Cartref > Tirweddau Hanesyddol > Y Mynydd Du a Mynydd Myddfai >

228 CILGWYN - LLWYNWORMWOOD

CYFEIRNOD GRID: SN 754308
ARWYNEB MEWN HECTARAU: 1288.00

Cefndir Hanesyddol
Ardal a leolir i'r de-ddwyrain o afon Tywi ac a orweddai gynt o fewn Cantref Bychan yr ymosodwyd arno gan yr Eingl Normaniaid o dan arweiniad Richard Fitz Pons, gw^ r a sefydlodd caput yn Llanymddyfri yn 1110-16 (Rees n.d.). Yn fuan daeth i feddiant yr arglwyddi Clifford o Aberhonddu fel Arglwyddiaeth Llanymddyfri ond goroesodd arferion tenantiaeth cynhenid yno hyd ddiwedd y cyfnod Canoloesol pan y'i hymgorfforwyd yn y Sir Gaerfyrddin fodern. Rhennid yr ardal rhwng dau gwmwd, Hirfryn i'r gogledd a Pherfedd, yn benodol Maenor Myddfai (a phlwyf Myddfai), i'r de. Efallai fod yr olaf hwn yn cael ei weinyddu o Fyddfai ei hun ond sefydlasid Plas Cilgwyn erbyn yr 16eg ganrif (Jones 1987, 30), ac mae'r felin gerllaw wedi ei nodi gan Rees ar ei fap o Dde Cymru yn y 14eg ganrif (Rees 1932). A hwythau yn berchen ar 3820 erw ym mhlwyf Myddfai ym 1873, y Gwynne-Holfords, preswylwyr Plas Cilgwyn, oedd prif deulu'r plwyf. Dywedir i Lasallt, ail dy^ bonedd gerllaw, fod yn gartref i'r teulu Owen ers 1508 (Jones 1987, 80). Roedd Llwynwormwood, yn rhan ogleddol yr ardal, sydd bellach wedi diflannu, yn dy^ bonedd mwy diweddar yn dyddio o'r 18fed ganrif a bu'n gartref i'r teulu Williams, hefyd o Ddolgarreg, ac ail deulu plwyf Myddfai (Jones 1987, 122). Hefyd gorwedd ardal fechan o dir caedig o gwmpas Glansefin, ar ochr ddeheuol yr ardal, a fuasai'n gartref i'r teulu Lloyd ers yr 16eg ganrif ac yr aseswyd bod ganddo 8 aelwyd ym 1670 (Jones 1987, 78); mae yn awr yn westy. Dengys y dirwedd o fewn yr ardal batrwm amrywiol o glostiroedd; mae'r rhai i'r de yn afreolaidd ac efallai iddynt fod wedi eu sefydlu erbyn y cyfnod l-ganoloesol cynnar, tra bod y rhai i'r gogledd yn fwy rheolaidd ac o ddyddiad diweddarach fwy na thebyg. Crwyd tirwedd eang o glostiroedd o amgylch Cilgwyn a Llwynwormwood yn y 18fed a'r 19eg ganrif a phlannwyd llawer o goed. Cynrychiolir gweithgaredd cloddio ar raddfa fechan gan Allt Rhydings a Paradise Lod, siafftau bychain copr/plwm yng ngogledd yr ardal a siafft blwm/sinc yn ne yr ardal. Ychydig o ddatblygu a fu'n ddiweddar.

Map a atgynhyrchwyd o fap yr OS gyda chaniatad yr Arolwg Ordnans ar ran Rheolwr Llyfrfa Ei Mawrhydi, Hawlfraint y Goron 2001. Cedwir pob hawl. Byddai ei atgynhyrchu heb ganiatad yn torri Hawlfraint y Goron a gall hynny arwain at erlyniad neu achos sifil. Rhif y drwydded: GD272221

