Cartref > Tirweddau Hanesyddol > Tywi >

203 ALLT TREGIB

CYFEIRNOD GRID: SN 657214
ARWYNEBEDD MEWN HECTARAU: 913.10

Cefndir Hanesyddol
Ardal fawr sy'n ymestyn dros ochr dde-ddwyreiniol Dyffryn Tywi i'r dwyrain o Landeilo. Lleolid yr ardal hon o fewn cwmwd Iscennen, o fewn Maenor Llys yn benodol, yr oedd Nant Breinant - sy'n rhannol ffurfio ymyl ogleddol yr ardal hon - wedi'i henwi'n ffin iddi yn y 16eg ganrif (Rees 1953). Yn wahanol i weddill Cantref Bychan lle y'i lleolid, arhosodd Iscennen yn annibynnol mewn enw ar reolaeth Eingl-Normanaidd hyd at 1284 pan ddaeth i feddiant John Giffard. Ym 1340 daeth yn rhan o Ddugiaeth Caerhirfryn (Rees 1953, xv-xvi). Nodir hanner dwyreiniol yr ardal gymeriad fel 'Brenaye Forest' ar y map a dynnwyd gan Rees yn dangos De Cymru yn y 14eg ganrif (Rees 1932), ond mae'r clostiroedd afreolaidd canolig eu maint yn yr ardal hon yn gwrthgyferbynnu 'r clostiroedd rheolaidd, mwy o faint i'r gogledd, i'r de ac ymhellach i'r dwyrain - y mae rhai ohonynt yn cynrychioli tir comin cynharach a amgaewyd yn y 19eg ganrif - ac sy'n gynharach yn l pob tebyg, er efallai eu bod yn dal i berthyn i'r cyfnod l-Ganoloesol. Hefyd dengys map Rees ffordd annosbarthedig, ysbeidiol, weddol syth yn rhedeg o'r gorllewin-dde-orllewin i'r dwyrain-ogledd-ddwyrain ar draws esgair yr ardal. Perthynai pen gorllewinol yr ardal hon i bentrefan Tre?gib (ystad Tre?gib yn ddiweddarach) (Ardal 202) ac er nad oes fawr ddim gwahaniaeth yn y dirwedd yn y fan hon, mae'n fwy coediog ac yn cynnwys yr enw Cwningar Tre?gib. Nodweddir hanes diweddarach yr ardal hon yn bennaf oll gan amaethu bugeiliol er bod ffatri gerllaw Tre?gib wedi'i nodi ar fapiau yn dyddio o'r 19eg ganrif.

Map a atgynhyrchwyd o fap yr OS gyda chaniatad yr Arolwg Ordnans ar ran Rheolwr Llyfrfa Ei Mawrhydi, Hawlfraint y Goron 2001. Cedwir pob hawl. Byddai ei atgynhyrchu heb ganiatad yn torri Hawlfraint y Goron a gall hynny arwain at erlyniad neu achos sifil. Rhif y drwydded: GD272221

Disgrifiad ac elfennau hanfodol y dirwedd hanesyddol
Lleolir ardal gymeriad Allt Tregib ar lethrau bryniog a thonnog Dyffryn Tywi, llethrau sy'n wynebu'r gogledd, rhwng 30m a 220m. Mae gan lethr y dyffryn olwg dra choediog, ond ymddengys yn fwy coediog nag y mae mewn gwirionedd, oherwydd er y ceir clystyrau sylweddol o goetir collddail hynafol, a choedwigoedd mwy prysglog a phlanhigfeydd coniffer bach a blannwyd yn ddiweddar, at ei gilydd nodweddir yr ardal hon gan gaeau afreolaidd bach a ffermydd tra gwasgaredig. Mae porfa wedi'i gwella yn gyffredin, ond ceir llawer o gaeau o dir brwynog mwy garw, sy'n adlewyrchu'r pocedi o dir gwael a geir ar y llethrau sy'n wynebu'r gogledd. Mae'r coetir prysglog wedi ymestyn i rai o'r caeau hyn yn ddiweddar. Fel arfer mae'r caeau wedi'u rhannu gan gloddiau gwrychoedd ar eu pennau, ond ceir rhai cloddiau caregog a rhai cloddiau wyneb o gerrig ar lefelau uwch. Mae cyflwr y gwrychoedd yn amrywio, ond fel arfer maent mewn cyflwr da ac wedi'u tocio neu mae coed gwrych nodweddiadol wedi tyfu'n wyllt ynddynt. Ffermdai a bythynnod yn y dull brodorol yn dyddio o'r 19eg ganrif yw'r prif fathau o anheddau. Ceir ffermydd mwy o faint, ond mae'r mwyafrif yn gymharol fach yn nhermau Sir Gaerfyrddin ac yn cynnwys amrediad cyfyngedig o adeiladau fferm o gerrig, sydd weithiau wedi'u cywasgu'n un rhes. Mae gan rai ffermydd adeiladau amaethyddol modern mawr ynghlwm wrthynt. Mae bythynnod unllawr a adeiladwyd o gerrig yn y 19eg ganrif yng Ngurnos-Cwmdu yn awgrymu bod sgwatwyr naill ai wedi cyfaneddu tir comin a leolid ar hyd ymyl rhan o'r ardal hon neu wedi tresmasu arno.

Mae'r archeoleg a gofnodwyd yn gyfyngedig i faen hir cofrestredig, man darganfod o'r Oes Efydd a chlostir posibl (heb ddyddiad).

Ni cheir unrhyw adeiladau nodweddiadol.

Mae ffiniau'r ardal hon yn weddol bendant ac mae'n gwrthgyferbynnu thir mwy bras, llai coediog a ffermydd mwy o faint yr ardaloedd a leolir i'r gogledd, i'r dwyrain ac i'r gorllewin, ac 'r tir uwch i'r de nad yw wedi'i amgu mor drylwyr.

 

 

 

 

 

 

 

[cliciwch am rhestr y pynciau os nad yw'n bresennol]