Cartref > Tirweddau Hanesyddol > Tywi >

215 CILYCWM

CYFEIRNOD GRID: SN 757401
ARWYNEBEDD MEWN HECTARAU: 847.10

Cefndir Hanesyddol
Ardal a leolir ar y naill ochr a'r llall i Afon Tywi, o amgylch pentref presennol Cilycwm. Ar un adeg fe'i lleolid o fewn Cwmwd Malláen yng Nghantref Mawr a arhosodd yn arglwyddiaeth Gymreig annibynnol tan 1284, ac a gadwodd i raddau helaeth systemau deiliadaeth brodorol trwy gydol y cyfnod Canoloesol. Honnir i'r anheddiad cnewyllol o amgylch eglwys plwyf Cilycwm gael ei sefydlu'n gynnar (Sambrook and Page 1995, 17) ond hepgorir yr eglwys o'r Taxatio o 1291 ac nis crybwyllir tan 1347 (Ludlow 1998). Goroesodd llain y pentref tan y 19eg ganrif fel parsel agored o dir gyferbyn â'r eglwys (Sambrook and Page 1995, 23). Daeth Cilycwm yn ganolbwynt i weithgarwch y pyrthmyn yn y 18fed ganrif ac yn ddiau elwodd o ganlyniad i sefydlu mwynglawdd plwm bach ym Mhen-y-rhiw-Rhaeadr i'r gogledd o'r ardal gymeriad. Roedd wedi datblygu'n bentref pwysig erbyn dechrau'r 19eg ganrif, ond cynhwysai dai to cyrs 'anniben' ac iddynt waliau o laid, y cymerwyd eu lle trwy'r ganrif gan y strwythurau presennol o gerrig gan gynnwys rhesi taclus o fythynnod teras. Erbyn diwedd y ganrif roedd ganddo lawer o amwynderau dinesig - ysgol, capel, Swyddfa Bost a ficerdy (Sambrook and Page 1995, 23). Mae'n bosibl bod y patrwm presennol o glostiroedd eithaf rheolaidd, mawr o fewn yr ardal hon wedi'i greu yn yr 17eg ganrif neu ar ddechrau'r 18fed ganrif, a'u bod yn gysylltiedig â'r plastai, y mae nifer ohonynt yn yr ardal, er nad yw'r un ohonynt yn gynharach na'r 17eg ganrif. Yr un amlycaf yn eu plith yw ystad Neuadd Fawr a lyncodd, o dan y teulu Davys o ddechrau'r 19eg ganrif ymlaen, lawer o'r daliadau yn Ardal 215 (Judith Alfrey, sylw pers.). Crybwyllwyd Neuadd Fawr yn gyntaf ym 1603 (Jones 1987, 138) ond dadfeiliodd yn ystod ail hanner yr 20fed ganrif. Abergwenlais oedd cartref y teulu Price o 1680 tan ddiwedd y 19eg ganrif pan ailadeiladwyd ef ar gyfer ystad Neuadd Fawr (Jones 1987, 28), tra bod Erryd wedi'i nodi ar fap Emmanuel Bowen yn dyddio o 1729. Mae datblygiadau yn ystod yr 20fed ganrif wedi'u cyfyngu i dai ym mhentref Cilycwm a gwaith trin carthion bach i'r de.

Map a atgynhyrchwyd o fap yr OS gyda chaniatad yr Arolwg Ordnans ar ran Rheolwr Llyfrfa Ei Mawrhydi, © Hawlfraint y Goron 2001. Cedwir pob hawl. Byddai ei atgynhyrchu heb ganiatad yn torri Hawlfraint y Goron a gall hynny arwain at erlyniad neu achos sifil. Rhif y drwydded: GD272221

