Cartref > Tirweddau Hanesyddol >

 

Disgrifio Nodweddion Tirweddau Hanesyddol - Tywi

Cynghordy Llangathen Nantgaredig - Derwen Fawr Llanarthne The National Botanic Garden of Wales Llangunnor Ystrad Tywi:Caerfyrddin-Llandeilo Ystrad Tywi: Carmarthen Croesyceilog - Cwmffrwd Abergwili - Llanegwad Parish Morfa Melyn Abergwili Carmarthen Tywi Tidal Flood Plain Llangynog Gelli Aur Allt Pant Mawr Llanfihangel Aberbythych Llandeilo Dryslwyn Dinefwr Park Allt Tregib Ystrad Tywi Bethlehem Carn Goch Garn Wen Cwmifor-Manordeilo Llangadog Felindre Abermarlais Llansadwrn - Llanwrda Llangadog Cefngornnoeth Maes Gwastad Ystrad Tywi: Llangadog-Llandovery Llanwrda Parish Llandovery Llwynhowell Maesllyddan Fforest Nant-y-Ffin Nant y ffin Craig ddu Dinas Craig y Bwlch Cilycwm Rhandirmwyn

Crynodeb yw hwn, cliciwch ar y llun am fwy o wybodaeth

Map a atgynhyrchwyd o fap yr OS gyda chaniatad yr Arolwg Ordnans ar ran Rheolwr Llyfrfa Ei Mawrhydi, © Hawlfraint y Goron 2001. Cedwir pob hawl. Byddai ei atgynhyrchu heb ganiatad yn torri Hawlfraint y Goron a gall hynny arwain at erlyniad neu achos sifil. Rhif y drwydded: GD272221

179 Llangynog - Llangain mae'r ardal gymeriad hon yn cynnwys tirwedd donnog o gaeau afreolaidd, coetir a phlanhigfeydd ar lethrau serth dyffrynnoedd a ffermydd gwasgaredig, a datblygiad preswyl modern ar raddfa fach gerllaw Caerfyrddin.

180 Gorlifdir Afon Tywi ceir llifogydd yn rheolaidd yn yr ardal gymeriad hon ac o ganlyniad nid oes ganddi fawr ddim elfennau tirwedd hanesyddol ar wahân i ffosydd draenio a ffensys, a chymhorthion morlywio yn sianel Afon Tywi.

181 Caerfyrddin mae'r ardal gymeriad hon yn cynnwys y dref sirol i gyd, gan gynnwys y craidd hanesyddol, datblygiadau tai a seilwaith yn perthyn i'r 20fed ganrif.

182 Ystrad Tywi: Caerfyrddin - Llandeilo mae'r ardal gymeriad hon yn cynnwys gorlifdir Afon Tywi: Mae ffermydd wedi'u gwasgaru'n eang ar ynysoedd o dir ychydig yn uwch, a choed gwrych nodweddiadol yn rhoi golwg parcdir i'r dirwedd.

183 Abergwili - Plwyf Llanegwad lleolir yr ardal gymeriad hon ar ochr ogleddol Afon Tywi ac yn ei hanfod mae'n cynnwys caeau afreolaidd bach o borfa wedi'i gwella, coetir collddail ar lethrau serth dyffrynnoedd a ffermydd gwasgaredig o gerrig.

184 Morfa Melyn yr ardal gymeriad hon yw'r rhan fach honno o orlifdir Afon Tywi i fyny'r afon o Gaerfyrddin sy'n cael ei boddi gan y llanw yn achlysurol. Yn ei hanfod mae'n cynnwys porfa agored, heb fawr ddim ffiniau.

185 Plwyfi Llangynnwr - Llanarthne lleolir yr ardal gymeriad hon ar lethrau sy'n wynebu'r gogledd ar ochr ddeheuol dyffryn Tywi ac mae'n cynnwys caeau bach, coetir a ffermydd bach gwasgaredig.

