|
193 GELLI AUR
CYFEIRNOD GRID: SN 597199
ARWYNEBEDD MEWN HECTARAU: 385.90
Cefndir Hanesyddol
Ardal fach ar dir sy'n graddol ddisgyn i'r de o Afon Tywi. Mae'n
gydamserol â hanner gogleddol plwyf Llanfihangel Aberbythych ac at ei
gilydd mae'n cynnwys Parc Gelli Aur, tirlun ystad yn perthyn i'r 17eg
ganrif hyd at y 19eg ganrif. Mae'n ymestyn dros ran ganolog cwmwd Iscennen
a arhosodd, yn wahanol i weddill Cantref Bychan lle y'i lleolid, yn annibynnol
mewn enw ar reolaeth Eingl-Normanaidd tan 1284 pan gaffaelwyd hi gan John
Giffard. Ym 1340 daeth yn rhan o Ddugiaeth Caerhirfryn (Rees 1953, xv-xvi).
Mae gan eglwys plwyf Llanfihangel Aberbythych, sef eglwys Sant Mihangel,
fynwent gron ac mae'n bosibl iddi gael ei chysegru i Mihangel yn gynnar.
Er nad oes unrhyw dystiolaeth ddogfennol bod eglwys yn y fan hon cyn dechrau'r
17eg ganrif, mae'r traddodiad ei bod wedi'i lleoli rywle arall yn wreiddiol
yn amheus iawn (Ludlow 1998). Ymddengys fod tþ uchel ei statws wedi sefyll
yn Gelli Aur o'r 16eg ganrif o dan y teulu Vaughan, sef Ieirll Cawdor
yn ddiweddarach, ac wedyn o dan Ieirll Cawdor (Jones 1987, 84). Nid oes
unrhyw dystiolaeth o unrhyw anheddiad nac o unrhyw annedd flaenorol o
bwys (Jones, 1962, 259). Ailadeiladwyd y tþ ym 1754-7 ac eto ym 1826 ar
ôl i'r tþ yn dyddio o ddechrau'r 18fed ganrif gael ei ddymchwel yn ôl
pob tebyg. Fodd bynnag parhâi'r cyn-safle i gael ei ddefnyddio fel gardd
lysiau â wal o'i hamgylch ac fe'i haddaswyd sawl gwaith hyd at y cyfnod
presennol. Cynlluniwyd y tþ newydd gan y pensaer Wyattville ac fe'i lleolid
ar safle uwch a thua chilomedr o safleoedd y plastai cynharach (Whittle
1999). Roedd y teulu Vaughan yn arloeswyr ym maes amaethyddiaeth a choedwriaeth
a chynhwysai ystad Gelli Aur, pan oedd ar ei hanterth, 50,000 o erwau
a ymestynnai dros dde-orllewin Cymru (Jones 1962, 258). O dan reolaeth
yr ystad, datblygwyd pentref Gelli Aur o amgylch eglwys Sant Mihangel,
ac yn ddiweddarach yn yr 20fed ganrif, codwyd tai cyngor i'r gogledd.
Defnyddiwyd tþ Gelli Aur gan Lu Awyr yr Unol Daleithiau yn ystod yr Ail
Ryfel Byd ac ym 1952 rhoddwyd y tþ a'r parc ar brydles i Gyngor Sir Gaerfyrddin
a ddefnyddiodd y safle fel Coleg Amaethyddol (Jones 1987, 84); erbyn hyn
mae'r adeiladau yn ffurfio is-goleg i Goleg Technoleg a Chelf (Darlunio
Bywyd Gwyllt) Caerfyrddin, tra bod rhan o'r tiroedd wedi'i dynodi'n barc
gwledig.
Map a atgynhyrchwyd o fap yr OS gyda chaniatad yr Arolwg
Ordnans ar ran Rheolwr Llyfrfa Ei Mawrhydi, © Hawlfraint y Goron 2001.
