Cartref > Tirweddau Hanesyddol > Tywi >

194 ALLT PANT MAWR

CYFEIRNOD GRID: SN 561195
ARWYNEBEDD MEWN HECTARAU: 294.10

Cefndir Hanesyddol
Ardal dirwedd gymharol fach sy'n ymestyn at ei gilydd dros lethr sy'n graddol ddisgyn i'r de o Afon Tywi. Fe'i lleolir o fewn plwyfi Llanarthne a Llanfihangel Aberbythych yn rhan ganolog cwmwd Iscennen a arhosodd, yn wahanol i weddill Cantref Bychan lle'r oedd wedi'i leoli, yn annibynnol mewn enw ar reolaeth Eingl-Normanaidd tan 1284 pan gaffaelwyd hi gan John Giffard. Ym 1340 daeth yn rhan o Ddugiaeth Caerhirfryn (Rees 1953, xv-xvi). Mae Rhydarwen, ffermdy a leolir yng nghanol yr ardal, yn perthyn i'r cyfnod Canoloesol (Jones 1987, 171), ac mae'n bosibl bod y patrwm o gaeau bach islaw llethrau coediog Allt Pant Mawr wedi'i sefydlu cyn y cyfnod l?Ganoloesol. Yn weledol, coronir pen gorllewinol yr ardal gan Dr Paxton, sef ffoli a adeiladwyd ar gyfer ystad Middleton o fewn Ardal 188. Mae'r B4300 ar hyd ochr ddeheuol dyffryn Tywi, a oedd wedi'i hadeiladu erbyn dechrau'r 19eg ganrif, yn mynd trwy'r ardal hon. Plannwyd conifferau ar lethrau uchaf Allt Pant Mawr tua diwedd yr 20fed ganrif.

Map a atgynhyrchwyd o fap yr OS gyda chaniatad yr Arolwg Ordnans ar ran Rheolwr Llyfrfa Ei Mawrhydi, Hawlfraint y Goron 2001. Cedwir pob hawl. Byddai ei atgynhyrchu heb ganiatad yn torri Hawlfraint y Goron a gall hynny arwain at erlyniad neu achos sifil. Rhif y drwydded: GD272221

Disgrifiad ac elfennau hanfodol y dirwedd hanesyddol
Mae'r ardal gymeriad hon, a leolir ar ochr ddeheuol dyffryn Tywi, yn cynnwys llethrau serth a thra choediog sy'n wynebu'r gogledd; o dan y llethrau hyn ceir ysgafell o dir ffermio a choetir sy'n rhedeg i lawr at orlifdir Afon Tywi. O Afon Tywi ar 20 m OD mae'r tir yn codi i dros 150 m yn y pen deheuol iddi. Mae'r coetir ar y llethrau serth yn gymysgedd o blanhigfeydd coniffer a choed collddail. Amgaeir y tir ar lai o oleddf, sy'n gorwedd yng nghysgod y llethr serth, gan system o gaeau rheolaidd bach sydd thueddiad cryf i ymestyn o'r gogledd i'r de, i lawr y llethr. Mae'n bosibl bod y caeau hyn wedi'u sefydlu'n gynnar. Cloddiau pridd a gwrychoedd sy'n nodi ffiniau'r caeau. Mae cyflwr y gwrychoedd yn amrywio o'r rhai sydd mewn cyflwr da i'r rhai sydd wedi tyfu'n wyllt ac sy'n lled-adfeiliedig. Mae ffensys gwifrau wedi'u hychwanegu at y gwrychoedd terfyn. Mae coed gwrych nodweddiadol yn gyffredin. Mae rhan o'r tir yn borfa wedi'i gwella, ond mae llawer o dir brwynog heb ei gwella, ac mae coetir prysglog wedi ymestyn i rai caeau blaenorol. Mae'r nodwedd olaf hon ar y cyd 'r coed gwrych nodweddiadol a'r coed llydanddail yn rhoi golwg dra choediog i'r ardal. Nodweddir y patrwm anheddu gan ffermydd bach gwasgaredig, tyddynnod, bythynnod ac anheddau eraill ar hyd y B4300.

Nid oes fawr ddim archeoleg a gofnodwyd o fewn yr ardal hon sydd at ei gilydd ar oleddf, ac mae wedi'i chyfyngu i dwmpath llosg, man darganfod cynhanesyddol a chwareli l-Ganoloesol.

Mae adeiladau nodweddiadol yn cynnwys Rhydarwen, sef tanoloesol rhestredig Gradd II*, 'adeilad cadarn' ac iddo dyred grisiau yn y ddeupen a murlun yn dyddio o'r 16eg ganrif (Jones 1987, 171), a newidiwyd yn y 18fed ganrif. Mae'r mwyafrif o'r adeiladau fferm yn perthyn i'r 19eg ganrif, mae iddynt ddeulawr a thoeau llechi ac maent wedi'u hadeiladu o gerrig. Maent yn y traddodiad brodorol, er y ceir rhai yn y dull Sioraidd.

Mae'r ardal hon yn un hynod, ac mae ei choetiroedd helaeth iawn, ei system o gaeau yn ymestyn o'r gogledd i'r de a maintioli bach ei ffermydd a'i hadeiladau yn ei gosod ar wahn i'w chymdogion.

 

 

 

 

 

[cliciwch am rhestr y pynciau os nad yw'n bresennol]