186 Abergwili mae'r ardal gymeriad hon yn cynnwys pentref o dai sy'n dyddio yn bennaf o'r 18fed ganrif a'r 19eg ganrif ar hyd ffordd yr A40 (sydd â ffordd osgoi yn mynd heibio iddo erbyn hyn), yr eglwys ganoloesol, adeilad modern Llys Esgob Tyddewi, yr hen lys (sef Amgueddfa Caerfyrddin erbyn hyn) a'i barcdir, a ddatblygiadau preswyl modern

187 Croesyceilog - Cwmffrwd mae'r ardal gymeriad hon wedi'i hamgáu'n gaeau canolig eu maint o borfa wedi'i gwella. Cyfyngir clystyrau bach o goetir yn bennaf i lethrau serth. Yn ogystal â'r patrwm anheddu hynafol o ffermydd gwasgaredig ceir datblygiadau llinellol mwy diweddar ar hyd y priffyrdd sy'n ymestyn allan o Gaerfyrddin

188 Gardd Fotaneg Genedlaethol Cymru mae'r ardal gymeriad hon yn cynnwys hen erddi a pharcdir Neuadd Middleton. Mae'r dirwedd hon wrthi'n cael ei hadfer a'i hadnewyddu, gan gynnwys adeiladu tþ gwydr mawr

189 Llanarthne mae'r ardal gymeriad hon wedi'i chanoli ar bentref Llanarthne, sydd â hen graidd wedi'i seilio ar eglwys y plwyf sy'n perthyn i'r cyfnod Canoloesol, ond sy'n cynnwys llawer o ddatblygiadau modern. Mae'r ardal hon hefyd yn cynnwys ffermdir bras a ffermydd gwasgaredig

190 Llanfihangel Aberbythych yn ei hanfod mae'r ardal gymeriad hon yn cynnwys tir ffermio tonnog amgaeëdig, coetir ar lethrau serch dyffrynnoedd a ffermydd gwasgaredig. Cyfyngir datblygiadau preswyl o'r 19eg ganrif a'r 20fed ganrif i bentrefannau bach a datblygiadau llinellol ar hyd priffyrdd.

191 Nantgaredig - Derwen Fawr mae'r ardal gymeriad hon yn ymestyn ar draws bryniau tonnog ar ochr ogleddol dyffryn Tywi ac yn cynnwys ffermydd mawr gwasgaredig mewn tirwedd o gaeau bach i ganolig eu maint. Mae datblygiadau llinellol a chnewyllol modern wedi'u canoli ar hyd ffordd yr A40 sy'n mynd trwy'r ardal.

192 Llangathen mae'r ardal gymeriad hon wedi'i chanoli ar eglwys Llangathen a'i hanheddiad cysylltiedig, a thþ a gerddi Aberglasney sy'n cael eu hadfer ar hyn o bryd.

193 Gelli Aur mae'r ardal gymeriad hon yn cynnwys plasty, gerddi a pharc Gelli Aur, planhigfa goniffer, y mae rhannau ohoni yn tresmasu ar draws y cyn-barc, a Llanfihangel Aberbythych, sef pentref yr ystad.

194 Allt Pant Mawr mae'r ardal gymeriad hon yn cynnwys llethr serth ochr ddeheuol dyffryn Tywi, llethr a orchuddir gan goed. Wedi'u gwasgaru yma ac acw gyda'r coetir ceir tyddynnod a bythynnod wedi'u gosod mewn system nodweddiadol o gaeau bach

195 Parc Dinefwr yn ei hanfod mae'r ardal gymeriad hon yn cynnwys tai o'r 18fed ganrif a'r 19eg ganrif, gerddi a pharc Dinefwr ynghyd â'r castell. Mae'r tþ a'r rhan fwyaf o'r parc yn eiddo i'r Ymddiriedolaeth Genedlaethol ac yn cadw llawer o'u helfennau hanesyddol.

196 Ystrad Tywi: Llandeilo - Llangadog mae'r ardal gymeriad hon yn cynnwys gorlifdir yr afon. Nid oes unrhyw aneddiadau na choetir, er bod y gorlifdir wedi'i rannu'n system gaeau eithaf llac o glostiroedd canolig i fawr eu maint

201 Cwmifor - Manordeilo mae'r ardal gymeriad hon yn ymestyn ar draws bryniau tonnog isel ar ochr ogleddol dyffryn Tywi. Mae'n cynnwys patrwm anheddu hynafol o ffermydd gwasgaredig, porfa amgaeëdig a chlystyrau bach o goetir, a datblygiadau llinellol a chnewyllol o'r 19eg ganrif a'r 20fed ganrif ar hyd ffordd yr A40

202 Llandeilo mae'r ardal gymeriad hon yn un drefol o ran cymeriad. Lleolir craidd hanesyddol y dref sy'n cynnwys adeiladau o'r 18fed ganrif a'r 19fed ganrif yn bennaf gerllaw ffordd yr A483 ac o amgylch eglwys y plwyf. Lleolir datblygiadau diweddarach yn dyddio o'r 19eg ganrif a'r 20fed ganrif y tu allan i'r craidd.

