Cartref > Tirweddau Hanesyddol > Y Mynydd Du a Mynydd Myddfai >

211 BLAENSAWDDE

CYFEIRNOD GRID: SN 783236
ARWYNEBEDD MEWN HECTARAU: 311.40

Cefndir Hanesyddol
Ardal fechan sy'n gorwedd ar ymyl gogleddol y Mynydd Du. Gorweddai unwaith o fewn cwmwd Perfedd - Maenor Llanddeusant yn benodol - yng Nghantref Bychan, yr ymosodwyd arno gan yr Eingl-Normaniaid yn treiddio o'r dwyrain yn cael eu harwain gan Richard Fitz Pons a sefydlodd caput yn Llanymddyfri ym 1110-16 (Rees n.d.). Yn fuan daeth i feddiant yr arglwyddi Clifford yn Aberhonddu fel Arglwyddiaeth Llanymddyfri, ond cafwyd sawl pennod o reolaeth Gymreig a goroesodd arferion tirddaliadaeth cynhenid yno hyd ddiwedd y Canoloesoedd pan y'i hymgorfforwyd yn y Sir Gaerfyrddin fodern. Mae'r ardal gymeriad ar ymylon gweundir nas rhannwyd yn gaeau ac mae'n cynnwys nifer o 'dirweddau' gwahanol ar lethr sy'n wynebu'r gogledd, yn cynnwys nifer o ddarnau o dir toreithiog. Byddai sawl trefniant gwahanol yn bosibl ; mae Ffarm Blaensawdde yn enghraifft dda o ddaliad yn ymledu obry ar lethr, ac yn cynnwys amrywiaeth dirweddol o fath sy'n tarddu o leiaf yn y Canoloesoedd. Mae'n gorwedd yng nghanol yr ardal ac mae'n 'enghraifft ardderchog o dy^ bonedd Cymreig traddodiadol', a gysylltir mewn diwylliant poblogaidd gyda chwedl Llyn-y-fan Fach (Jones 1987,11). Daeth yn ganolfan yr ystad a oedd, yn ei anterth yn y 19eg ganrif gynnar, yn cynnwys 15 fferm ym mhlwyf Llanddeusant, yn cynnwys Gorsddu, a llawer o Ardal 211 (Beckley1991,39-40). Dengys map yr ystad o 1774 batrwm o glostiro a oedd yn union debyg i'r hyn ydyw heddiw (ibid.), gan awgrymu bod y dirwedd wedi ei sefydlu pan godwyd y ffermydd presennol yn yr 17eg ganrif. Mae dwy gorlan ddefaid ar ymylon yr ardal, yn dyddio o'r 18fed ganrif, fwy na thebyg, ac yn dangos pwysigrwydd parhaus bugeilyddiaeth yn yr economi.

Map a atgynhyrchwyd o fap yr OS gyda chaniatad yr Arolwg Ordnans ar ran Rheolwr Llyfrfa Ei Mawrhydi, © Hawlfraint y Goron 2001. Cedwir pob hawl. Byddai ei atgynhyrchu heb ganiatad yn torri Hawlfraint y Goron a gall hynny arwain at erlyniad neu achos sifil. Rhif y drwydded: GD272221

Disgrifiad a hanfodion hanesyddol y dirwedd
Mae'r ardal gymeriad gymharol fechan hon, ond sydd serch hynny'n nodedig, yn cynnwys tir a rannwyd yn gaeau yn nyffryn uchaf afon Sawdde; mae wedi ei chwmpasu ar dair ochr gan weundir agored y Mynydd Du. Gorwedd llawr y dyffryn ar 220m; mae ffin eithaf y tir a gaewyd dros 300m. Rhannwyd yr ardal gymeriad yn gyfangwbl yn gaeau afreolaidd bach neu ganolig eu maint. Mae'r ffin rhwng tir caeŽdig yr ardal hon a'r gweundir agored yn amlwg iawn - nid ymddengys bod unrhyw gaeau neu anheddau a adawyd yn segur ar ymylon y gweundir yma, fel sy'n gyffredin mewn ardaloedd eraill o'r Gymru fynyddig. Darpara gwrychoedd a chloddiau y prif fath o ffin. Mae'r cloddiau ar yr ucheldir uchaf mewn cyflwr gwael ac mae llawer wedi diflannu neu wedi dymchwel. Ar y lefelau isaf tueddant i fod wedi tyfu'n wyllt neu wedi eu cynnal a'u cadw'n dda. Mae ffensys gwifren yn atgyfnerthu'r cloddiau. Rhydd y coed hyn ynghyd ‚'r coetiroedd o goed collddail hynafol ar ochrau'r dyffryn isaf, a darnau o brysgwydd drain duon a drain gwynion ar ffiniau'r gweundir, olwg goediog i'r dirwedd. Y defnydd tir amaethyddol yn bennaf yw tir pori wedi'i wella ond ceir darnau sylweddol o dir garw brwynog ar y llethrau sy'n wynebu'r gogledd tuag at ffin orllewinol yr ardal. Y patrwm anheddiad yw ffermydd gwasgaredig. Lleolir y ffermydd ar ochr ddeheuol y dyffryn yn uchel ar lethrau sy'n wynebu'r gogledd a chynhwysant ffermdai deulawr mawr a godwyd o gerrig yn dyddio o'r 17eg i'r 19eg ganrif, wedi eu codi gyda rhywfaint o ystyriaeth bensaernÔol. Mae'r adeiladau o gerrig ar y ffermydd hyn, yn cynnwys Blaensawdde a Gorsddu yn debyg o ran eu sylwedd, ac wedi eu lleoli mewn lled-drefniant mewn perthynas ‚'r tý . Mae i'r ffermydd hyn resi mawr o adeiladau amaethyddol modern. Tuedda'r ffermdai ar ochr ogleddol yr afon, yn cynnwys Cwmsawdde, fod wedi'u lleoli yn is i lawr y dyffryn ac maent yn gyffredinol yn fwy cymedrol, yn cynnwys tai deulawr o'r 19eg ganrif yn y traddodiad brodorol, gyda thai allan wedi eu codi o gerrig, wedi eu clymu yn un rhes.

Cyfyngir yr archeoleg a gofnodir i anheddau a bythynnod.

Ceir canran uchel o adeiladau nodedig i ardal mor fechan, rhai ohonynt ag elfennau cynnar. Mae Blaensawdde yn o'r 17eg ganrif, gyda hanes datblygu cymhleth, o res dwy uned draddodiadol i gynllun ar ffurf croes; mae peth o'r tu mewn mirain yn para o hyd, yn cynnwys palis post a phared tra bod yr adeiladau ffarm yn cynnwys rhes ysgubor a beudy dyddiedig 1834. Adeilad o ddechrau'r 17eg ganrif yw Gorsddu a chafodd ei newid yn nechrau'r 19eg ganrif, ac mae'n cynnwys tý a thai allan mewn llinell o dan yr un to. Mae Cwmsawdde yn ffermdy brodorol o'r 19eg ganrif gynnar yn cynnwys ysgubor, beudy a stabl. Yn ychwanegol, ceir dwy gorlan. I'r de, dwyrain a'r gogledd, mae gweundir agored y Mynydd Du yn ymyl glir i'r ardal hon.

I'r gorllewin, ar hyd dyffryn afon Sawdde, ni cheir ffin ag ymyl galed ac mae'r ardal hon yn ymdoddi i'r gymdogaeth nesaf ati.

 

 

 

 

[cliciwch am rhestr y pynciau os nad yw'n bresennol]