|
225 BETHLEHEM
CYFEIRNOD GRID: SN 690251
ARWYNEBEDD MEWN HECTARAU: 1737.00
Cefndir Hanesyddol
Ardal gymeriad fawr iawn ar ochr dde-ddwyreiniol dyffryn Tywi rhwng Llandeilo
a Llangadog, sy'n cynnwys dyffryn Sawdde isaf. Yn ystod y cyfnod hanesyddol
lleolid yr ardal hon o fewn Cwmwd Perfedd yng Nghantref Bychan, a oresgynnwyd
gan yr Eingl-Normaniaid wrth iddynt ymledu o'r dwyrain o dan Richard Fitz
Pons a sefydlodd caput yn Llanymddyfri ym 1110-16 (Rees d.d.). Yn fuan
ar ôl hynny fe'i trosglwyddwyd i arglwyddi Cliffordd Aberhonddu fel Arglwyddiaeth
Llanymddyfri. Fodd bynnag, bu llawer o gyfnodau pan oedd yr ardal dan
reolaeth y Cymry a chadwodd yr ardal arferion deiliadol brodorol tan ddiwedd
y cyfnod Canoloesol pan gafodd ei hymgorffori o fewn ffiniau modern Sir
Gaerfyrddin. Roedd y rhan ddwyreiniol o'r ardal gymeriad hon yn rhan o
patria Llangadog a gaffaelwyd gan Esgobion Tyddewi erbyn diwedd y 13eg
ganrif (Rees 1932). Mae'n bosibl bod yr ardal hon yn ganolbwynt i aneddiadau
dynol ac iddynt statws a/neu gysylltiadiadau defodol o gyfnod cynnar.
Lleolir beddrod siambr Neolithig a maen hir o'r Oes Efydd yng nghanol
yr ardal hon. Mae bryngaer fawr Carn Goch, Ardal 222, sy'n dyddio o'r
Oes Haearn, yn ymwthio i Ardal 225, ac mae'n dra amlwg yno, ac mae'n debyg
mai dyma oedd canolbwynt tiriogaeth fawr a gynhwysai'r rhan fwyaf o'r
ardal i'r de o Afon Tywi. Mae tystiolaeth bod pobl yn byw ar y safle hwn
yn gynnar iawn, i mewn i'r cyfnod Neolithig o bosibl, ac mae'n bosibl
bod yr arwyddocâd a roddai i'r ardal wedi parhau ar ôl iddo gael ei adael
o ran reolaeth y Rhufeiniaid - lleolir Llys Brychan, sef y safle mwyaf
credadwy ar gyfer fila yn ne-orllewin Cymru o fewn Ardal 225 dim ond 1.6km
i'r gogledd-ddwyrain o'r gaer (Jarrett 1962). Mae ei enw'n awgrymu i Lys
Brychan gael ei ailfeddiannu yn ystod y cyfnod Canoloesol fel canolfan
weinyddol neu lys, a bod ganddo gysylltiadau - tybiedig neu fel arall
- â Brychan, un o'r cymeriadau pennaf yn y traddodiad Canoloesol cynnar.
