Cartref > Tirweddau Hanesyddol > Tywi >

205 TIR COMIN CARREG-SAWDDE

CYFEIRNOD GRID: SN 702279
ARWYNEBEDD MEWN HECTARAU: 78.59

Cefndir Hanesyddol
Ardal o dir comin gweddilliol yw Carreg-Sawdde ac mae'n bosibl bod llain helaeth o dir pori agored y tu mewn i'r ardal hon ers llawer dydd. Fe'i lleolid o fewn cwmwd Perfedd yng Nghantref Bychan a oresgynnwyd, ac eithrio Iscennen, gan yr Eingl-Normaniaid wrth iddynt ymledu o'r dwyrain o dan Richard Fitz Pons a sefydlodd caput yn Llanymddyfri ym 1110-16 (Rees d.d.). Yn fuan ar ôl hynny fe'i trosglwyddwyd i arglwyddi Clifford Aberhonddu, fel Arglwyddiaeth Llanymddyfri. Fodd bynnag, cafwyd cyfnodau pan fu Cantref Bychan dan reolaeth y Cymry ac arddelwyd arferion deiliadol brodorol yn yr ardal tan ddiwedd y cyfnod Canoloesol. Ymddengys i'r tir comin ddod yn rhan o patria Llangadog pan drosglwyddwyd yr ardal i Esgobion Tyddewi tua diwedd y 13eg ganrif (Rees 1932), ac o'r adeg honno ymddengys fod yr hawl pori yn perthyn i fwrdeisiaid Llangadog (Ardal 206). Roedd y tir comin fwy neu lai yr un maint ag y mae heddiw erbyn o leiaf 1839, pan gofnododd map degwm plwyf Llangadog dirwedd debyg iawn i'r dirwedd bresennol. Cafwyd rhywfaint o dresmasu ar raddfa gyfyngedig ar ôl hynny yn arbennig yn y pen de-ddwyreiniol gerllaw Ardal 235 (Castell Meurig) ac fel 'ynysoedd' o fewn y tir comin, ac ymddengys fod pobl wedi rhoi'r gorau i ddefnyddio rhai o'r lonydd a ddangosir ar fapiau cynnar.

Map a atgynhyrchwyd o fap yr OS gyda chaniatad yr Arolwg Ordnans ar ran Rheolwr Llyfrfa Ei Mawrhydi, © Hawlfraint y Goron 2001. Cedwir pob hawl. Byddai ei atgynhyrchu heb ganiatad yn torri Hawlfraint y Goron a gall hynny arwain at erlyniad neu achos sifil. Rhif y drwydded: GD272221

Disgrifiad ac elfennau hanfodol y dirwedd hanesyddol
Lleolir tir comin Carreg-Sawdde ar orlifdir Afon Sawdde ar uchder o 45m fwy neu lai. Mae ffordd (dyrpeg) yr A4069 yn croesi rhan o ochr dde-ddwyreiniol y tir comin. Mae ffordd B o Langadog i Felindre yn croesi'r tir comin tua'r pen deheuol iddo, a'r Afon Sawdde dros bont yn dyddio o'r 20fed ganrif (a godwyd ar safle croesfan cynharach). Tir pori garw agored a geir ar y comin ar wahân i 'ynys' fach o adeiladau wedi'u pacio'n glòs yn y canol, a gwaith trin carthffosiaeth modern.

Mae'r adeiladau'n dresmasiadau ar y comin ac maent yn cynnwys tai deulawr yn dyddio o ddiwedd y 19eg ganrif a byngalos yn dyddio o ddiwedd yr ugeinfed ganrif. Mae'r archeoleg a gofnodwyd yn gyfyngedig i fan darganfod y mae ei ddyddiad yn ansicr.

Nid oes unrhyw adeiladau nodweddiadol.

Mae'r tir comin agored hwn yn gwrthgyferbynnu ag anheddiad cnewyllol a chaeau cysylltiedig Felindre i'r gorllewin, ag ardal gymeriad drefol Llangadog i'r dwyrain, ac â thir ffermio amgaeëdig a ffermydd gwasgaredig ar ochrau eraill.