Cartref > Tirweddau Hanesyddol > Tywi >

218 NANT-Y-FFIN

CYFEIRNOD GRID: SN 728468
ARWYNEBEDD MEWN HECTARAU: 482.60

Cefndir Hanesyddol
Ardal fach sy'n uno tair llain linellol gul o dir sy'n dilyn lloriau dyffryn Tywi Uchaf, dyffryn Doethie a dyffryn Gwenffrwd, yn nhroedfryniau Mynydd Malláen ac Uwchdiroedd Cymru. Mae'r elfen 'ffin' yn yr enw yn cyfeirio at y ffin hynafol a rannai, yn hanesyddol, yr ardal hon rhwng Cantref Bychan i'r dwyrain a Chantref Mawr i'r gorllewin. Goresgynnwyd Cantref Mawr gan yr Eingl-Normaniaid o dan Richard Fitz Pons a sefydlodd caput yn Llanymddyfri ym 1110-16 (Rees d.d.) ac yn fuan ar ôl hynny fe'i trosglwyddwyd i arglwyddi Clifford Aberhonddu fel Arglwyddiaeth Llanymddyfri. Arhosodd Cantref Mawr yn arglwyddiaeth Gymreig annibynnol tan 1284. Cadwodd y ddau gantref arferion deiliadol brodorol tan ddiwedd y cyfnod Canoloesol pan gawsant eu huno o fewn ffiniau modern Sir Gaerfyrddin. Ceir tystiolaeth gynnar iawn o weithgarwch dynol o fewn yr ardal hon - lleolir beddrod siambr Neolithig yn Gelli. Mae'r capel yn Ystrad-ffin wedi'i gysegru i Paulinus, athro honedig Dewi Sant (Jones 1994, 88) y disgrifiodd ei gofiannydd ei gymuned fel un a gynhwysai, erbyn y 9fed ganrif, 'nifer fawr o adeiladau' (Sambrook and Page 1995, 4). Fodd bynnag mae'n bosibl nad yw hyn yn cyfeirio at safle presennol y capel y soniwyd amdano yn gyntaf ym 1339 pan gadarnhawyd ei fod yn perthyn i'r Sistersiaid yn Ystrad Fflur (Ludlow 1998). Ceir enw lle yn cynnwys yr elfen llys yn rhan orllewinol yr ardal, tra lleolid llawer o'r ardal i'r dwyrain o Afon Tywi o fewn Maenor Nant-y-bai, a roddwyd, fel maenor i Abaty Ystrad Fflur, yn ôl pob tebyg gan Gruffydd ap Rhys tua 1200. Mae'n rhaid bod cnewyllyn y faenor wedi'i leoli ym Mron-y-Cwrt (Ardal 216), neu o fewn yr ardal hon lle y mae bloc sylweddol o dir sy'n rhydd o'r degwm (Williams 1990, 58); fodd bynnag mae'n bosibl bod fferm bresennol Ystrad-ffin wedi'i sefydlu'n gynnar. Fel maenor ucheldirol mae'n debyg y câi Nant-y-bai ei rhedeg gan ffermwyr-denantiaid yr ymwnâi eu gwaith yn bennaf â phori anifeiliaid ar borfeydd mynydd, er bod arwyddion y câi pocedi o dir âr lle'r oedd y pridd yn dda eu ffermio (Sambrook and Page 1995, 18), tra ei bod yn debyg bod y patrwm o glostiroedd ar lawr ffrwythlon y dyffryn yn ei le erbyn diwedd y cyfnod Canoloesol - dechrau'r cyfnod Ôl-Ganoloesol. Arhosodd Maenor Nant-y-bai yn un uned ar ôl y Diddymiad, fel ystad Ystrad-ffin, a oedd wedi'i chanoli ar y fferm a ddygai'r un enw (Archifdy Sir Gaerfyrddin, Hawlysgrifau Lort 17/678). Roedd y fferm yn gysylltiedig â Twm Siôn Catti, cymeriad pictiwrésg a chrwydrol yn yr 17eg ganrif y dywedir iddo briodi gwraig weddw a oedd yn byw yma; yn ddiweddarach fe'i gwnaed yn Faer Aberhonddu ac yn Siryf ar y sir. Lleolir magl bysgod faenorol gerllaw'r capel. Ar un adeg cloddiwyd am blwm yn yr ardal hon ac mae'n bosibl i hyn ddechrau o dan y Sistersiaid (Williams 1990, 58), neu hyd yn oed y Rhufeiniaid (James 1982, 34). Roedd pobl eisoes yn cloddio am blwm erbyn diwedd y 13eg ganrif, gyda'r goron yn cymryd yr 'unfed droedfedd ar ddeg' o'r mwyn fel treth (Rees 1968), ond roedd wedi dod i ben i bob pwrpas erbyn diwedd y 19eg ganrif. Ni fu fawr ddim datblygiad ar ôl hynny.