Mae annedd yn dal i sefyll yno o hyd. Erbyn y cyfnod yn dilyn y Goresgyniad,
fodd bynnag, gweinyddid y rhan fwyaf o'r ardal hon i'r gorllewin o afon
Sawdde o fewn Cwmwd Perfedd fel Maenor Fabon, o ganolbwynt, sef Llys Hendy,
a gynrychiolir gan y tþ Ôl-Ganoloesol ym Manorafon/Maenor Crymlyn (Rees
1932) sydd wedi'i gofnodi ers y 18fed ganrif (Jones 1987, 130). Dangosir
statws parhaol yr ardal hon gan bwysigrwydd ymddangosiadol tref gyfagos
Llandeilo (Ardal 206) yn ystod y cyfnod Canoloesol, lle y ceid capel anwes
i blwyf Llangadog yng Nghapel Tydist, safle tþ ers dechrau'r 19eg ganrif
o leiaf (Jones 1987, 21), a safle posibl capel arall. Ceir nifer fawr
o blastai yn yr ardal, a chaffaelwyd llawer ohonynt gan ystad Dynefor
gan gynnwys Mandinam. Sefydlwyd Mandinam erbyn y 17eg ganrif a dywedir
mai dyma oedd cartref Jeremy Taylor yn dilyn ei gyfnod fel caplan i Iarll
Carbery yn Gelli Aur (Jones 1987, 7), a Thygwyn sef cartref teulu'r Vaughan
o Derwydd tua 1650 a chanddo ddemên a gynhwysai 214 o erwau ym 1879 (Jones
1987, 190). Sefydlwyd Llwynymendy o fewn yr 17eg ganrif fan bellaf (Jones
1987, 121) yn ogystal â Phentre Parr a Beili-Dyffryn (Jones 1987, 7, 153),
a ddaeth yn rhan o ystad Dirleton yn ddiweddarach. Serch hynny mae'n bosibl
bod y patrwm presennol o glostiroedd, a oedd yn ei le erbyn dechrau'r
19eg ganrif (mapiau degwm Llandeilo Fawr a Llangadog), wedi'i sefydlu
erbyn y cyfnod Canoloesol - maent yn afreolaidd iawn gyda llawer o glystyrau
o goetir collddail hynafol. Mae dyffryn llethrog Afon Sawdde yn llinell
gyfathrebu naturiol ac roedd yr A4069 yn llwybr porthmona Ôl-Ganoloesol
pwysig, a drowyd yn ffordd dyrpeg o 1799 ymlaen (Lewis 1971, 43). Mae
Bethlehem yn enghraifft o ddatblygiad gwledig nodweddiadol yn ystod y
19eg ganrif. Anheddiad cnewyllol ydyw a leolir o amgylch capel Bethlehem
ar y ffordd bresennol o Landeilo i Langadog - sydd hefyd yn ffordd dyrpeg
- ac a ddangosir fel clwstwr o fythynnod ym 1839. Ychwanegwyd swyddfa
bost ac ysgol ato yn ddiweddarach yn y 19eg ganrif (Sambrook and Page
1995, 40). Ychwanegwyd ystad dai yn ystod yr 20fed ganrif ond at ei gilydd
ni fu fawr ddim datblygiad diweddar.
Map a atgynhyrchwyd o fap yr OS gyda chaniatad yr Arolwg
Ordnans ar ran Rheolwr Llyfrfa Ei Mawrhydi, © Hawlfraint y Goron 2001.
Cedwir pob hawl. Byddai ei atgynhyrchu heb ganiatad yn torri Hawlfraint
y Goron a gall hynny arwain at erlyniad neu achos sifil. Rhif y drwydded:
GD272221
Disgrifiad ac elfennau hanfodol y dirwedd hanesyddol
Mae Bethlehem yn ardal gymeriad fawr iawn. Mae'n ymestyn ar hyd ochr
ddeheuol dyffryn Tywi o bwynt ychydig i'r de-ddwyrain o Landeilo i fyny'r
afon heibio i Langadog ac ar draws dyffryn Sawdde. Mae'n codi mewn cyfres
o fryniau isel, llyfngrwn o 30 m ar orlifdir Afon Tywi i dros 130 m ar
ochrau de-ddwyreiniol yr ardal. Mae llawer o ddyffrynnoedd llethrog bach
yn dyrannu'r dirwedd. Yn ei hanfod tirwedd o ffermydd gwasgaredig, caeau
pori bach a choedwigoedd bach ydyw. Cloddiau â gwrychoedd ar eu pennau
sy'n ffurfio ffiniau'r caeau bron yn gyfan gwbl, ond ceir ychydig o gloddiau
ac iddynt wynebau o gerrig ar dir uwch. Mae'r gwrychoedd at ei gilydd
mewn cyflwr da ac maent yn cael eu cynnal a'u cadw'n dda; mae gan lawer
ohonynt goed gwrych nodweddiadol. Defnyddir y tir at ddibenion tir pori
wedi'i wella yn bennaf, ac ychydig o dir garw a thir brwynog sydd. At
ei gilydd mae'r coetir collddail wedi'i gyfyngu i lethrau serth dyffrynnoedd,
lle y mae'n darparu elfen dirwedd nodweddiadol. Yn agos at ddyffryn Tywi
mae i'r dirwedd gymeriad parcdir; pwysleisir hyn gerllaw Maenor Crymlyn
gan goed unigol a chlystyrau bach sy'n nodi gwaith plannu a wnaed yn yr
hen barc. Ceir nifer fawr o blanhigfeydd coniffer bach ac un blanhigfa
goniffer ganolig ei maint yn yr ardal, y mae'r mwyafrif ohonynt ar dir
uchel. Nid oes unrhyw anheddiadau cnewyllol, a chlwstwr llac o dai, ysgol
a swyddfa bost ym Methlehem yw'r unig anheddiad cyfunedig o bwys. I bob
pwrpas nodweddir y partrwm anheddu gan ffermydd gwasgaredig a thai eraill.
