Cartref > Tirweddau Hanesyddol > Tywi >

212 LLANYMDDYFRI

CYFEIRNOD GRID: SN 767345
ARWYNEBEDD MEWN HECTARAU: 86.14

Cefndir Hanesyddol
Ardal fach sy'n cyfateb i dref adeiledig bresennol Llanymddyfri. Sefydlodd y Rhufeiniaid gaer yn Llanfair-ar-y-bryn (Alabum) yn rhan ogleddol y dref bresennol, yn y 50au OC yn ôl pob tebyg (James 1991, 54). Roedd ffordd yn ei chysylltu â'r ceyrydd yng Nghaerfyrddin (Moridunum) ac yn Aberhonddu (?Cicutio), y dilynir y darn hwn o'r ffordd gan yr A40(T) erbyn hyn, ac â'r ceyrydd yng Nghanolbarth Cymru ym Meulah a Chastell Collen (James 1982, 7), y dilynir y darn hwn gan yr A483(T) erbyn hyn. Mae'n bosibl bod y rhwydwaith hwn o lwybrau wedi parhau i'r cyfnod Ôl-Rufeinig, ac mae'n bosibl bod cymuned eglwysig a sefydlwyd cyn y Goresgyniad ac a oedd yn gysylltiedig ag eglwysi plwyf Canoloesol Santes Fair, Llanfair-ar-y-bryn, a/neu Sant Dingat, Llandingat, wedi'i lleoli yn Llanymddyfri (Sambrook and Page 1995, 4). Nid yw'r un o'r ddwy eglwys hyn wedi'i lleoli yng nghanol y dref sy'n awgrymu eu bod yn rhagflaenu'r Goresgyniad. Ar ben hynny mae eglwys Llanfair wedi'i lleoli o fewn y Gaer Rufeinig, tra bod ffiniau'r caeau a fu wrth ymyl Llandingat gynt o bosibl wedi parhau llinell llan neu glostir mawr (ibid.). Ar ddechrau'r 12fed ganrif, sefydlodd Richard Fitz Pons, arglwydd Eingl-Normanaidd, gastell yn Llanymddyfri (Soulsby 1983, 162). Mae'n debyg bod anheddiad bach wedi datblygu yn fuan ar ôl hynny wrth waelod mwnt y castell, hwyrach o fewn y beili allanol. Cofnodwyd bwrdeisiaid ym 1185 (Arber-Cooke 1975, Cyf. 1, 82), ac ym 1201 mae Annales Cambriae yn cyfeirio at dref. Symbylwyd iddi dyfu o dan nawdd y tywysogion Cymreig yn ystod eu deiliadaeth ysbeidiol - caewyd cell y priordy a sefydlwyd gan Fitz Pons yn Llanfair gan Rhys ap Gruffydd yn yr un flwyddyn y gyrrwyd y brodyr, a oedd wedi bod yn ymyrryd â phobl y dref, ymaith. Trwy gydol y 13eg ganrif ymosodwyd ar y castell yn aml, a newidiodd o law'r Cymry i law'r Saeson ac yn ôl yn rheolaidd. O ganlyniad, mae'n debyg na chafodd y dref fawr o gyfle i ddatblygu nes i gyfnod cymharol sefydlog gael ei hebrwng i mewn yn ystod dau ddegawd olaf