canoloesol uchel ei statws, a fu'n eiddo
i ystad Gelli Aur yn ddiweddarach, yng Nghilsan i'r dwyrain (Jones 1987,
2). Mae'n bosibl bod Berllan-dywyll gerllaw yn perthyn i'r Oesoedd Canol
hefyd (Jones 1987, 8). Ar ben hynny mae'r ardal yn cynnwys eglwys Cathen
Sant, sef Llangathen, a sefydlwyd o bosibl cyn y Goresgyniad (Ludlow 1998);
yr eglwys hon yw canolbwynt plwyf mawr o gryn bwysigrwydd, fel yr adlewyrchir
yn ei maint, er nad oes anheddiad cnewyllol sylweddol yn gysylltiedig
â hi. Erbyn diwedd yr Oesoedd Canol, fodd bynnag, sefydlasid annedd arall
uchel ei statws yn Aberglasney yn union i'r dwyrain o'r eglwys (Jones
1987, 2). Fe'i trosglwyddwyd i'r Esgob Rudd o Dyddewi tua 1600 ac yn ddiweddarach
bu'n gartref i'r teulu Dyer, y cyfansoddodd un ohonynt, sef John Dyer,
ei gerdd enwog 'Grongar Hill', enghraifft gynnar o gerdd yn dathlu pethau
Rhamantus, ym 1726 (Andrews 1989, 79). Mae ardal fach o dirlun parcdir
yn gysylltiedig â Thþ Aberglasney, ac ailfodelwyd yr ardal o amgylch Cilsan
yn ôl egwyddorion 'boneddigaidd'. Mae'r ffaith bod y caeau canolig-mawr
eu maint yng ngweddill Ardal 192 yn gymharol reolaidd yn awgrymu iddynt
gael eu hamgáu yn yr 16eg ganrif a'r 17eg ganrif. Datblygodd pentref Llangathen
o dan nawdd y teulu Phillipse o Aberglasney yn ystod y 19eg ganrif. Mae'n
dal i fod yn fach, er gwaethaf yr ystad a ddatblygwyd ar ddiwedd yr 20fed
ganrif.
Map a atgynhyrchwyd o fap yr OS gyda chaniatad yr Arolwg
Ordnans ar ran Rheolwr Llyfrfa Ei Mawrhydi, © Hawlfraint y Goron 2001.
Cedwir pob hawl. Byddai ei atgynhyrchu heb ganiatad yn torri Hawlfraint
y Goron a gall hynny arwain at erlyniad neu achos sifil. Rhif y drwydded:
GD272221
Disgrifiad ac elfennau hanfodol y dirwedd hanesyddol
Mae ardal gymeriad Llangathen yn cynnwys dau fryn isel gyda phentref
Llangathen a Thþ a gerddi Aberglasney yn swatio rhyngddynt. Mae'r bryniau'n
codi'n serth o 20 m OD o orlifdir afon Tywi hyd at uchafswm o 143 m. Mae'r
tir ffermio i gyd wedi'i amgáu a'i rannu'n gaeau afreolaidd canolig-mawr
eu maint sy'n cynnwys porfa wedi'i gwella. Nid oes fawr ddim tir brwynog
na garw. Nodir ffiniau'r caeau gan gloddiau pridd â gwrychoedd ar eu pennau.
Mae'r gwrychoedd mewn cyflwr da ar y llethrau is, ond maent wedi'u hesgeuluso
ac wedi tyfu'n wyllt ar lefelau uwch. Yn wir, mae'r gwrychoedd ar gopaon
y bryniau erbyn hyn wedi'u dymchwel yn gyfan gwbl ac mae i'r tir yn y
fan hon olwg agored bellach, er bod ffensys gwifrau yn y fan hon, fel
mewn mannau eraill, yn darparu ffiniau a/neu'n ychwanegu at ffiniau hþn.
Mae coed gwrychoedd nodweddiadol i'w gweld, yn enwedig gerllaw Aberglasney,
ac mae'r rhain, ynghyd â chlystyrau o goetir ar lethrau serth a chopaon
y bryniau lle na cheir unrhyw wrychoedd, yn rhoi golwg parcdir i'r dirwedd.
