207 CEFNGORNOETH
CYFEIRNOD GRID: SN 716299
ARWYNEBEDD MEWN HECTARAU: 308.50
Cefndir Hanesyddol
Ardal i'r de-ddwyrain o Afon Tywi, a fu ar un adeg yn rhan o gwmwd Perfedd
yng Nghantref Bychan, a oresgynnwyd gan yr Eingl-Normaniaid wrth iddynt
ymledu o'r dwyrain o dan Richard Fitz Pons, a sefydlodd caput yn Llanymddyfri
ym 1110-16 (Rees d.d.). Yn fuan ar ôl hynny fe'i trosglwyddwyd i arglwyddi
Clifford Aberhonddu, fel Arglwyddiaeth Llanymddyfri. Fodd bynnag, cafwyd
cyfnodau pan fu Cantref Bychan dan reolaeth y Cymry ac arddelwyd arferion
deiliadol brodorol tan ddiwedd y cyfnod Canoloesol pan gafodd ei ymgorffori
o fewn ffiniau presennol Sir Gaerfyrddin. Roedd y rhan fwyaf o'r ardal
gymeriad hon yn rhan o patria Llangadog a drosglwyddwyd i Esgobion Tyddewi
ar ddiwedd y 13eg ganrif (Rees 1932). Mae fferm sydd ag enw yn cynnwys
yr elfen 'Tyddyn' yn awgrymu anheddiad Canoloesol a thir oedd wedi'i rannu'n
ffurfiol, a nodweddir yr ardal gan glostiroedd afreolaidd bach y mae'n
bosibl eu bod yn dyddio o ddiwedd y cyfnod Canoloesol o leiaf. Ymddengys
fod fferm bresennol Wernfrena yn sefyll ar safle tþ yn dyddio o ddechrau'r
cyfnod Ôl-Ganoloesol sydd wedi'i ailadeiladu erbyn hyn (Jones 1987, 89).
Map a atgynhyrchwyd o fap yr OS gyda chaniatad yr Arolwg
Ordnans ar ran Rheolwr Llyfrfa Ei Mawrhydi, © Hawlfraint y Goron 2001.
Cedwir pob hawl. Byddai ei atgynhyrchu heb ganiatad yn torri Hawlfraint
y Goron a gall hynny arwain at erlyniad neu achos sifil. Rhif y drwydded:
GD272221
Disgrifiad ac elfennau hanfodol y dirwedd hanesyddol
Lleolir ardal gymeriad Cefngornoeth dros esgair fryniog isel ar ochr
ddeheuol Afon Tywi, rhwng dyffryn Tywi a dyffryn Bran. Mae'r esgair yn
codi o 45m fwy neu lai ar lawr dyffryn Tywi i dros 110 m ar y bryniau
llyfngrwn isel. Tirwedd o gaeau afreolaidd bach, clystyrau bach o goetir
collddail, y gall rhai ohonynt fod yn hynafol, a ffermydd gwasgaredig
ydyw yn y bôn. Mae'r tir ffermio bron i gyd yn borfa wedi'i gwella. Nodir
ffiniau'r caeau gan gloddiau â gwrychoedd ar eu pennau. Ar ei gilydd mae'r
gwrychoedd mewn cyflwr da, ond mae rhai ohonynt wedi tyfu'n wyllt neu
maent wedi'u hesgeuluso. Mewn rhai gwrychoedd ceir coed gwrych nodweddiadol.
Yn agos at dþ Cefngornoeth mae ardal fach o barcdir yn cyfuno â'r dirwedd
oddi amgylch. Mae'r clystyrau o goed ar lethr dyffryn Tywi yn rhoi golwg
goediog i'r ochr hon o'r ardal gymeriad. At ei gilydd mae'r ffermydd yn
dyddio o'r 19eg ganrif ac maent yn y traddodiad brodorol, gydag adeiladau
fferm anffurfiol sy'n cynnwys rhai adeiladau modern.
Mae'r archeoleg a gofnodwyd yn gyfyngedig i fan darganfod
o'r Oes Efydd.
Ychydig o adeiladau nodweddiadol sydd. At ei gilydd mae'r
ffermydd yn dyddio o'r 19eg ganrif, maent wedi'u hadeiladu o gerrig yn
y traddodiad brodorol; mae'r adeiladau fferm cysylltiedig wedi'u hadeiladu
o gerrig yn yr un modd ac yn gyffredinol mae ganddynt drefniant anffurfiol
â'r ffermdy, tra bod gan y mwyafrif o ffermydd res o adeiladau amaethyddol
modern. Ceir y gwasgariad arferol o fythynnod ac anheddau Ôl-Ganoloesol.
Mae Wernfrena a Chefngornoeth yn dai mwy sylweddol a adeiladwyd yn y traddodiad
mwy boneddigaidd.
Nid yw'n hawdd diffinio'r ardal gymeriad hon am fod ganddi
lawer o elfennau hanesyddol sy'n perthyn i'w chymdogion hefyd. I'r gogledd,
lle y mae'n cyfarfod â dyffryn Tywi ceir ffin eithaf pendant rhyngddi
â thir y gorlifdir nad yw wedi'i amgáu cymaint. Hefyd ceir ffin bendant
i'r gorllewin yn erbyn uned drefol Llangadog. I'r de ac i'r dwyrain ceir
ardal drawsnewidiol, yn hytrach na ffin bendant, rhwng yr ardal hon a'i
chymydog.
|