Cartref > Tirweddau Hanesyddol > Tywi >

214 LLWYNHOWELL

CYFEIRNOD GRID: SN 758358
ARWYNEBEDD MEWN HECTARAU: 427.80

Cefndir Hanesyddol
Ardal fach i'r gogledd o dref Llanymddyfri, ar y naill ochr a'r llall i Afon Tywi. Mae pobl wedi bod yn anheddu yn yr ardal hon ers y cyfnodau cynharaf - ym mhen gogleddol yr ardal hon mae bryngaer o'r Oes Haearn, ac mae llinell y ffordd Rufeinig sy'n arwain tua'r gogledd o'r gaer yn Llanymddyfri (Alabum) yn croesi llawr y dyffryn. Erbyn y cyfnod hanesyddol Afon Tywi oedd y ffin rhwng Cantref Bychan i'r dwyrain a Chantref Mawr i'r gorllewin. Goresgynnwyd Cantref Bychan gan yr Eingl-Normaniaid o dan Richard Fitz Pons a sefydlodd caput yn Llanymddyfri ym 1110-16 (Rees d.d.). Yn fuan ar ôl hynny fe'i trosglwyddwyd i arglwyddi Clifford Aberhonddu, fel Arglwyddiaeth Llanymddyfri; parhaodd Cantref Mawr i fod yn arglwyddiaeth Gymreig annibynnol tan 1284. Cadwodd y ddau gantref arferion brodorol o ddeiliadaeth/ddal tir tan ddiwedd y cyfnod Canoloesol pan gawsant eu huno o fewn ffiniau modern Sir Gaerfyrddin ond lleolid Ardal 214 o fewn bwrdeistref Ganoloesol Llanymddyfri (Rees 1932), ac roedd yn ddarostyngedig i ddeiliadaeth Normanaidd, am mai 'tiroedd trefgordd' ydoedd. Ymddengys fod ffin ogleddol y fwrdeistref yno ar ffurf ffisegol fel 'Ffos Krenchy' (ibid.) y mae'n bosibl ei bod yn cael ei chynrychioli bellach gan nant, sef Nant Ogwrn. Mae'r enw 'Dolauhirion' yn awgrymu bod llain-gaeau yno o'r blaen, a all esbonio ffiniau llinellol y caeau sy'n digwydd trwy'r ardal drwyddi draw. Fodd bynnag, yn wahanol i Ardal 213 nid oes unrhyw dystiolaeth ffisegol bod y dull amaethu cefnen a rhych wedi'i ddefnyddio yn yr ardal hon. Mae'n bosibl bod i'r patrwm presennol o glostiroedd eithaf rheolaidd, mawr gael ei greu yn y 17eg ganrif neu ar ddechrau'r 18fed ganrif, gan gymryd lle systemau maes agored blaenorol. Yng ngorlifdir Afon Tywi ei hun ceir clostiroedd mwy rheolaidd, mwy o faint a all ddyddio o ddiwedd y 18fed ganrif. Mae'n bosibl bod y gwaith blaenorol i amgáu'r tir yn gysylltiedig â'r plastai, yn arbennig Llwynhowell a Henllys sy'n dyddio o'r cyfnod cyn yr 16eg ganrif (Jones 1987, 94, 118-9), Manorafon y mae ei ystad wedi'i ddogfennu o 1749 (Judith Alfrey, sylw pers.) a Thonn, a grybwyllwyd ym 1759 ond a losgodd i lawr ym 1916 (Jones 1987, 181). Croesir Afon Tywi yn Nolauhirion dros bont sy'n perthyn i'r cyfnod Canoloesol ac ar draws rhyd Ganoloesol yn Llwynhowell, tra bod y bont sy'n cario'r A40(T) i Lanymddyfri wedi cymryd lle pont grog o'r 19eg ganrif a oedd ei hun wedi cymryd lle fferi. Croesir rhan ddeheuol yr ardal gan y rheilffordd o Lanymddyfri i Lanwrtyd, a sefydlasid erbyn 1871 fel rhan o Linell Canolbarth Cymru a Chyffordd Caerfyrddin Rheilffordd Llundain a'r Gogledd-orllewin (LNWR). Mae'n dal i weithredu ac mae'n rhan o linell 'Calon Cymru'.