Mae'r ffermydd yn wasgaredig, ond wedi'u canoli ar y llethrau sy'n edrych
i'r de dros ddyffryn Tywi. At ei gilydd mae'r ffermdai yn dyddio o ddiwedd
y 18fed ganrif a'r 19eg ganrif. Mae'r anheddiad yn Llangathen, sydd wedi'i
ganoli ar yr eglwys Ganoloesol, yn cynnwys clwstwr llac o ffermydd o'r
19eg ganrif ac anheddau o'r 20fed ganrif. Islaw'r pentref lleolir tþ a
gerddi Aberglasney.
Yn edrych dros yr ardal dirwedd mae'r Fryngaer o'r Oes
Haearn ar Grongaer, tra bod crug crwn posibl a bryngaer bosibl arall.
Mae safleoedd archeolegol posibl eraill yn cynnwys clostir amffosog yng
Nghwm Agol a ffynnon gysegredig. Lleolir chwareli Ôl-Ganoloesol i'r de
o Langathen.
Mae adeiladau nodweddiadol yn cynnwys eglwys Cathen Sant,
Llangathen, sy'n eglwys Ganoloesol restredig Gradd B. Mae gan yr eglwys
hon eil a chapel deheuol a chofeb gyfoes odidog i'r Esgob Rudd yn dyddio
o ddechrau'r 17eg ganrif. Mae Tþ Aberglasney'n adeilad rhestredig Gradd
II* ac iddo elfennau cynnar, ond y tu allan ymddengys ei fod yn dþ trillawr
yn dyddio o ddiwedd y 18fed ganrif a dechrau'r 19eg ganrif. Mae adeiladau
a nodweddion gardd eraill yn gysylltiedig â'r tþ, gan gynnwys porthdy,
cyn-adeiladau allan y gweision, porthordy, dwy res iard a dau gerbyty,
gyda phob adeilad unigol yn rhestredig Gradd II (7 i gyd), gerddi â wal
o'i hamgylch a phwll, a rhodfa fwaog restredig Gradd II* sy'n dyddio o
1783 o leiaf. Mae'r tþ a'r gerddi, sydd wedi'u cofnodi fel rhif cyfeirnod
PGW (Dy) 5 (CAM) yng Nghofrestr Cadw/ICOMOS o Barciau a Gerddi o Ddiddordeb
Hanesyddol Arbennig yng Nghymru (Whittle, 1999) {PREIFAT}, wrthi'n cael
eu hadnewyddu. Yn gysylltiedig â'r tþ a phentref Llangathen mae Neuadd
y Pentref o ddechrau'r 20fed ganrif sy'n adeilad hanner coediog, tloty,
ysgol gynradd a Swyddfa'r Post, tra adwaenir dau adeilad gerllaw fel baddondy
a cholomendy'r Esgob Rudd. Mae adeiladau nodweddiadol eraill o fewn y
pentref yn cynnwys tafarn y Farmers Arms, Hill House, capel Ôl-Ganoloesol
ac ystad dai Gellinewydd sy'n dyddio o ddiwedd yr 20fed ganrif. Ceir annedd
gaerog Ganoloesol - Ôl-Ganoloesol yn Allt-y-gaer, a thai Ôl-Ganoloesol
cynharach yng Nghilsan a Berllan-dywyll. Mae'r ffermdai wedi'u hadeiladu
o gerrig ac iddynt doeau llechi. Mae ganddynt ddau lawr ac at ei gilydd
maent yn dyddio o ddiwedd y 18fed ganrif a'r 19eg ganrif a cheir enghreifftiau
yn y dull boneddigaidd yn ogystal ag yn y traddodiad brodorol. Mae tai
allan y ffermydd hyn wedi'u hadeiladu o gerrig ac yn dyddio o'r 19eg ganrif,
ac mae rhai ohonynt wedi'u trefnu'n lled-ffurfiol.
Ceir ffiniau pendant i'r ardal gymeriad hon i'r de lle
y mae'n codi o ddyffryn Tywi, ond mae'r ffiniau'n llai pendant i'r gogledd.
|