Cartref > Tirweddau Hanesyddol > Tywi >

210 LLANSADWRN - LLANWRDA

CYFEIRNOD GRID: SN 701310
ARWYNEBEDD MEWN HECTARAU: 330.60

Cefndir Hanesyddol
Ardal a leolir ar ochr ogledd-orllewinol Dyffryn Tywi. Yn ystod y cyfnod hanesyddol mae'r ardal bob amser wedi'i rhannu gan ffin weinyddol: lleolid yr hanner gorllewinol o fewn Maenor Llansadwrn yng nghwmwd Maenordeilo (cantref Maenordeilo yn ddiweddarach), sef plwyf Llansadwrn ar ddiwedd y cyfnod Canoloesol, tra lleolid yr hanner dwyreiniol o fewn Gwestfa Llanwrda yng nghwmwd Malláen, sef plwyf Llanwrda ar ddiwedd y cyfnod Canoloesol a chantref diweddarach Caio (Rees 1932). Delid y ddau gwmwd o arglwyddiaeth Gymreig annibynnol Cantref Mawr nes i Sir Gaerfyrddin gael ei sefydlu ym 1284. Mae tystiolaeth o anheddiad cynnar; lleolir bryngaer o'r Oes Haearn o fewn yr ardal tra bod eglwysi presennol Llansadwrn a Llanwrda o bosibl yn rhagflaenu'r Goresgyniad. Lleolir yr ail eglwys yn agos at y ffordd Rufeinig o Gaerfyrddin i Lanymddyfri, a gynrychiolir gan yr A40(T) bellach, sy'n ffurfio ymyl dde-ddwyreiniol hir yr ardal gymeriad hon, tra bod gan y ddwy eglwys fynwentydd a arferai fod yn grwn (roedd mynwent eglwys Llansadwrn yn fawr iawn). Fodd bynnag, ni ddaeth yr un o'r eglwysi hyn yn eglwys blwyf tan ddiwedd y cyfnod Canoloesol (neu'r cyfnod Ôl-Ganoloesol hyd yn oed), a chyn hynny roedd y ddwy wedi'u hatodi i blwyf mawr Cynwyl Gaeo, a oedd ei hun yn uned a sefydlwyd cyn y Goresgyniad fwy na thebyg, ac a oedd yn ei dro yn ddarostyngedig i Abaty Talyllychau o tua 1200 ymlaen (Ludlow 1998). Nid oes unrhyw dystiolaeth o anheddiad yn y cyfnod Canoloesol; mae'n bosibl bod yr enw lle maerdy sy'n cynnwys yr elfen maer neu feili yn gysylltiedig ag ystad gyfagos Abermarlais sy'n dyddio o'r cyfnod Canoloesol (Sambrook and Page 1995, 17) yn hytrach nag ag anheddiad o amgylch yr eglwys. Ystyrid bod gan Maenor Llansadwrn statws arglwyddiaeth fach erbyn dechrau'r 16eg ganrif pan oedd, ynghyd ag ystad Abermarlais (Ardal 209), ym meddiant un o benaethiaid mawr yr oes duduraidd, sef Syr Rhys ap Thomas (Sambrook and Page 1995, 21). Dienyddiwyd ei ðyr a'i etifedd Syr Rhys ap Gruffydd gan Henry VIII fel bradwr a throsglwyddwyd 'maenor, arglwyddiaeth, pentrefan a thref Llansadwrn' i'r goron. Mae'n debyg bod y term tref yn y cyd-destun hwn yn cyfeirio at drefgordd yn hytrach nag at ardal adeiledig, ac nid oes unrhyw gofnodion bod unrhyw ryddfreiniau yn gysylltiedig â sefydlu bwrdeistref. Mae'n debyg bod Neuadd Fawr, tþ mawr yn dyddio o'r 17eg ganrif a leolir ychydig y tu allan i Lanwrda, yn ddatblygiad unigol ond mae'n bosibl ei fod yn sefyll ar safle llys Canoloesol Gwestfa Llanwrda. Mae'n debyg bod y ddau anheddiad cnewyllol wedi dechrau yn y 18fed ganrif a dengys yr Hen Gyfres o fapiau 1'' yr Arolwg Ordnans o ddechrau'r 19eg ganrif fod yr aneddiadau hyn yn cynnwys datblygiad gwasgaredig yn unig. Rhoddwyd hwb i Lanwrda dyfu pan wnaed y ffordd Rufeinig yn ffordd dyrpeg ym 1763-71 (Lewis, 1971, 43), pan symudodd y pentref o'r eglwys tua'r ffordd. Adeiladwyd swyddfa bost yn y ddau bentref ar ddiwedd y 19eg ganrif, a bu datblygiadau yn Llanwrda yn arbennig yn ystod yr 20fed ganrif. At ei gilydd mae'r caeau'n fawr ac yn rheolaidd sy'n awgrymu o bosibl iddynt gael eu hamgáu yn y cyfnod Ôl-Ganoloesol.

