Cartref > Tirweddau Hanesyddol > Tywi >

257 PLWYF LLANWRDA

CYFEIRNOD GRID: SN 727352
ARWYNEBEDD MEWN HECTARAU: 2058.00

Cefndir Hanesyddol
Ardal a leolir ar yr ochr ogledd-orllewin i Ddyffryn Tywi. Yn ystod y cyfnod hanesyddol fe'i lleolid o fewn cwmwd Mallen, plwyf Llanwrda ar ddiwedd y Canoloesau a chantref diweddarach Caeo (Rees 1932). Delid y cwmwd o arglwyddiaeth Gymreig annibynnol Cantref Mawr nes i Sir Gaerfyrddin gael ei sefydlu ym 1284, ac yn yr ardal hon roedd wedi'i isrannu'n ddwy ran - sef Gwestfa Llanwrda, a weinyddid yn l pob tebyg o lys yn Neuadd Llanwrda (Ardal 210), a Gwestfa Ystrad Mynys, a weinyddid yn l pob tebyg o lys yn Ystrad (Ardal 208). Mae yna dystiolaeth bod pobl yn byw yn yr ardal yn gynnar; lleolir bryngaer bosibl o'r Oes Haearn o fewn yr ardal tra bod y ffordd Ryfeinig o Gaerfyrddin i Lanymddyfri, a drowyd yn ffordd dyrpeg ym 1763-71 (Lewis, 1971, 43) ac a gynrychiolir bellach gan yr A40(T), yn rhannol ffurfio ei chwr de-ddwyreiniol. Yn l pob tebyg y ffordd hon oedd y llwybr a gymerwyd gan yr Eingl-Normaniaid wrth iddynt ymledu o'r dwyrain o dan Richard Fitz Pons a sefydlodd caput yn Llanymddyfri ym 1110-16 (Rees d.d.) ac a orchfygodd Gantref Bychan i'r de. Mae'n bosibl mai'r ymgyrch gychwynnol hon yw'r cyd-destun ar gyfer sefydlu'r mwnt yng Nglan-Mynys, ar gwr gorlifdir Afon Tywi; fodd bynnag, gall fod yn sefydliad Cymreig annibynnol wedi'i leoli fel y mae mewn cysylltiad 'r llys posibl yn Ystrad. Gall fod safle anheddiad Canoloesol yng Nghwmdwr i'r gorllewin o'r ardal, a lleolir safle amffosog posibl ychydig y tu hwnt i'r cwr gogleddol. Mae'r system bresennol o gaeau afreolaidd o faint canolig i fawr yn awgrymu bod y tir wedi'i amgu erbyn y cyfnod l-Ganoloesol cynharach; mae'n debyg bod y patrwm presennol o ffermydd wedi datblygu erbyn y cyfnod hwn. Nid yw'r dirwedd wedi newid fawr ddim o'r hyn a ddangosir ar fap degwm Llanwrda 1837. Nid oes unrhyw bentrefi o fewn yr ardal ond mae yna ddatblygiad diweddar diddorol yn Siloh lle y datblygodd capel a thafarn yn dyddio o ddechrau'r 19fed ganrif, ar y llwybr porthmona o Gaeo i Lanymddyfri sy'n croesi rhan ogleddol yr ardal, yn ganolbwyntiau ar gyfer anheddiad cnewyllol bach. Ni fu fawr ddim dabtlygiad yn ddiweddar.

