Cartref > Tirweddau Hanesyddol > Tywi >

226 GARN-WEN

CYFEIRNOD GRID: SN 700240
ARWYNEBEDD MEWN HECTARAU: 218.60

Cefndir Hanesyddol
Ardal gymeriad fach ar ochr dde-ddwyreiniol Dyffryn Tywi rhwng Llandeilo a Llangadog, dan gysgod bryngaer fawr Carn Goch sy'n dyddio o'r Oes Haearn (Ardal 222). Mae Carn Goch yn codi ychydig y tu hwnt i gwr gogleddol Ardal 226 ac yn l pob tebyg dyma oedd canolbwynt tiriogaeth fawr a gynhwysai'r rhan fwyaf o'r ardal i'r de o Afon Tywi. Yn ystod y cyfnod hanesyddol lleolid yr ardal o fewn Cwmwd Perfedd - o fewn Maenor Fabon yn benodol - yng Nghantref Bychan, a oresgynnwyd gan yr Eingl-Normaniaid o dan Richard Fitz Pons a sefydlodd caput yn Llanymddyfri ym 1110-16 (Rees d.d.). Fe'i trosglwyddwyd yn fuan ar l hynny i arglwyddi Clifford Aberhonddu fel Arglwyddiaeth Llanymddyfri. Fodd bynnag, bu llawer o gyfnodau pan fu'r ardal o dan reolaeth y Cymry a chadwodd yr ardal arferion deiliadol brodorol tan ddiwedd y cyfnod Canoloesol pan gafodd ei hymgorffori o fewn ffiniau modern Sir Gaerfyrddin. Mae'r clostiroedd afreolaidd canolig eu maint yn yr ardal hon yn cyferbynnu 'r clostiroedd rheolaidd mwy o faint i'r de-ddwyrain - sy'n cynrychioli tir comin a amgaewyd yn y 19eg ganrif - ac yn l pob tebyg maent yn gynharach, er efallai eu bod yn perthyn i'r cyfnod l-Ganoloesol. Mae'r ardal yn cynnwys tair fferm, y mae pob un ohonynt yn dyddio o'r cyfnod l-Ganoloesol. Ni fu fawr ddim datblygiad diweddar ond ceir pocedi o blanhigfeydd coniffer o ddiwedd yr 20fed ganrif.

Map a atgynhyrchwyd o fap yr OS gyda chaniatad yr Arolwg Ordnans ar ran Rheolwr Llyfrfa Ei Mawrhydi, Hawlfraint y Goron 2001. Cedwir pob hawl. Byddai ei atgynhyrchu heb ganiatad yn torri Hawlfraint y Goron a gall hynny arwain at erlyniad neu achos sifil. Rhif y drwydded: GD272221

Disgrifiad ac elfennau hanfodol y dirwedd hanesyddol
Mae ardal gymeriad Garn-wen yn gymharol fach ond yn eithaf cymhleth am ei bod wedi'i lleoli rhwng tir ffermio is ac esgair agored uchel. Mae iddi gymeriad 'fferm ucheldirol'. Fe'i lleolir ar lethrau sy'n wynebu'r gogledd-orllewin rhwng 190 m a 200 m. Mae'r tir i gyd wedi'i amgu, ond mae'r caeau ar lefelau uwch erbyn hyn yn torri i lawr. Lleolir tair fferm, Gurnos, Garn-wen a Than-y-lan, o fewn yr ardal hon. Mae echelau'r caeau, er eu bod yn dueddol o fod yn afreolaidd, yn bendant yn tueddu i ymestyn o'r gogledd-orllewin i'r de-ddwyrain, sydd efallai yn dangos eu bod wedi'u hamgu yn ystod un cyfnod pwysig. Ceir gwahanol fathau o ffiniau caeau; waliau sych, cloddiau a chloddiau caregog. Ar ben y cloddiau a'r cloddiau caregog ceir gwrychoedd, sydd wedi dirywio i wahanol raddau; ar lefelau uwch maent wedi mynd i bob pwrpas, ar lefelau is maent yn tueddu i fod yn llawn coed gwrych nodweddiadol. At ei gilydd mae'r waliau sych yn adfeiliedig. Defnyddir ffensys gwifrau i ddal da byw. Mae'r rhan fwyaf o'r tir yn borfa wedi'i gwella, ond mae planhigfa goniffer ganolig ei maint wedi'i sefydlu dros rai cyn-gaeau. Mae'r ffermdai wedi'u hadeiladu o gerrig, ac yn l pob tebyg maent yn perthyn i'r 19eg ganrif. Yn gysylltiedig 'r ffermdai hyn mae rhes sylweddol o adeiladau fferm o gerrig yn perthyn yn l pob tebyg i'r 19eg ganrif, yn ogystal ag adeiladau amaethyddol modern helaeth iawn.

Dim ond un safle archeolegol - man darganfod paleolithig - a gofnodwyd, ond safle pwysig ydyw ac mae'n dangos bod i'r ardal hanes hir.

Nid oes unrhyw adeiladau nodweddiadol.

Ardal gymeriad bendant yw Garn-wen. I'r gogledd-orllewin lleolir naill ai rhostir agored Carn Goch neu dir ffermio is, tra ar ochrau eraill ceir esgair uchel o dir agored, neu blanhigfeydd coniffer.

 

 

 

 

 

[cliciwch am rhestr y pynciau os nad yw'n bresennol]