Disgrifiad ac elfennau hanfodol y dirwedd hanesyddol
Mae ardal gymeriad Cilycwm yn ymestyn ar draws rhan uchaf dyffryn Tywi ac ar draws dyffryn eang y mae isafon yn llifo trwyddo. Mae dyffryn Tywi yn yr ardal hon yn ymagor o'i gwrs mwy cyfyng i lawr yr afon, cyn culhau eto i fyny'r afon, i'r gogledd. Mae llawr y dyffryn ar lefel o 100 m fwy neu lai, ac mae llethrau isaf y dyffryn o fewn yr ardal hon yn codi i uchafswm o tua 180 m. Yn y bôn nodweddir yr ardal hon gan ffermydd gwasgaredig, caeau afreolaidd bach a choetir. Mae'r ardal gyfan wedi'i hamgáu gan gaeau. Mae'r caeau ar lethrau'r dyffryn yn fach ac yn afreolaidd, mae'r rhai ar lawr y dyffryn yn fwy o faint ac mae iddynt siâp mwy rheolaidd. Porfa wedi'i gwella a geir yn yr ardal hon yn bennaf, ond, yn arbennig ar lawr y dyffryn lle y mae cwrs yr afon yn araf, ceir pocedi mawr o dir brwynog, gwlyb a garw. Ceir rhywfaint o dir âr. Cloddiau â gwrychoedd ar eu pennau sy'n ffurfio ffiniau'r caeau. Ac eithrio ar hyd ffyrdd a lonydd, nid yw'r gwrychoedd hyn mewn cyflwr da; mae rhai ohonynt wedi mynd yn gyfan gwbl, nid yw rhai eraill ond yn llinellau o lwyni gwasgarog, ac mae'r mwyafrif wedi tyfu'n wyllt. Ffensys gwifrau a ddefnyddir yn bennaf i atal anifeiliaid rhag crwydro. Ceir coed gwrych nodweddiadol yn llawer o'r gwrychoedd, ac mae'r coed hyn ynghyd â'r nifer fawr o glystyrau bach o goetir collddail yn rhoi golwg goediog i rannau o'r ardal gymeriad hon. Ceir parcdir yn agos at Dþ Glanrhosan. Lleolir pentref cnewyllol Cilycwm yng nghanol yr ardal. Yn ei hanfod mae Cilycwm yn cynnwys un stryd o anheddau, gyda'r eglwys Ganoloesol yn ei ganol. Lleolir terasau o dai a bythynnod o gerrig o'r 18fed ganrif a'r 19eg ganrif yng nghanol y pentref; mae'r tai mwy o faint yn y dull Sioraidd, ac mae'r tai a'r bythynnod llai o faint yn y traddodiad brodorol. Ceir tai ar raddfa fach yn perthyn i'r 20fed ganrif ar gyrion yr anheddiad. Fodd bynnag nodweddir patrwm anheddu'r ardal yn bennaf gan ffermydd gwasgaredig. Er bod yr adeiladau ar y ffermydd hyn yn dyddio yn bennaf o ddiwedd y 18fed ganrif a'r 19eg ganrif, cynrychiolir ystod eang o ddosbarthiadau cymdeithasol ac economaidd, o dai'r is-foneddigion sy'n cynnwys fferm y plas, i ffermdai llai o faint yn y traddodiad brodorol a chanddynt un rhes fach o dai allan. Mae'r mwyafrif o'r ffermdai, fodd bynnag, yn adeiladau deulawr sydd wedi'u hadeiladu o gerrig. Er y ceir enghreifftiau o'r ffermdy syml â thri bae yn y traddodiad brodorol, mae'r mwyafrif yn adeiladau mwy o faint sy'n arddangos ystyriaeth bensaernïol foneddigaidd. Mae gan y ffermdai mwy o faint hyn ystod fwy ac ehangach o dai allan o gerrig o'r 19eg ganrif yn gysylltiedig â hwy na'r enghreifftiau llai o faint, sydd yn aml wedi'u trefnu mewn patrwm lled-ffurfiol o amgylch iard. Mae gan y mwyafrif o'r ffermydd adeiladau amaethyddol modern mawr.

At ei gilydd cynrychiolir yr archeoleg a gofnodwyd gan yr adeiladau ond mae'n cynnwys man darganfod anhysbys, a'r mwyngloddiau plwm.

Ceir nifer fawr o adeiladau nodweddiadol; mae llawer o'r rhain yn blastai, ac mae tua 35 ohonynt yn rhestredig. Mae eglwys y plwyf sy'n dirnod yn perthyn i'r cyfnod Canoloesol, ac mae'n rhestredig Gradd I. Mae Neuadd Fawr, ei gerbyty a'i stablau i gyd yn rhestredig Gradd II, ac yn gysylltiedig â hwy mae fferm y plas. Mae tþ, fferm, melin a thai allan Abergwenlais, sy'n dyddio o ddiwedd y 18fed ganrif ond a ailadeiladwyd ar gyfer ystad Neuadd Fawr ar ddiwedd y 19eg ganrif, yn rhestredig Gradd II. Mae tþ, ysgubor a thai allan Cefntrenfa yn perthyn i'r 18fed ganrif ac maent yn rhestredig Gradd II - cyfeiriwyd at erddi mawr a choed ffrwythau, stabl a cholomendy ym 1812 (Jones 1987, 28). Mae Erryd yn perthyn i ganol y 18fed ganrif ac mae'n rhestredig Gradd II*. Mae'r mwyafrif o weddill yr adeiladau rhestredig ym mhentref Cilycwm ac maent yn cynnwys y ficerdy, melin, swyddfa'r post, ysgol, capeli ac anheddau.

Er bod hon yn ardal gymeriad eithaf nodweddiadol, yn hanesyddol ac yn ddaearyddol, mae rhai ardaloedd cyfagos yn cynnwys elfennau tirwedd hanesyddol tebyg - yn yr achosion hyn, i'r dwyrain, i'r de ac i'r de-orllewin ceir ardal gyfnewid yn hytrach na ffin bendant. I'r gogledd mae coedwigoedd ar lethrau serth y dyffryn yn ffurfio ffin bendant. Ni ddiffiniwyd yr ardaloedd cymeriad i'r gorllewin eto.