Cartref > Tirweddau Hanesyddol > Y Mynydd Du a Mynydd Myddfai >

197 - TRAP

CYFEIRNOD GRID: SN 647185
ARWYNEBEDD MEWN HECTARAU: 634.30

Cefndir Hanesyddol
Ardal fechan o ran maint wrth droed y Mynydd Du, a oedd unwaith yn rhan o Faenor Llys a lanwai ran ddwyreiniol cwmwd Iscennen. Roedd Iscennen, yn wahanol i weddill Cantref Bychan yr oedd yn rhan ohono, wedi parhau mewn enw yn annibynnol ar reolaeth Eingl-Normanaidd hyd 1284 pan y'i prynwyd gan John Giffard. Ym 1340 daeth yn aelod o Ddugaeth Lancaster (Rees 1953, xv-xvi). Gall fod Ardal 197 wedi bod yn rhan o ystad maerdref Carreg Cennen (gweler Ardal 198); o leiaf yr oedd ty^ bonedd, Cwrtbrynbeirdd, wedi ei sefydlu yn yr ardal erbyn diwedd y cyfnod canoloesol diweddar, sydd efallai'n dangos dosraniad ystad fwy o faint. Mae Cwrtbrynbeirdd yn dy^ -neuadd y preswyliodd Morris Owen ynddo yn y 15fed ganrif (Jones 1962, 259) a gall fod cysylltiad rhyngddo chau tir comin yn Ardal gyfagos 199 gyda'i dyllau cwningod. Mae'r system amgylchynol o glostiroedd cromliniol canolig eu maint yn gwahaniaethu'n fawr oddi wrth glostiroedd mwy afreolaidd gweddill yr ardal ac mae'n bosibl bod y dirwedd wedi ei had-drefnu gyda sefydlu'r ty^ a ddaeth yn ddiweddarach yn rhan o ystad Gelli Aur (Jones 1987, 17). Roedd ty^ Carreg Cennen yn sefydliad de novo gan y nabob Thomas Wright Lawford ym 1806, ac nid oes ganddo gysylltiad, ar wahn i'r enw, Chastell Carreg Cennen (Ardal 256), ond ymddengys ei fod yn sefyll ar safle plasdy Canoloesol a berthynai i Abaty Talyllychau (Owen 1894, 35). Mae gan yr ardal, fel llawer o blwyf Llandeilo Fawr nodwedd eglwysig iddi; roedd tir mynachaidd pellach i'r dwyrain, a chapel Canoloesol (anwes i Landeilo Fawr?) i'r de o Gwrtbrynbeirdd, a cheir mynwent gistiau i'r gorllewin. Mae'n bosibl bod capel pellach yn bodoli gerllaw Trap lle y mae'r cnewylliad presennol, fodd bynnag yn perthyn i'r 19eg ganrif ddiweddar a'r 20fed ganrif; roedd y dirwedd bresennol wedi ei sefydlu erbyn yr amser pan baratowyd map y degwm plwyf Llandeilo Fawr (1841), ond y felin a'r dafarn yn ymyl y ffordd, y Cennen Arms, yw'r unig adeiladau a ddangosir yn Trap.

Map a atgynhyrchwyd o fap yr OS gyda chaniatad yr Arolwg Ordnans ar ran Rheolwr Llyfrfa Ei Mawrhydi, Hawlfraint y Goron 2001. Cedwir pob hawl. Byddai ei atgynhyrchu heb ganiatad yn torri Hawlfraint y Goron a gall hynny arwain at erlyniad neu achos sifil. Rhif y drwydded: GD272221