Map a atgynhyrchwyd o fap yr OS gyda chaniatad yr Arolwg Ordnans ar ran Rheolwr Llyfrfa Ei Mawrhydi, © Hawlfraint y Goron 2001. Cedwir pob hawl. Byddai ei atgynhyrchu heb ganiatad yn torri Hawlfraint y Goron a gall hynny arwain at erlyniad neu achos sifil. Rhif y drwydded: GD272221

Disgrifiad ac elfennau hanfodol y dirwedd hanesyddol
Lleolir ardal gymeriad Llansadwrn-Llanwrda ar ochr ogleddol dyffryn Tywi, ac mae'n cynnwys: ymyl fwyaf gogleddol y gorlifdir ar lefel o 45m fwy neu lai, bryniau sy'n codi i 140m ar eu huchaf a rhan isaf dyffryn Dulais lle y lleolir pentref Llanwrda. Yn y bôn mae'r ardal hon yn cynnwys dau bentref cnewyllol llac - sef Llansadwrn a Llanwrda - ffermydd gwasgaredig a phorfa wedi'i gwella sydd wedi'i hamgáu'n gaeau afreolaidd bach. Nodir ffiniau'r caeau gan gloddiau â gwrychoedd ar eu pennau. At ei gilydd mae'r gwrychoedd mewn cyflwr da, er bod rhai yn dechrau tyfu'n wyllt, ac ar lefelau uwch mae rhai gwrychoedd wedi dirywio. Ceir coed gwrych nodweddiadol mewn rhai gwrychoedd. Mae ffensys gwifrau wedi'u hychwanegu at y mwyafrif o'r gwrychoedd. Cyfyngir clystyrau bach o goed collddail yn bennaf i lethrau serth dyffrynnoedd llai o faint. O'i gymharu â phentrefi eraill dyffryn Tywi mae Llansadwrn yn anarferol am ei fod wedi'i leoli ar gopa bryn llyfngrwn yn hytrach nag ar lawr dyffryn. Mae'n cynnwys cylch llac o dai o amgylch yr eglwys Ganoloesol. Ymddengys fod tai a bythynnod y pentref sydd wedi'u hadeiladu o gerrig yn perthyn i'r 19eg ganrif yn bennaf. Nid yw'r tai gwasgaredig mwy diweddar, sydd wedi'u hadeiladu mewn amrywiaeth o ddulliau, yn amharu ar gymeriad y pentref sy'n perthyn i'r 19eg ganrif yn y bôn. Pentref ar lawr y dyffryn yw Llanwrda a ddatblygodd wrth gyffordd dwy ffordd dyrpeg, sef ffordd bresennol yr A40(T) a'r A482, a cheir tai yn dyddio o ddechrau a chanol y 19eg ganrif mewn amrywiaeth o ddulliau ar hyd yr A482, a thai diweddarach yn dyddio o'r 19eg ganrif ar hyd yr A40(T). Erbyn hyn mae ffordd osgoi wedi'i hadeiladu yn mynd heibio i'r A40(T). Sefydlwyd rhai ystadau tai modern ar gyrion craidd y pentref. At ei gilydd mae'r ffermydd gwasgaredig yn dyddio o'r 19eg ganrif, ac maent yn y traddodiad brodorol, a chanddynt dai allan o faint cymedrol, sydd weithiau wedi'u cywasgu'n un rhes. Mae gan y mwyafrif o ffermydd gasgliad o adeiladau amaethyddol modern. Mae'r A40(T) yn rhedeg ar hyd ffin ddeheuol yr ardal hon, ar hyd coridor llwybr dyffryn Tywi ond, ar wahân i bentref Llanwrda, ni chafwyd datblygiadau llinellol ar hyd y ffordd hon.

Nid oes fawr ddim archeoleg a gofnodwyd ond mae'r fryngaer o'r Oes Haearn a'r ffordd Rufeinig yn golygu bod hanes hir i'r ardal. Hefyd mae enw lle sy'n cynnwys yr elfen ffos (ffos derfyn o bosibl) a safle ffynnon gysegredig bosibl.

Ychydig o adeiladau nodweddiadol sydd. Mae Neuadd Fawr, Llanwrda, yn dþ rhestredig Gradd II, a adeiladwyd yn yr 17eg ganrif yn ôl pob tebyg a chanddo frest simnai enfawr a newidiadau a wnaed yn ddiweddarach. Mae eglwys Llansadwrn yn eglwys dirnod restredig Gradd B, ond nid oes gan yr un o'r eglwysi dðr. Ceir capeli, ysgolion, tafarndai ac adeiladau Swyddfa Bost yn y ddau bentref, tra bod elusendy a phont yn Llanwrda hefyd. At ei gilydd mae'r ffermdai yn dyddio o'r 19eg ganrif, maent wedi'i hadeiladu o gerrig ac mae ganddynt ddau lawr, ac yn gyffredinol maent yn y traddodiad brodorol. Mae'r tai allan o gerrig sy'n gysylltiedig â'r ffermydd yn adeiladau canolig eu maint. Ceir y gwasgariad arferol o safleoedd bythynnod yn dyddio o'r cyfnod Ôl-Ganoloesol.

Nid yw'n hawdd diffinio'r ardal hon gan fod ardaloedd cymeriad cyfagos yn rhannu llawer o elfennau ei thirwedd hanesyddol. I'r de mae ardal gymeriad dyffryn Tywi yn ffurfio ffin eithaf pendant, ond i'r gorllewin ac i'r dwyrain ceir ardal drawsnewidiol yn hytrach na ffin bendant. Ni ddiffiniwyd yr ardaloedd i'r gogledd eto, ond yn y fan hon nodweddir y dirwedd yn bennaf gan ddosbarthiad mwy dwys o ffermydd bach, caeau bach iawn a choetir.