Cedwir pob hawl. Byddai ei atgynhyrchu heb ganiatad yn torri Hawlfraint
y Goron a gall hynny arwain at erlyniad neu achos sifil. Rhif y drwydded:
GD272221
Disgrifiad ac elfennau hanfodol y dirwedd hanesyddol
Mae craidd yr ardal hon, a leolir ar lethrau graddol sy'n wynebu'r
gogledd rhwng 20 m a 180 m ar yr ochr ddeheuol i ddyffryn Tywi, yn cynnwys
demên Gelli Aur. Gan fod llawer o gyn-barcdir Gelli Aur wedi dirywio erbyn
hyn nes ei fod yn debyg o ran ei gymeriad i'r dirwedd oddi amgylch, mae'r
ardal gymeriad hon ychydig yn fwy o faint na'r cyn-ddemên. Mae coed a
blannwyd, terasau gardd a pharciau difyrrwch yn dyddio o'r 19eg ganrif,
gan gynnwys gardd goed, wedi goroesi, ond plannwyd conifferau ar lawer
o'r tiroedd a'r tir y tu allan i'r cyn-barcdir i'r de o'r plasty yn ystod
ail hanner yr 20fed ganrif. I'r de o'r plasty presennol, nodir safle'r
hen blasty gan ardd â wal o'i hamgylch, llyn a chamlas. Mae'r demên wedi'i
amgáu gan wal â morter arni, ond mae'r wal hon mewn cyflwr gwael erbyn
hyn. Mae pentref Llanfihangel Aberbythych wedi'i leoli o fewn yr ardal
hon. Pentref ystad ydyw yn ei hanfod, ac mae'r eglwys o ganol y 19eg ganrif,
ysgol, anheddau a phorthordai a adeiladwyd mewn dull Gothig Tuduraidd
Fictoraidd, ynghyd ag adeiladau eraill o eiddo'r ystad i ffwrdd o'r pentref
yn rhoi llofnod pensaernïol nodweddiadol i'r ardal hon. I'r de o'r hen
blasty mae'r darn o'r B4300 a sythwyd a'r ffordd syth sy'n arwain at Bont
Cilsan ar draws Afon Tywi yn dystiolaeth o waith a wnaed gynt o ran rheoli'r
ystad. Y tu allan i'r demên mae'r tir ffermio wedi'i amgáu'n gaeau bach-i-ganolig
eu maint gan gloddiau pridd a gwrychoedd. Mae'r gwrychoedd yn cynnwys
coed gwrych nodweddiadol ac mae'r coed hyn ynghyd â chlystyrau bach o
goed yn ymestyn yr olwg barcdirol sydd i Gelli Aur y tu hwnt i'r cyn-ddemên.
Mae datblygiadau modern wedi'u cyfyngu i anheddau gwasgaredig yn agos
at y B4300 ac i ystad o dai Cyngor o glapfwrdd.
Cynrychiolir yr archeoleg a gofnodwyd yn bennaf gan nodweddion
sy'n perthyn i'r ystad megis y parc a'r gerddi sy'n cynnwys parc ceirw
a chwningar. Lleolir safle ffynnon gysegredig bosibl o fewn y cwrtil,
yn ogystal â chwarel Ôl-Ganoloesol.
Mae tþ Gelli Aur, plasty mawr yn y dull 'Gothig-Tuduraidd',
a godwyd ym 1826-32, yn rhestredig Gradd II*, a chyda'r gerddi mae wedi'i
gofnodi fel PGW (Dy) 10 (CAM) yng Nghofrestr Cadw/ICOMOS o Barciau a Gerddi
o Ddiddordeb Hanesyddol Arbennig yng Nghymru (Whittle 1999). {PREIFAT}
Mae'r parc hefyd yn cynnwys porthordai a bwthyn. Lleolir tolldy y tu hwnt
i'r parc i'r gorllewin, yn ogystal â'r pentref â'i adeiladau ystad nodweddiadol.
Ailadeiladwyd eglwys Sant Mihangel yn gyfan gwbl tua 1850 yn ôl cynlluniau'r
pensaer (Syr) George Gilbert Scott ac ar hyn o bryd nid yw'n rhestredig.
O fewn demên ystad Gelli Aur mae'r ardal gymeriad hon a
oedd ar un adeg yn ardal hynod bellach yn debyg i ardaloedd cyfagos. Fodd
bynnag, fe'i nodir ymhlith ei chymdogion gan lofnod adeiladu penodol,
elfennau o'r ardd a'r parc sydd wedi goroesi a phlanhigfeydd coniffer
|