Map a atgynhyrchwyd o fap yr OS gyda chaniatad yr Arolwg Ordnans ar ran Rheolwr Llyfrfa Ei Mawrhydi, Hawlfraint y Goron 2001. Cedwir pob hawl. Byddai ei atgynhyrchu heb ganiatad yn torri Hawlfraint y Goron a gall hynny arwain at erlyniad neu achos sifil. Rhif y drwydded: GD272221

Disgrifiad ac elfennau hanfodol y dirwedd hanesyddol
Lloelir yr ardal gymeriad fawr iawn hon ar ochr ogleddol dyffryn Tywi ac mae'n cynnwys llawer o blwyf Llanwrda. O orlifdir Afon Tywi ar lefel o 60m fwy neu lai mae'r tir yn codi'n serth i dros 130 m. I'r gogledd nodweddir yr ardal hon gan fryniau tonnog a dyffrynnoedd bach serth a leolir rhwng 100 m a 230 m. Yn ei hanfod tirwedd o ffermydd wedi'u gwasgaru'n eang, caeau bach afreolaidd a choetir gwasgaredig ydyw. Amgaeir y caeau gan gloddiau gwrychoedd ar eu pennau. Dros ardal mor eang mae yna wahaniaethau o ran y modd y mae'r gwrychoedd yn cael eu cynnal a'u cadw, ond mae'r mwyafrif mewn cyflwr da, er eu bod yn dueddol o fod yn adeiliedig ar lefelau uwch, ac yn llawn tyfiant ar lefelau is. Mae gan lawer o'r gwrychoedd goed gwrych nodweddiadol, ac mae'r rhain ynghyd 'r nifer fawr o glystyrau bach o goetir collddail (yn arbennig o nodweddiadol ar lethrau serth y dyffrynnoedd) a phlanhigfeydd coniffer canolig eu maint yn rhoi golwg goediog i'r dirwedd. Defnyddir tir ffermio bron yn gyfan gwbl ar gyfer porfa wedi'i gwella, ac nid oes fawr ddim porfa arw na thir brwynog. Nid oes unrhyw anheddiad cyfunedig; nodweddir y patrwm anheddu gan ffermydd gwasgaredig yn bennaf. At ei gilydd mae'r ffermdai yn perthyn i'r 19eg ganrif; adeiladau deulawr o gerrig ydynt ac iddynt dri bae. Yn amlwg dros ardal mor fawr mae yna amrywiaeth yn y mathau o ffermydd a geir, ond mae'r mwyafrif yn y traddodiad brodorol, a dim ond ychydig o enghreifftiau o ffermdai yn y dull Sioraidd mwy 'bonheddig' sydd. Mae'r adeiladau fferm hn wedi'u hadeiladu o gerrig. Mae'r adeiladau hyn yn amrywio gryn dipyn o ran maint a diwyg, ond at ei gilydd maent wedi'u cyfyngu i un neu ddwy res, ond gyda rhai enghreifftiau mwy cymhleth mwy o faint wedi'u trefnu'n ffurfiol o amgylch iard. Mae gan y mwyafrif o'r ffermydd modern adeiladau amaethyddol. I bob pwrpas nid oes unrhyw ddatblygiadau preswyl modern. Ar wahn i ffordd B sy'n torri ar draws rhan ogleddol yr ardal hon ac sy'n disodli llwybr ffordd Rufeinig o Lanymddyfri i Bumsaint ychydig i'r gogledd, mae'r holl gysylltiadau trafnidiaeth yn yr ardal yn rhai lleol ac yn cynnwys lonydd a llwybrau.

Mae'r archeoleg a gofnodwyd yn cynnwys bryngaer bosibl o'r Oes Haearn, safle anheddiad Canoloesol, mwnt a safle posibl capel, a gorsaf rybuddio bosibl nas dyddiwyd.

Mae ychydig o adeiladau nodweddiadol gan gynnwys capeli Siloh a Thabor, cyn-dafarn, anheddau, pontydd a chyn-felinau.

I'r gogledd ac i'r gorllewin ni ddisgrifiwyd unrhyw ardaloedd cymeriad eto, ond yn y fan hon mae'r tir yn codi mewn cyfres o fryniau agored a hanner-amgaedig isel. Ar yr ochrau eraill mae gan yr ardaloedd cymeriad cyfagos elfennau tirwedd tebyg i'r ardal hon; yn y fan hon mae ardal gyfnewiad yn hytrach na ffin bendant

 

 

 

 

 

 

 

[cliciwch am rhestr y pynciau os nad yw'n bresennol]