Mae'r mwyafrif o'r adeiladau yn dyddio o'r 19eg ganrif a'r 20fed ganrif
ac maent wedi'u hadeiladu o gerrig. Ceir amrediad o fathau o ffermydd,
ond mae'r mwyafrif yn adeiladau deulawr ac iddynt dri bae ac maent yn
y traddodiad brodorol neu yn y dull Sioraidd mwy 'bonheddig' sy'n perthyn
i'r cyfnod o ddechrau i ganol y 19fed ganrif. Mae adeiladau mwy o faint
yn bresennol, a thai a bythynnod llai o faint. Mae'r amrediad o hen adeiladau
fferm o gerrig a adeiladwyd yn y 19eg ganrif hefyd yn adlewyrchu'r dosbarth
cymdeithasol ac economaidd cyfredol; rhesi sylweddol yw'r mwyafrif ohonynt,
a leolir yn aml yn lled ffurfiol o amgylch buarth, er bod rhesi unigol
o adeiladau llai o faint yn bresennol ar y ffermydd llai o faint. Mae
gan bron y mwyafrif o'r ffermydd adeiladau amaethyddol modern. Wedi'i
osod ar y patrwm hir-sefydlog o ffermydd gwasgaredig mae gwasgariad o
nifer fach o anheddau o ddiwedd y 19eg ganrif a'r 20fed ganrif, mewn amrywiaeth
o ddulliau a deunyddiau.
Mae'r archeoleg a gofnodwyd yn gyfoethog ac amrywiol, ac
mae'n cynnwys un enghraifft bendant ac un enghraifft bosibl o feddrod
siambr Neolithig/crug hir o'r Oes Efydd, maen hir o'r Oes Efydd a chrug
crwn posibl. Hefyd mae yna fryngaer arall o'r Oes Haearn ar lethr orllewinol
Carn Goch (Ardal 222), a bryngaer arall i'r gorllewin. Cloddiwyd Llys
Brychan ym 1961 a daethpwyd i'r casgliad mai safle fila Rhufeinig ydoedd
yn ôl pob tebyg (Jarrett 1961). O'r cyfnod Canoloesol mae safle capel
a safle capel posibl, tra o ddechrau y cyfnod Ôl-Ganoloesol mae tomenni
clustog, ffynnon a maen crafu, yn ogystal â chlostiroedd nas dyddiwyd.
Mae llawer o adeiladau nodweddiadol, a ffermydd o ansawdd
uchel. Mae tþ Mandinam yn rhestredig Gradd II. Mae'n perthyn yn bennaf
i'r 18fed ganrif a'r 19eg ganrif, ac mae iddo doeau trumiog dwbl. Nid
yw'r tai cyfoes yn Nhygwyn, Llwynymendy, Pentre Parr gyda'i borthordy
a'i barc, a Beili-Dyffryn yn rhestredig. Adeiladwyd y ffermdy presennol
yn Llyshendy ar gyfer ystad Dinefwr (Judith Alfrey, sylw pers.). Dylid
nodi'r capel, yr ysgol a'r swyddfa bost ym Methlehem, yn ogystal â melinau,
bythynnod ac anheddau, pontydd a safle gefail.
I'r gogledd mae gorlifdir Afon Tywi ac ardal gymeriad Felindre
yn gosod ffin bendant i'r ardal gymeriad. Lle y mae'r ardal hon yn ffinio
â thir uwch nodir y ffin yn glir hefyd - i'r de yn erbyn Carn Goch, Garn-wen
ac eraill, ond mewn mannau eraill mae yna ardal gyfnewid yn hytrach na
ffin bendant
|