203 Allt Tregyb mae'r ardal gymeriad hon yn un drefol o ran cymeriad. Lleolir craidd hanesyddol y dref sy'n cynnwys adeiladau o'r 18fed ganrif a'r 19fed ganrif yn bennaf gerllaw ffordd yr A483 ac o amgylch eglwys y plwyf. Lleolir datblygiadau diweddarach yn dyddio o'r 19eg ganrif a'r 20fed ganrif y tu allan i'r craidd.

204 Felindre mae'r ardal gymeriad hon yn cynnwys anheddiad cnewyllol bach o dai sy'n perthyn yn bennaf i'r 19eg ganrif a'r 20fed ganrif. Y tu allan i'r anheddiad hwn ceir nifer o dyddynnod sydd wedi'u gwasgaru'n llac mewn system o lain-gaeau amgaeëdig.

205 Tir Comin Carreg-Sawdde Common mae'r ardal gymeriad hon yn cynnwys tir comin agored; yng nghanol y tir comin hwn lleolir clwstwr o adeiladau o'r 19eg ganrif a'r 20fed ganrif - sy'n dremasiadau ar y tir comin.

206 Llangadog, mae Llangadog yn ardal gymeriad drefol, ac mae wedi'i chanoli ar yr eglwys ganoloesol, Stryd yr Eglwys a 'sgwâr' fach. Mae'r adeiladau ar y sgwâr yn rai trawiadol ac yn dyddio o'r 18fed ganrif a'r 19eg ganrif. Lleolir datblygiadau preswyl o ddiwedd y 19eg ganrif a thai ac unedau diwydiannol ysgafn o'r 20fed ganrif ar gyrion y dref

207 Cefngornoeth mae'r ardal gymeriad hon yn ymestyn ar draws esgair fryniog, isel ar ochr ogleddol dyffryn Tywi, ac yn cynnwys ffermydd gwasgaredig, caeau afreolaidd a chlystyrau bach o goetir..

208 Ystrad Tywi: Llangadog- Llanymddyfri mae'r ardal gymeriad hon yn cynnwys gorlifdir a llethrau isaf dyffryn Tywi. Nodweddir yr ardal gan ffermydd mawr gwasgaredig a system gaeau reolaidd. Mae coed nodweddiadol yn rhoi golwg parcdir i'r dirwedd

209 Abermarlais mae'r ardal gymeriad hon wedi'i seilio ar hen dí, gerddi a pharc Abermarlais. Mae'r tí wedi mynd erbyn hyn ac mae'r parc a'r gerddi wedi dirywio. Ac yntau wedi'i leoli rhwng hen goetir collddail a phlanhigfeydd coniffer, mae naws agored y parc yn dal i barhau.

210 Llansadwrn - Llanwrda mae'r ardal gymeriad hon yn cynnwys Llansadwrn a Llanwrda - sef dau bentref sy'n perthyn i'r 19eg ganrif - a leolir mewn tirwedd o gaeau bach a ffermydd gwasgaredig ar fryniau tonnog, isel ar ochr ogleddol dyffryn Tywi

212 Llanymddyfri mae Llanymddyfri yn ardal gymeriad drefol ac yn cynnwys craidd hanesyddol y dref sy'n cynnwys y castell canoloesol ac adeiladau o'r 18fed ganrif a'r 19eg ganrif, ynghyd ag eglwys ganoloesol Llanfair-ar-Bryn, sef eglwys y plwyf, sydd mewn lleoliad anghysbell, a datblygiadau modern.

213 Maesllydan datblygodd ardal gymeriad Maesllydan o system gaeau agored. Mae porfa a amgaewyd yn gaeau rheolaidd yn cynnwys olion amaethu cefnen a rhych. Nodweddir y patrwm anheddu gan ffermydd mawr gwasgaredig yn bennaf

214 Llwynhowell mae'r ardal gymeriad hon yn cynnwys ffermydd sylweddol wedi'u gwasgaru ar hyd llethrau isel Afon Tywi sydd wedi'u gosod mewn tirwedd o gaeau bach afreolaidd o borfa wedi'i gwella, a choetir collddail.