Disgrifiad a hanfodion hanesyddol y dirwedd
Gorwedd ardal gymeriad Cilgwyn-Llwynwormwood ar draws cefnen lydan fryniog ac iddi ogwydd de-orllewin gogledd-ddwyrain ar ochr ddeheuol dyffryn afon Tywi rhwng Llanymddyfri a Llangadog. Cyfyd y gwrym o lawr y dyffryn sydd tua 60m i gyrraedd uchder o dros 180 m. Mae'r ardal yn goediog iawn. Mae'n cynnwys gelltydd o goed collddail ar lethrau serth y dyffryn a phlanhigfeydd o goed conifferaidd o'r 20fed ganrif rhyngddynt ac oddi tanynt. Ceir hefyd blanhigfeydd coniffer sylweddol ar frig y gefnen. Er bod peth o'r coetir collddail yn hynafol fwy na thebyg, yn enwedig ar y llethrau mwyaf serth, mae llawer yn edrych fel planhigfeydd o'r 18fed a'r 19eg ganrif sy'n rhan o dirwedd yr ystad. Mae llawer o ystadau mawr neu gyn ystadau yn yr ardal. Mae plasdy Cilgwyn, un o'r mwyaf, yn dal i sefyll ynghyd ag amrywiol nodweddion gardd adfeiliedig cysylltiedig, ond mae'r prif dy arall yn yr ardal, sef Llwynwormwood, bellach yn adfail. Mae Dolgarreg a Chwm-Rhuddan, dau dy bonedd o bwys ar brydles o faint yn sefyll o hyd. Y tu allan i'r ardal goediog y prif ddefnydd tir yw tir pori. Rhannwyd y tir yn gaeau mawr a lled rheolaidd ar y lefelau uwch, ac yn gaeau llai a mwy afreoaidd ar y lefelau is. Gwrychoedd a chloddiau yw'r ffiniau i'r caeau ond, ac eithrio ar hyd ymyl y ffyrdd a'r llwybrau, mae'r gwrychoedd mewn cyflwr gwael iawn yn enwedig ar y mannau uchaf, ac maent naill ai wedi tyfu'n wyllt neu wedi dymchwel. Ffensys gwifren yw'r rhan fwyaf o'r ffensys terfyn i gadw da byw rhag crwydro. Mae llawer o goed nodedig yn y gwrychoedd ac mae coed unigol a chlystyrau bychain yn bresennol ar draws llawer o'r ardal. Mae yna barcdir o hyd yng Nghwm Rhuddan, ond y mae'r ardal i gyd bron wedi'i thirweddu gan yr ystadau yn y 18fed a'r 19eg ganrif. Ar wahn i'r prif dai, patrwm yr anheddiad yw ffermydd gwasgaredig ac anheddau eraill. Mae'r ffermdai yn sylweddol, wedi eu codi o gerrig, yn dyddio'n gyffredinol o'r 19eg ganrif a chanddynt ystod eang o dai allan o gerrig yn adlewyrchu rheolaeth ystad. Mae gan y rhan fwyaf o'r ffermydd adeiladau amaethyddol modern. Bythynnod neu dai o'r 19eg ganrif yw'r adeiladau eraill gan amlaf yn yr arddull frodorol, gyda rhai adeiladau o'r 20fed ganrif.

Mae archeoleg a gofnodir yn cynnwys caer fryniog bosibl, tair cloddfa fetel, nodweddion ystad a pharcdir, a sawl l-cnwd/cloddwaith/nodwedd ffurf.

Ceir llawer o adeiladau nodedig. O blith y rhain mae ty Cilgwyn o'r 18fed ganrif ac un o borthordai parc Llwynwormwood, o'r 18fed a'r 19eg ganrif, sydd mewn arddull 'ystad' Gothig bictiwrsg, yn adeiladau rhestredig Gradd II. Mae Glansefin, sy'n dyddio o'r 18fed a'r 19fed ganrif gyda'i nodweddion clasurol yn adeilad rhestredig Gradd II.

Nodweddir yr ardal hon gan blastai, parcdir a choedwigoedd sy'n ei gwahaniaethu oddi wrth yr ardaloedd cyfagos o ffermydd a chaeau bychain.

 

 

 

 

[cliciwch am rhestr y pynciau os nad yw'n bresennol]