Disgrifiad a hanfodion hanesyddol y dirwedd
Lleolir ardal Trap ar draws dyffryn agored afon Cennen islaw Castell Carreg Cennen. Mae gwaelod y dyffryn yn gorwedd ar tua 100m tra bod yr ochrau yn codi i dros 200m ar yr ochr ddeheuol gyda llawer brigiad carreg galch carbonifferaidd. Mae'r ardal wedi ei chau yn gyfres o gaeau bach afreolaidd, ar wahn i'r ochr ddeheuol yn agos at Gwrtbrynbeirdd lle y mae clostiroedd mwy rheolaidd canolig eu maint yn bodoli. Cloddiau pridd gyda gwrychoedd yw ffiniau y caeau i gyd, er bod ffensys gwifren yn ategu'r rhan fwyaf o'r cloddiau. Amrywia'r cloddiau o ran eu cyflwr, ond tueddant i fod wedi gordyfu. Mae gan rai ffermydd gloddiau sydd wedi eu cynnal a'u cadw'n gymen. Mae tuedd bach i esgeuluso cloddiau ar y lefelau uwch. Mae gan lawer o'r cloddiau goed nodedig a rhydd y rhain, a'r cloddiau sydd wedi gordyfu a'r clymau bychain o goed collddail lluosog olwg goediog i'r dirwedd. Mae sawl planhigfa o goed coniffer yn bod yn yr ardal. Tir pori yw'r defnydd tir pennaf ac er bod llawer ohono wedi ei wella, mae sawl darn o dir brwynog a heb ei wella ar lethrau'r dyffryn a gwaelod y dyffryn. Mae patrwm yr anheddiad yn un o ffermydd a thai gwasgaredig gyda chlwstwr llac o dai yn Trap. Mae'r tai a'r ffermdai gwasgaredig hefyd yn dyddio o'r 19eg ganrif yn bennaf ac yn y traddodiad brodorol. Mae'r adeiladau o statws uwch a mwy hynafol megis y ty^ mawr is-ganoloesol a'r un diweddarach yn Nghwrtbrynbeirdd a'r ffarm yn Llwyndewi yn darparu rhagor o ddyfnder-cyfnod a rhagor o haeniad cymdeithasol ac economaidd i'r dirwedd. Mae'r rhan fwyaf o'r tai allan o'r 19eg ganrif ac wedi eu codi cherrig, ond mae adeiladau fferm modern yn gysylltiedig hwy.

Mae'r archeoleg a gofnodwyd yn cynnwys dau dwmpath llosg o'r Oes Efydd, ac o'r cyfnod Canoloesol, ceir mynwent cistiau ac o bosibl ffynnon gysygredig. Mae'r nodweddion archeolegol ar hyd y bryncyn carreg galch sy'n ffurfio ymyl ddeheuol yr ardal yn ymwneud yn bennaf phrosesu carreg galch megis chwareli, odynnau calch a gweithfeydd calch.

Ceir nifer o adeiladau nodedig. Mae olion y Capel Dewi canoloesol yn rhestredig Gradd II Yn union i'r gogledd mae Cwrtbrynbeirdd (Rhestredig Gradd II) sydd yn tarddu o'r 15fed a'r 16eg ganrif, gyda lansed gorniog sengl a newidiadau diweddarach. Ty^ bonedd diweddarach yw Ty^ Carreg Cennen (Rhestredig Gradd II), y dechreuwyd ei godi yn 1806 ar sail dyluniadau gan y pensaer S P Cockerell, ac mae'n enghraifft dda o dy gwledig Sioraidd gyda neuadd risiau ryfeddol ac adeilad gwenynfa arbenigol rhestredig Gradd II, ac mae wedi cadw ei brif nodweddion. Saif rhes ffurfiol o adeiladau fferm o'r 18fed a'r 19eg ganrif yn Llwyndewi. Adeiladau o'r 19eg ganrif yn bennaf yw'r rhai yn Trap, wedi eu codi charreg a thoeau llechi gyda thai yn y traddodiad brodorol a'r traddodiad Sioraidd cain. Rhwng y rhain ceir anheddau o'r 20fed ganrif ddiweddar mewn amrywiaeth o arddulliau a deunyddiau, er y gall y felin, fodd bynnag, fod o gyfnod cynharach a cheir bocs ffn K6. Mae'r tai a'r ffermdai gwasgaredig hefyd yn dyddio o'r 19eg yn bennaf ac wedi eu codi o gerrig gyda thoeau llechi, ac er bod llawer yn y traddodiad brodorol ac yn adeiladau deulawr thri bae, y mae enghreifftiau o'r arddull gain Sioraidd. Mae'r rhan fwyaf o'r tai allan ar y ffermydd o'r 19eg ganrif, wedi eu codi o gerrig gyda'r enghreifftiau mwyaf sylweddol mewn trefn led-ffurfiol er yn aml maent yn un rhes yn unig.

Mae'r ardal gymeriad hon er wedi ei diffinio'n dda i'r de lle mae'n gorgyffwrdd thir uchel sydd heb ei rannu'n gaeau, yn llai diffiniedig ar yr ochrau eraill. I'r de, i'r dwyrain a'r gorllewin mae'r ardaloedd cymeriad yn cynnwys nodweddion tebyg ac mae tuedd i gael llain o newid graddol, yn hytrach na ffin ymyl galed, a'r eithriad yw ardal gymeriad fechan Castell Carreg Cennen i'r dwyrain.

 

 

 

[cliciwch am rhestr y pynciau os nad yw'n bresennol]