215 Cilycwm mae'r ardal gymeriad hon yn cynnwys ffermydd sylweddol wedi'u gwasgaru ar hyd llethrau isel Afon Tywi sydd wedi'u gosod mewn tirwedd o gaeau bach afreolaidd o borfa wedi'i gwella, a choetir collddail.

216 Rhandirmwyn lleolir yr ardal gymeriad hon yn rhan uchaf y dyffryn. Ffermydd gwasgaredig a chymunedau a ddatblygodd gyda'r mwyngloddiau plwm yn y 19eg ganrif yw'r prif fathau o aneddiadau a geir yn yr ardal. Mae'r caeau'n fach ac yn afreolaidd. Mae coetir, gwrychoedd sydd wedi tyfu'n wyllt a phlanhigfeydd coniffer yn rhoi golwg dra choediog i'r ardal hon.

217 Cwm-y-Rhaeadr mae'r ardal gymeriad hon yn cynnwys llethrau serth iawn. Plannwyd planhigfeydd coniffer ar y mwyafrif o lethrau'r dyffryn, ond ceir ychydig o rostir agored. Lleolir yr ardal uwchben tir ffermio bras ardal gymeriad Cilycwm.

218 Nant-y-Ffin lleolir yr ardal gymeriad hon yn rhan uchaf dyffryn Tywi, sydd â llethrau serth, a'i isafonydd. Mae elfennau tirwedd hanesyddol yn cynnwys ffermydd gwasgaredig - adeiladau o gerrig o'r 19eg ganrif - caeau bach afreolaidd a choetir collddail.

219 Craig Ddu mae'r ardal gymeriad hon yn cynnwys llethrau creigiog serth iawn a llwyfandir uchel lle y ceir rhostir. Mae llethrau'r dyffrynnoedd wedi'u gorchuddio â choetir gwasgaredig gyda phorfa arw a rhostir yma ac acw.

220 Dinas lleolir yr ardal gymeriad hon yn rhan uchaf dyffryn Tywi ac mae'n cynnwys llethrau serth wedi'u gorchuddio â choetir collddail trwchus, rhostir agored ar lethrau creigiog a llwyfandir uchel.

221 Craig y Bwch mae'r ardal gymeriad hon yn cynnwys ucheldir agored ar ochr ddwyreiniol dyffryn Tywi. O'r llethrau serth mae'r ardal yn lefelu i ffurfio llwyfandir tonnog o borfa arw.

222 Carn Goch mae'r ardal gymeriad hon yn cynnwys bryn isel o rostir agored lle y lleolir rhagfuriau cerrig anferth caer bwysig o'r Oes Haearn ac isgaer llai o faint.

223 Fforest mae'r ardal gymeriad hon yn ymestyn ar hyd esgair hir rhwng dyffryn Tywi a dyffryn Brân. Erbyn hyn mae'r patrwm caeau o gloddiau a gwrychoedd wedi torri i lawr i raddau helaeth, a defnyddir ffensys gwifrau i ddal da byw. Mae'r tir yn borfa wedi'i gwella neu'n borfa arw, a cheir coetir prysglog ar lethrau serth

224 Dryslwyn mae'r ardal gymeriad hon yn cynnwys gwrthglawdd ac olion gwaith maen castell a thref ganoloesol Dryslwyn a leolir ar fryn isel o fewn dyffryn Tywi.

225 Bethlehem lleolir yr ardal gymeriad hon ar ochr ddeheuol dyffryn Tywi ac mae'n cynnwys tirwedd o gaeau bach afreolaidd a chlystyrau bach o goetir collddail a ffermydd gwasgaredig

226 Garn-wen lleolir yr ardal gymeriad hon ar lethrau sy'n wynebu'r gogledd-orllewin uwchben dyffryn Tywi. Mae'n cynnwys caeau afreolaidd sy'n rhedeg ar dir uchel uwchben, a dwy fferm fawr, sef Garn-wen a Than-y-lan.

227 Cynghordy lleolir yr ardal gymeriad hon ar ochr orllewinol afon Brân a llethr ddwyreiniol Afon Tywi, ac mae'n cynnwys caeau pori bach afreolaidd, coetir, a ffermydd gwasgaredig.

257 Plywf Llanwrda mae'r ardal gymeriad hon yn ymestyn ar draws bryniau tonnog i'r gogledd o ddyffryn Tywi ac mae'n cynnwys caeau bach afreolaidd, ffermydd gwasgaredig a choetir gwasgaredig.

Cysylltydd prosiect: Ken Murphy