Cartref > Tirweddau Hanesyddol > Y Mynydd Du a Mynydd Myddfai >

200 DAFADFA CYFEIRNOD

GRID: SN 690209
ARWYNEBEDD MEWN HECTARAU: 339.00

Cefndir Hanesyddol
Ardal gymeriad ar wahn, yn gorwedd ar lethrau is y Mynydd Du yn wynebu'r gogledd orllewin, a fu unwaith yn rhan o gwmwd Perfedd yng Nghantref Bychan, yr ymosodwyd arno gan yr Eingl Normaniaid yn treiddio o'r dwyrain o dan arweiniad Richard Fitz Pons a sefydlodd caput yn Llanymddyfri ym 1110-16 (Rees n.d.). Yn fuan wedyn daeth i feddiant yr arglwyddi Clifford o Aberhonddu ond bu o dan reolaeth Gymreig am gyfnodau hyd 1276 pan y'i rhoddwyd i John Giffard, marchog o Swydd Gaerloyw (Rees 1953, xv). Goroesodd arferion tirddaliadaeth cynhenid yno hyd ddiwedd cyfnod y Canoloesoedd, ac erbyn hynny, o leiaf, rhannwyd Perfedd yn ddwy faenor, gyda'r ardal gymeriad hon yn gorwedd oddi fewn i Faenor Gwynfe. Ymddengys fod yr ardal wedi cynnwys gweundir heb ei rannu'n gaeau a oedd yn cael ei ddal mae'n debyg fel comin neu 'dir gwastraff' hyd y cyfnod l-ganoloesol pan sefydlwyd y patrwm presennol o gaeau cymharol fawr rheolaidd. Rhoddodd corlan yng ngogledd yr ardal eu henwau i ddwy fferm, Dafadfa Uchaf a Dafadfa Isaf ac o ganlyniad gellir tybio ei bod yn gynharach na hwy; roedd y ffermydd yn bod erbyn dechrau'r 19eg ganrif ac fe'u nodir ar yr Hen Gyfres Arolwg Ordnans 1". Mabwysiadodd y dirwedd ei ffurf bresennol erbyn 1839 (Map y Degwm Llangadog) ac ni fu fawr o newid ers hynny.

Map a atgynhyrchwyd o fap yr OS gyda chaniatad yr Arolwg Ordnans ar ran Rheolwr Llyfrfa Ei Mawrhydi, Hawlfraint y Goron 2001. Cedwir pob hawl. Byddai ei atgynhyrchu heb ganiatad yn torri Hawlfraint y Goron a gall hynny arwain at erlyniad neu achos sifil. Rhif y drwydded: GD272221

Disgrifiad a hanfodion hanesyddol y dirwedd
Mae Dafadfa yn ardal gymeriad hirsgwar yn fras sy'n gorwedd ar lethr fryniog donnog yn wynebu'r de rhwng 250m a 320m. Mae'r tir wedi ei rannu'n gyfangwbl o dan system o diroedd clostirol canolig eu maint cymharol rheolaidd. Ar y llethrau is mae'r caeau'n fychan a thueddant i fod yn afreolaidd yn hytrach na rheolaidd; ar y lefelau uwch tueddant i fod yn fwy o faint ac yn fwy rheolaidd. Rhennir y caeau gan gloddiau pridd a gwrychoedd arnynt. Ar y lefelau uwch mae'r cloddiau'n tyfu'n wyllt ac yn cael eu hesgeuluso gyda bylchau'n ymddangos ynddynt, ond ar y lefelau is gofelir amdanynt yn dda yn gyffredinol. Mae ffensys gwifren yn atgyfnerthu pob clawdd. Mae coed arbennig yn brin yn y gwrychoedd a chyfyngir y tir coediog i ychydig o goedlannau eilaidd bychain a phlanhigfeydd ar y llethrau is. Mae'r defnydd tir bron yn gyfangwbl yn dir pori sy'n cael ei wella gyda ychydig o dir brwynog garwach. Mae patrwm yr anheddiad yn un o ffermydd gwasgarog iawn a drwyddi draw mae'r patrwm anheddiad a'r cau tir yn dangos tirwedd a gafodd ei haneddu yn y cyfnodau cymharol ddiweddar, efallai yn y 18fed ganrif.

Cyfyngir yr archeoleg a gofnodwyd i'r gorlan a thwmpath cerrig llosg o'r Oes Efydd.

Codwyd y ffermdai o gerrig gyda thoeau llechi; maent yn dyddio o'r 19eg ganrif ac maent yn y traddodiad brodorol. Mae'r tai allan cerrig hefyd o'r 19eg ganrif ac yn gymharol fach. Mae gan y rhan fwyaf o'r ffermydd adeiladau amaethyddol modern mawr yn gysylltiedig hwy. Ceir hefyd gapel o'r 19eg ganrif.

Mae hon yn ardal gymeriad ar wahn. Cyferbynna 'r ardaloedd i'r de, gorllewin a'r dwyrain sy'n cynnwys caeau bychain afreolaidd, tir coediog a phatrwm anheddiad dwysach ond serch hynny'n wasgaredig, ac 'r ardaloedd i'r gogledd, y gogledd ddwyrain a'r gogledd orllewin sydd phatrwm cau tir ac anheddiad llacach.

 

 

 

 

[cliciwch am rhestr y pynciau os nad yw'n bresennol]