y 13eg ganrif. Rhwng 1299 a 1317 cododd nifer y tiroedd bwrdais o 37 yn fras i 81 (Evans 1913, 158). Erbyn diwedd y 14eg ganrif roedd yr arian a geid o renti wedi cynyddu'n sylweddol, sy'n awgrymu bod y boblogaeth wedi tyfu yr un pryd. Bryd hynny cofnodir bod tair ffair flynyddol. Mae cyfeiriadau eraill mewn dogfennau yn dangos bod Llanymddyfri yn gweithredu fel bwrdeistref, er na roddasid unrhyw siarter (Evans 1913, 172). Rhoddodd Richard III siarter ym 1485 (Soulsby 1983, 163). Erbyn hynny ymddengys fod y dref yn mynd trwy gyfnod marwaidd neu gyfnod o ddirywiad, oherwydd pan ymwelodd John Leland â'r dref ym 1535 fe'i disgrifiodd fel tref oedd ag 'un stryd yn unig, sydd wedi'i hadeiladu'n wael gyda thai to gwellt' (Evans 1913, 56). Ar ddechrau'r 17eg ganrif adeiladodd mab enwocaf Llanymddyfri, sef y Ficer Prichard, dþ ar gwr dwyreiniol y dref. Ymddengys na chafodd ei enwogrwydd fawr ddim effaith ar gyfoeth cyffredinol y trigolion, a dechreuodd ei dþ ysblennydd hyd yn oed ddadfeilio. Cofnodwyd bod 76 o diroedd bwrdais ym 1659 (Evans 1913, 80), wedi'u rhannu'n chwe ward, gan gynnwys Ward Felindre ar yr ochr ddwyreiniol i'r dref a gynhwysai 11 o diroedd bwrdais. Fodd bynnag, dim ond 61 o fwrdeisiaid sefydlog a gofnodwyd ym 1661 (Evans 1913, 203). Ymddengys na wellodd y dref fawr ddim trwy gydol y 18fed ganrif, oherwydd pan alwodd Malkin ym 1804 disgrifiodd dref Llanymddyfri fel, 'y waethaf yng Nghymru. Mae ei hadeiladau'n druenus, afreolaidd a heb eu cysylltu; mae ei strydoedd yn fudr ac yn ffiaidd'. Ym 1835 datganwyd bod Llanymddyfri yn 'fwrdeistref bwdr' a redid er budd ystad Glanbrân. Fodd bynnag ymddengys fod amgylchiadau'r dref wedi gwella'n gyffredinol o ddiwedd y ddeunawfed ganrif ymlaen, fel y dengys y nifer fawr o adeiladau godidog sy'n dyddio o'r cyfnod hwn. Rhoddwyd hwb i'r dref pan wnaed ffordd bresennol yr A40(T) yn ffordd dyrpeg ar ddiwedd y 18fed ganrif, pan sefydlwyd y coleg ym 1849, a chan y rheilffordd a ddaeth ym 1858. Mae'r rheilffordd yn dal i weithredu fel rhan o linell 'Canolbarth Cymru'. Yn ddiweddarach yn y 19eg ganrif a thrwy gydol yr 20fed ganrif bu'r dref yn tyfu'n araf ond yn gyson.