Map a atgynhyrchwyd o fap yr OS gyda chaniatad yr Arolwg Ordnans ar ran Rheolwr Llyfrfa Ei Mawrhydi, © Hawlfraint y Goron 2001. Cedwir pob hawl. Byddai ei atgynhyrchu heb ganiatad yn torri Hawlfraint y Goron a gall hynny arwain at erlyniad neu achos sifil. Rhif y drwydded: GD272221

Disgrifiad ac elfennau hanfodol y dirwedd hanesyddol
Mae'r ardal hon yn cynnwys dyffryn Tywi, dyffryn Doethie a dyffryn Gwenffrwd, a'u hisafonydd. Mae'r dyffrynnoedd hyn yn gul ac wedi'u haendorri'n ddwfn. Dim ond lloriau'r dyffrynnoedd a'r llethrau isaf a gynhwysir yn yr ardal hon ac mae'r llethrau uwch wedi'u dosbarthu i ardaloedd cyfagos. Mae lloriau'r dyffrynnoedd rhwng 120 m lle y maent ar eu hisaf a thros 200 m tua tharddleoedd yr afonydd. O fewn yr ardal hon mae llethrau'r dyffrynnoedd yn codi i dros 260 m, ac maent yn parhau i godi i dros 450 m y tu allan iddi. Mae'r llethrau serth wedi'u cuddio â choetir collddail trwchus. Mae'r prif elfennau hanesyddol yn cynnwys ffermydd gwasgaredig a chaeau afreolaidd bach. Porfa wedi'i gwella a geir yn bennaf, er bod rhai pocedi o dir mwy garw. At ei gilydd amgaeir y caeau gan gloddiau â gwrychoedd ar eu pennau; nodwyd rhai cloddiau caregog a waliau sych sydd wedi dymchwel hefyd. At ei gilydd nid yw'r gwrychoedd mewn cyflwr da ac mae llawer ohonynt wedi tyfu'n wyllt neu wedi'u hesgeuluso. Ar wahân i fferm fawr Ystrad-ffin a leolir ar ymyl gorlifdir llydan Nant-y-ffin, mae'r ffermydd yn gymharol fach ac maent wedi'u lleoli ar lethrau'r dyffrynnoedd. Mae'r mwyafrif o'r ffermydd yn dyddio o'r 19eg ganrif; adeiladau deulawr o gerrig ydynt a chanddynt doeau llechi. Mae gan y mwyafrif dri bae. Mae nifer gyfartal fwy neu lai o ffermydd yn y traddodiad brodorol a ffermydd yn y dull Sioraidd boneddigaidd. Mae'r tai allan wedi'u hadeiladu o gerrig, ac yn gyffredinol maent yn eithaf bach ac yn gyfyngedig o ran eu hadeiladwaith. Mae rhai wedi'u cywasgu'n un rhes. Mae gan lawer o'r ffermydd adeiladau amaethyddol modern. Nid oes fawr ddim datblygiadau tai modern yn yr ardal hon.

Mae'r archeoleg a gofnodwyd yn yr ardal yn gyfoethog ac yn amrywiol. Mae beddrod siambr Neolithig yn gysylltiedig â darganfyddiadau a chlostir. Mae maen hir yn perthyn i'r Oes Efydd a thomen hel cerrig neu grug crwn posibl a bryngaer bosibl o'r Oes Haearn. Mae safleoedd Canoloesol yn cynnwys y capel, croes bosibl a safle llys bosibl. Cynrychiolir safleoedd eraill gan dirffurfiau. Mae rhai adeiladau nodweddiadol. Ailadeiladwyd Sant Paulinus, Ystrad-ffin, ym 1821 (Ludlow 1998) ac nid yw'n rhestredig.

Mae ffermdy Ystrad-ffin yn rhestredig Gradd II a dywedir iddo gael ei sefydlu yn yr 17eg ganrif neu'n gynharach, er bod y strwythur presennol ar y tu allan yn adeilad plaen ac iddo olwg adeilad yn perthyn i'r 18fed ganrif neu'r 19eg ganrif. Mae adeiladau eraill yn cynnwys dau gapel anghydffurfiol, melinau, ac anheddau a ffermydd o'r 18fed ganrif a'r 19eg ganrif.

Yn nodweddiadol, mae'r ardal hon yn un hynod iawn ac iddi ffiniau pendant - o bobtu i'r ardal ceir rhostir agored neu goedwigoedd. Dim ond i'r de y ceir rhyw anhawster i ddiffinio'r ardal.