Map a atgynhyrchwyd o fap yr OS gyda chaniatad yr Arolwg Ordnans ar ran Rheolwr Llyfrfa Ei Mawrhydi, © Hawlfraint y Goron 2001. Cedwir pob hawl. Byddai ei atgynhyrchu heb ganiatad yn torri Hawlfraint y Goron a gall hynny arwain at erlyniad neu achos sifil. Rhif y drwydded: GD272221

Disgrifiad ac elfennau hanfodol y dirwedd hanesyddol
Mae ardal gymeriad Llwynhowell yn ymestyn ar draws llawr Afon Tywi yn union i fyny'r nant o Lanymddyfri, ac mae'n cynnwys ochr orllewinol sy'n graddol ddisgyn a llethrau isaf ochr ddwyreiniol y dyffryn. Saif gorlifdir cul Afon Tywi ar lefel o 70 m fwy neu lai, ac mae ochr orllewinol y dyffryn yn codi i dros 120 m. Yn ei hanfod tirwedd o gaeau afreolaidd bach - i - ganolig eu maint, ffermydd mawr a choetir gwasgaredig ydyw. Defnyddir y tir at ddibenion amaethyddol fel porfa wedi'i gwella; nid oes fawr ddim tir garw. Gwrthgloddiau â gwrychoedd ar eu pennau sy'n ffurfio ffiniau'r caeau. At ei gilydd mae'r gwrychoedd mewn cyflwr da ar lefelau is, ond ar lefelau uwch y duedd yw bod y gwrychoedd wedi tyfu'n wyllt a'u bod wedi'u hesgeuluso. Yn ogystal â'r gwrychoedd ceir ffensys gwifrau. Mae rhai gwrychoedd yn cynnwys coed nodweddiadol, ac mae'r rhain ynghyd â chlystyrau bach o goetir collddail - ar lethrau mwy serth y dyffryn yn bennaf - yn rhoi golwg braidd yn goediog i'r dirwedd. Ceir ardaloedd lle y ceid parciau gynt ond ni chafodd y rhain ddylanwad mawr ar olwg y dirwedd. Mae'r ffermydd wedi'u dosbarthu ar hyd ochrau isaf y dyffryn ar y naill ochr a'r llall i Afon Tywi. At ei gilydd mae'r ffermydd yn sylweddol. Mae'r ffermdai yn dyddio o'r 18fed ganrif neu'r 19eg ganrif yn bennaf; adeiladau o gerrig ydynt ac iddynt doeau llechi. Maent yn dueddol o fod yn y dull boneddigaidd, a chanddynt dai allan lled-ffurfiol, o gerrig, er bod y mwyafrif hefyd yn gysylltiedig ag adeiladau amaethyddol modern. Yn ogystal â'r ffermydd ceir llawer o adeiladau gwasgaredig ar draws yr ardal, ond wedi'u canoli ar hyd ffyrdd yn agos at Lanymddyfri. Mae'r rhain yn perthyn i ddau gyfnod yn bennaf: 'filâu' o ddiwedd y 19eg ganrif, a thai a byngalos o ddiwedd yr 20fed ganrif mewn amrywiaeth o ddulliau a deunyddiau. Mae'r rhan hon o ddyffryn Tywi uchaf yn goridor llwybr, ac mae ffordd B yn dilyn llinell gyffredinol y ffordd Rufeinig ar ochr ddwyreiniol yr afon.

Mae'r archeoleg a gofnodwyd yn gyfyngedig i'r ffordd Rufeinig a darganfyddiadau Rhufeinig i'r de, yn agos at y gaer yn Llanfair-ar-y-bryn, ac at safle Plasty Tonn.

Mae nifer o adeiladau nodweddiadol. Adeiladwyd pont Dolauhirion sy'n rhestredig Gradd I gan William Edwards ym 1773, a hynny ar safle pont Ganoloesol. Mae Manorafon sydd ag adeiladau fferm model o 1800 fwy neu lai (Judith Alfrey, sylw pers.), yn enghraifft gynnar bwysig o gynllunio fferm, ac mae Henllys yn dþ deulawr rhestredig Gradd II* sy'n gysylltiedig â 6 thþ allan Gradd II. Hefyd ceir plastai sydd wedi'u hailadeiladu yn Llwynhowell a Thonn, ac mae gan yr ail - fel Henllys - ardal lle y ceid parcdir gynt o bosibl. Yn gyffredinol mae'r ffermydd wedi'u hadeiladu â rhywfaint o ystyriaeth bensaernïol, yn hytrach nag yn y traddodiad brodorol. Ceir rhai ffermdai o friciau a rhai o friciau a cherrig sy'n dyddio o ddiwedd y 19eg ganrif. Mae'r tai allan o gerrig yr un mor sylweddol ac mewn rhai achosion maent wedi'u trefnu'n lled-ffurfiol o amgylch y tþ.

Ardal anodd iawn ei diffinio ydyw am fod ardaloedd cyfagos, ar wahân i'w hochr ddeheuol yn erbyn ardal drefol Llanymddyfri, yn cynnwys elfennau tirwedd hanesyddol tebyg. Yn yr achosion hyn ceir ardal gyfnewid, yn hytrach na ffin bendant.