Map a atgynhyrchwyd o fap yr OS gyda chaniatad yr Arolwg Ordnans ar ran Rheolwr Llyfrfa Ei Mawrhydi, © Hawlfraint y Goron 2001. Cedwir pob hawl. Byddai ei atgynhyrchu heb ganiatad yn torri Hawlfraint y Goron a gall hynny arwain at erlyniad neu achos sifil. Rhif y drwydded: GD272221

Disgrifiad ac elfennau hanfodol y dirwedd hanesyddol
Ardal gymeriad drefol yw Llanymddyfri. Mae calon yr ardal hon yn cynnwys tref Llanymddyfri a leolir ar deras ar lefel o 65 m rhwng Afon Tywi ac Afon Brân, ond sydd hefyd yn cynnwys eglwys plwyf Llandingat a leolir ryw 300 m i'r de-orllewin, ac eglwys Ganoloesol Llanfair-ar-y-bryn a leolir ar fryncyn o fewn cloddweithiau'r gaer Rufeinig, rhai cannoedd o fetrau i'r gogledd-ddwyrain o'r dref. Mae'r ddwy eglwys hon wedi'u cysylltu â'r dref gan ddatblygiadau yn dyddio o'r 19eg ganrif a'r 20fed ganrif. Mae canol y dref yn cynnwys Ffordd y Brenin, Sgwâr y Farchnad a'r Stryd Fawr. Mae'r adeiladau ar y strydoedd hyn yn dyddio'n bennaf o ddiwedd y 18fed ganrif a'r 19eg ganrif. Mae'r adeiladau trillawr neu weithiau ddeulawr hyn wedi'u hadeiladu o gerrig wedi'u rendro yn y traddodiad Sioraidd, er i nifer o'r adeiladau masnachol gael eu hailadeiladu yn yr 20fed ganrif. Lleolir olion gwaith maen y castell Canoloesol i'r de o ganol y dref ac maent wedi'u gwahanu oddi wrtho gan faes parcio. Mae Stryd y Castell, sy'n rhedeg i lawr tua'r castell o'r gogledd-ddwyrain, yn cynnwys tai a bythynnod o gerrig sy'n dyddio'n bennaf o'r 18fed ganrif a'r 19eg ganrif. Mae datblygiadau preswyl o ganol y 19eg ganrif hyd at ei diwedd wedi'u crynhoi ar hyd Stryd Lydan a phen dwyreiniol y Stryd Fawr ac maent yn cynnwys tai a 'filâu' teras o gerrig wedi'u rendro. Mae tai teras o gerrig, sydd weithiau â gwaith briciau manwl, a adeiladwyd ar ddiwedd y 19eg ganrif, wedi'u canoli i'r gogledd o graidd hanesyddol y dref o amgylch Stryd y Cerrig, Ffordd Newydd a Stryd y Frenhines. Lleolir Coleg Llanymddyfri, a adeiladwyd mewn dull Gothig Tuduraidd nodweddiadol, i'r gogledd o graidd hanesyddol y dref. Mae datblygiadau preswyl a adeiladwyd yn yr 20fed ganrif cyn ac ar ôl yr Ail Ryfel Byd yn gymharol fach o ran eu maint ac at ei gilydd maent yn cynnwys ystad tai bach, a datblygiadau llinellol ar hyd yr A40(T) i'r gogledd ac i'r de o'r orsaf reilffordd, ar hyd yr A40(T) i'r dwyrain a rhwng y dref a Llanfair-ar-y-bryn. Sefydlwyd ystad ddiwydiannol fodern ar gyrion de-orllewinol yr ardal hon.

Mae'r archeoleg a gofnodwyd yn ymwneud â'r gaer Rufeinig ac â'r dref Ganoloesol, a'i adeiladau Ôl-Ganoloesol. Mae'n cynnwys safle cofrestredig y gaer Rufeinig, y ffordd Rufeinig a mynwent Rufeinig debygol, a'r eglwysi Canoloesol, safle'r priordy a'r castell. Hefyd mae mynwent a ddefnyddid gan y Crynwyr sy'n dyddio o'r cyfnod Ôl-Ganoloesol, a chloddwaith anhysbys.

Ceir llawer o adeiladau nodweddiadol. Mae eglwys Santes Fair ac eglwys Sant Dingat yn eglwysi tirnod a chanddynt dyrau Canoloesol; mae eglwys Santes Fair yn Rhestredig Gradd I ac at ei gilydd mae heb ei hadfer. Mae ganddi do sy'n dyddio o ddechrau'r 18fed ganrif (Ludlow 1998) a dodfrefn mynwent rhestredig; mae eglwys Sant Dignat yn Rhestredig Gradd II* a chanddi ddodrefn mynwent rhestredig. Mae olion y castell Canoloesol o waith maen yn gofrestredig ac yn rhestredig Gradd II*. Mae cyfanswm o 65 o adeiladau rhestredig, gan gynnwys Maenor Llanfair a 'Thí'r Ficer Pritchard', y coleg a adeiladwyd yn y 19eg ganrif yn y dull neo-Gothig gan G E Gingell o Fryste, ficerdai, tafarndai, anheddau, capeli, adeilad banc, swyddfa bost, neuadd farchnad, neuadd y dref a phontydd. Nid yw'r farchnad wartheg a'r orsaf reilffordd sy'n dyddio o'r 19eg ganrif yn rhestredig.

Ardal gymeriad drefol gryno ydyw ac mae'n gwrthgyferbynnu ag ardaloedd gwledig cyfagos.