Cartref > Tirweddau Hanesyddol > Tywi >

219 CRAIG DDU

CYFEIRNOD GRID: SN 752471
ARWYNEBEDD MEWN HECTARAU: 695.70

Cefndir Hanesyddol
Ardal fach yn nhroedfryniau Mynyddoedd Cambria, a leolir o fewn cyn-Gwmwd Mallen yng Nghantref Mawr a arhosodd yn arglwyddiaeth Gymreig annibynnol tan 1284 ac a gadwodd i raddau helaeth systemau deiliadaeth brodorol trwy'r cyfnod canoloesol; fe'i lleolir hefyd o fewn plwyf eglwysig Cilycwm. Mae'n bosibl ei bod yn rhan o faenor Nant-y-bai/Plasty Ystrad-ffin, perchenogaeth y mae'n bosibl bod yr enw Allt Maesymeddygon ar lethrau dwyreiniol yr ardal yn tarddu ohoni. Fel maenor ucheldirol, mae'n debyg y ci Nant-y-bai ei rhedeg gan ffermwyr-denantiaid yr ymwni eu gwaith yn bennaf phori anifeiliaid ar borfeydd mynydd, ac ymddengys ei fod yn dir agored ar y cyfan yn ystod y cyfnod hanesyddol, fel y mae heddiw, ac fe'i dangosir fel porfa agored ar y mapiau hanesyddol cynharaf. Mae tystiolaeth ffisegol o glostiroedd blaenorol yn bodoli, fodd bynnag, a cheir systemau caeau creiriol o'r Oes Efydd a'r cyfnod l-Ganoloesol cynnar. Mewn cysylltiad 'r cyfnod l-Ganoloesol cynnar ceir y cwt/t hir sy'n nodweddiadol o aneddiadau yn ucheldiroedd de-orllewin Cymru yn ystod y cyfnod trawsnewidiol hwn (Sambrook and Ramsey, 1999). Nid oes unrhyw aneddiadau diweddar yn yr ardal, ond mae'r argae ar gyfer cronfa ddr Llyn Brianne, a adeiladwyd ar gwr gogleddol yr ardal yn ystod y 1960au, wedi cael effaith fawr ar y dirwedd.

Map a atgynhyrchwyd o fap yr OS gyda chaniatad yr Arolwg Ordnans ar ran Rheolwr Llyfrfa Ei Mawrhydi, Hawlfraint y Goron 2001. Cedwir pob hawl. Byddai ei atgynhyrchu heb ganiatad yn torri Hawlfraint y Goron a gall hynny arwain at erlyniad neu achos sifil. Rhif y drwydded: GD272221

Disgrifiad ac elfennau hanfodol y dirwedd hanesyddol
Mae ardal gymeriad Craig Ddu yn cynnwys rhostir agored. Fe'i lleolir rhwng dyffryn Tywi uchaf a dyffryn Gwenffrwd uchaf. Mae llethrau creigiog serth y ddwy afon hyn yn ffurfio ffiniau dwyreiniol a deheuol yr ardal hon. Mae llethrau'r dyffrynnoedd yn codi o 130 m fwy neu lai i dros 350 m. Mae gweddill yr ardal yn cynnwys llwyfandir tonnog rhwng 350 m a 420 m. Ar wahn i goetir collddail hynafol ar rai o lethrau'r dyffrynnoedd, a ffensys gwifrau achlysurol, mae'r ardal gyfan yn un o rostir agored cwbl arw dyddodion mawn mewn pantiau uchel.

Mae'r archeoleg a gofnodwyd yn ymestyn yn l i'r cyfnodau cynharaf, a cheir maen hir o'r Oes Efydd, system gaeau gynhanesyddol bosibl, a chwt/t hir a system gaeau o'r cyfnod l-Ganoloesol cynnar.

I bob pwrpas nid oes unrhyw adeiladau sy'n sefyll ac nid yw'r un ohonynt yn nodweddiadol; fodd bynnag, mae argae Llyn Brianne sy'n dyddio o ddiwedd yr 20fed ganrif yn haeddu sylw.

Mae'r tir ffermio yng ngwaelod y dyffrynnoedd a'r blanhigfa goniffer i'r gogledd yn gosod ffiniau pendant i'r ardal hon.

 

 

 

 

 

 

 

[cliciwch am rhestr y pynciau os nad yw'n bresennol]