|
201 CWM-IFOR - MANORDEILO
CYFEIRNOD GRID: SN 667276
ARWYNEBEDD MEWN HECTARAU: 1509.00
Cefndir Hanesyddol
Ardal gymeriad fawr ydyw a leolir uwchben y rhyngwyneb rhwng y llifwaddod
a daeareg solet ochr ogleddol Afon Tywi, ac mae'n rhan o goridor y prif
lwybr hanesyddol i Orllewin Cymru. Dilynai'r ffordd Rufeinig o Gaerfyrddin
i Lanymddyfri y rhyngwyneb hwn. Mae'n ffurfio ymyl dde-ddwyreiniol yr
ardal gymeriad (gweler Ardal 196) a dilynwyd ei chwrs fwy neu lai gan
ffordd fodern yr A40(T). Mae'n bosibl bod y ffordd Rufeinig yn parhau
llinell llwybr cynharach, neu o leiaf weithgarwch, fel y tystir gan y
darganfyddiadau digyswllt yn dyddio o'r Oes Efydd a ddarganfuwyd ar y
ffordd neu'n agos ati, gan gynnwys celc aur. Fodd bynnag rhoddwyd y gorau
i ddilyn llinell y ffordd Rufeinig yn ystod y cyfnod Canoloesol a dechrau'r
cyfnod Ôl-Ganoloesol, nes i ffordd dyrpeg gael ei sefydlu ar hyd ei llwybr
yn y 18fed ganrif. Yn y cyfamser sefydlwyd llwybr o Landeilo i Lanymddyfri,
gyda thollty yn ddiweddarach, ar hyd y tir uwch trwy ganol yr ardal gymeriad
hon (Ludlow 1999, 24), pan oedd wedi'i lleoli o fewn hanner deheuol cwmwd
Manordeilo, cantref Manordeilo yn ddiweddarach, (Rees 1932) a ddelid o
arglwyddiaeth Gymreig annibynnol Cantref Mawr nes i Sir Gaerfyrddin gael
ei sefydlu ym 1284. Gall natur gymharol gydryw y dirwedd bresennol gynrychioli
undod hanesyddol o ran y defnydd a wneid o'r tir. Roedd y dirwedd wedi'i
hamgáu, i greu'r patrwm presennol o gaeau afreolaidd, erbyn i'r arolygon
degwm gael eu cynnal yn ail chwarter y 19eg ganrif, ond mae'n bosibl bod
y broses wedi dechrau yn gynharach, ar ddiwedd yr Oesoedd Canol o bosibl.
Ychydig iawn o anheddu a fu erioed ar y gorlifdir ei hun ond mae'n digwydd
ar 'ynysoedd' uchel o fewn y llifwaddod, yn bennaf ar ffurf ffermydd unig
ac mae'n bosibl bod un o'r ffermydd hyn, sef Glanrhyd-isaf, yn hen iawn.
Gall gweddillion system gaeau gyfagos berthyn i'r cyfnod Canoloesol. Ar
y tir uwch, mae'r llwyfannau adeiladu, y lonydd ac ati yn dyddio o'r cyfnod
Ôl-Ganoloesol yn dystiolaeth o aneddiadau blaenorol o amgylch Banc-y-gwyn.
Lleolir yr ardal gymeriad hon o fewn plwyf mawr Llandeilo Fawr ac mae
iddi lofnod eglwysig cryf, sy'n cynrychioli efallai graidd Patria Teilo
Sant sy'n rhagflaenu'r Goresgyniad. Mae'n bosibl i'r nifer fawr o gapeli
anwes sy'n perthyn i'r plwyf gael eu sefydlu'n gynnar ac yn eu plith ceir
rhai sydd o fewn yr ardal gymeriad hon. Roedd un o'r capeli hyn i'w weld
o hyd ar ddechrau'r 19eg ganrif pan godwyd annedd ar y safle, sef Capel
Isa, a adeiladwyd ar dir a berthynai'n wreiddiol i ystad Abermarlais yn
Ardal 209 (Jones 1987, 21). Ar lethr isaf y dyffryn saif dau, tri gynt,
dþ mwy 'boneddigaidd' a'u gerddi, ac mae rhywfaint o'r tir wedi'i wneud
yn barc sydd wedi nodweddu'r dirwedd. Y pwysicaf o'r tai hyn yw Glanbrydan,
a sefydlwyd tua diwedd y 18fed ganrif ond a ehangwyd, ac a osodwyd fel
tirlun parcdir, rhwng 1838 a 1887 pan adeiladwyd porthordy (Ludlow 1999,
26). Fferm fawr yw Down Farm yn y bôn tra bod Dirleton gerllaw Pont Llangadog
bellach wedi mynd i bob pwrpas. Roedd y patrwm o ffermydd bach o fewn
yr ardal ac o'i hamgylch wedi'i sefydlu erbyn dechrau'r 19eg ganrif, ond
bu newidiadau yn y dirwedd gan gynnwys colli ffermydd eraill a chyfuno
caeau yn agos at lawr y dyffryn, dargyfeirio'r ffordd dyrpeg yn y 1820au
a datblygiad y pentref ar ôl hynny, ac eglwys, yng Nghwm-Ifor (gweler
Ardal 196). Crëwyd yr anheddiad cnewyllol ym Manordeilo yn y 19eg ganrif
hefyd ac nis enwir hyd yn oed ar Luniau Tirfesurwyr Gwreiddiol yr Arolwg
Ordnans, Dalen 189, yn dyddio o 1812. Mewn gwirionedd ers 1964 y gwelwyd
yr ehangu mwyaf ym Manordeilo (Arolwg Ordnans, 1:10000), ac mae'n dal
i ehangu gydag anheddau newydd yn cael eu hadeiladu yn y pen gogledd-ddwyreiniol.
Map a atgynhyrchwyd o fap yr OS gyda chaniatad yr Arolwg
Ordnans ar ran Rheolwr Llyfrfa Ei Mawrhydi, © Hawlfraint y Goron 2001.
Cedwir pob hawl. Byddai ei atgynhyrchu heb ganiatad yn torri Hawlfraint
y Goron a gall hynny arwain at erlyniad neu achos sifil. Rhif y drwydded:
GD272221
Disgrifiad ac elfennau hanfodol y dirwedd hanesyddol
Mae ardal gymeriad Cwm-Ifor - Manordeilo yn ymestyn dros ardal o fryniau
tonnog ar ochr ogleddol dyffryn Tywi. O lawr y dyffryn ar lefel o 40m
fwy neu lai mae'r bryniau'n codi i 160 m ar eu huchaf, er eu bod rhwng
50 m a 90 m o uchder ar y cyfan. Tirwedd o gaeau afreolaidd bach a ffermydd
gwasgaredig ydyw yn y bôn. Defnyddir y tir bron yn gyfan gwbl ar gyfer
porfa wedi'i gwella. Mae'r caeau wedi'u rhannu gan gloddiau a gwrychoedd.
At ei gilydd mae'r gwrychoedd mewn cyflwr da ac maent yn cael eu cynnal
a'u cadw'n dda, ond mae rhai gwrychoedd sydd wedi'u hesgeuluso ar esgeiriau
isel i'r gogledd yn agos at Abermarlais (Ardal 209) ym mhen dwyreiniol
yr ardal ac ar dir uchel i'r gogledd. Mae coed gwrych nodweddiadol yn
gyffredin, yn arbennig yn yr ardaloedd lle y ceir y gwrychoedd wedi'u
hesgeuluso i'r gogledd o Gwm-Ifor. Mae nifer fawr o brysglwyni a chlystyrau
o goetir, y gall rhai ohonynt fod yn hynafol, yn arbennig ar lethrau dwyreiniol
Afon Dulais, llethrau sy'n wynebu'r gogledd. Mae'r parcdir yng Nglanbrydan
ac i raddau cyfyngedig hen barc ceirw Dirleton yn cyfuno'r dirwedd amaethyddol
oddi amgylch ac yn dylanwadu arni. Mae'r hen batrwm sefydlog o ffermydd
gwasgaredig yn cynnwys yn bennaf dai wedi'u hadeiladu o gerrig yn dyddio
o'r 18fed ganrif a'r 193eg ganrif. Er bod yr adeiladau hyn yn dod o fewn
ystod gyfyng o ddyddiadau, ceir ystod economaidd a chymdeithasol sylweddol
o blastai megis Tþ Glanbrydan a'i borthordai a fferm y plas sy'n gysylltiedig
ag ef, i lawr i anheddau bach yn y traddodiad brodorol. Wedi'i arosod
ar y patrwm o ffermydd gwasgaredig mae patrwm diweddarach o aneddiadau
llinellol a chnewyllol. Mae'r adeiladau sy'n ffurfio'r patrwm hwn yn dyddio
o'r 20fed ganrif ac yn dueddol o fod wedi'u canoli ar hyd ffordd yr A40,
er bod datblygiadau tai modern wedi trawsnewid pentrefan Cwm-Ifor a sefydlwyd
yn y 19eg ganrif yn anheddiad cnewyllol bach.
Mae'r archeoleg a gofnodwyd yn ymwneud yn bennaf â'r broses
o anheddu a drafodwyd eisoes, ond mae'n cynnwys ôl cnwd anhysbys, a all
fod yn grug crwn a maen hir, yn ogystal â'r celc aur a darganfyddiadau
digyswllt. Mae o leiaf dri safle capeli Canoloesol, system gaeau a ffynnon
bosibl, llwyfannau adeiladu Ôl-Ganoloesol, dyfrffosydd, lonydd a phontydd
o amgylch Banc-y-gwyn. Mae safle Tþ Dirleton a'r parc yn dal i gynnwys
nodweddion tirwedd.
Ymhlith yr adeiladau nodweddiadol mae Capel Isa sy'n rhestredig
Gradd II, a adeiladwyd ym 1812-13 gan Thomas Bedford o Landeilo fel adeilad
mawr, deulawr, ac iddo gynllun sgwâr yn wreiddiol. Yn y 19eg ganrif ychwanegwyd
bae at yr adeilad i'r gorllewin ac erbyn hyn mae ganddo ffasâd deheuol
â thri bae. Mae rhes gysylltiedig o stablau sy'n rhestredig Gradd II.
Nid yw adeilad presennol Tþ Glanbrydan a'r porthordai yn rhestredig, ond
mae'r 'tþ tðr' ( y cerbyty gynt), a adeiladwyd yn ôl pob tebyg ym 1885
yn ôl cynlluniau S W Williams o Raeadr, yn rhestredig Gradd II. Mae yna
duedd i'r ffermydd mwy o faint a'r ffermdai mwy o faint sydd ynghlwm wrthynt,
sydd yn aml yn y traddodiad Sioraidd, fod wedi'u lleoli ar y llethrau
isaf yn nes at ddyffryn Tywi. Fel arfer mae gan y ffermydd mwy o faint
hyn gasgliad mawr o dai allan o gerrig wedi'u trefnu'n ffurfiol. Fodd
bynnag nodweddir y math mwyaf cyffredin o ffermdy gan dþ deulawr, syml
ac iddo dri bae yn y traddodiad brodorol a grðp bach o dai allan, weithiau
wedi'u cywasgu'n un rhes. Mae gan y mwyafrif o ffermydd dai allan amaethyddol
modern mawr ynghlwm wrthynt. Ceir nifer o fythynnod sy'n perthyn i ddechrau'r
19eg ganrif. Mae eglwys Sant Pawl, Cwm-Ifor, yn dyddio o ddiwedd y 19eg
ganrif ac mae wedi'i hadeiladu ar safle newydd ond mae'r capel yn dyddio
o 1836. Lleolir capeli anghydffurfiol eraill ym Manordeilo a Hermon. Ar
yr A40(T) ceir carreg filltir restredig Gradd II a osodwyd yno gan gwmni
tyrpeg ar ddechrau'r 19eg ganrif, a lleolir tollty cynharach ar yr hen
ffordd bost.
Nid yw'n hawdd diffinio'r ardal hon, am fod gan ardaloedd
cyfagos nodweddion tebyg. Dim ond i'r de yn erbyn gorlifdir Afon Tywi
ceir diffiniad pendant. Mewn mannau eraill ceir ardal drawsnewid.
|