Cartref > Tirweddau Hanesyddol > Y Mynydd Du a Mynydd Myddfai >

230 PLANHIGFA PEN-ARTHUR

CYFEIRNOD GRID:SN 717241
ARWYNEBEDD MEWN HECTARAU 281.10

Cefndir Hanesyddol
Ardal gymeriad fechan ar lethr ogledd-orllewinol y Mynydd Du yn nyffryn afon Sawdde . Roedd ar un adeg yn rhan o Gwmwd Pentref o fewn Cantref Bychan yr ymosodwyd arno gan yr Eingl Normaniaid o dan arweiniad Richard Fitz Pons, a sefydlodd caput yn Llanymddyfri ym 1110-16 (Rees n.d.). Yn fuan daeth i feddiant yr arglwyddi Clifford o Aberhonddu fel Arglwyddiaeth Llanymddyfri ond goroesodd arferion tenantiaeth cynhenid yno hyd ddiwedd y cyfnod Canoloesol pan y'i hymgorfforwyd yn y Sir Gaerfyrddin fodern. Gorweddai'r ardal yn is-adran bellach Maenor Gwynfe ac o fewn plwyf eglwysig Llangadog. Mae'r clostiroedd afreolaidd canolig eu maint yn gwrthgyferbynnu 'r clostiroeddd rheolaidd mwy eu maint i'r gorllewin - sy'n glostiroedd o gyn-diroedd comin o'r 19eg ganrif - ac maent yn fwy na thebyg yn gynharach, efallai'n l-ganoloesol. Mae dwy fferm, Pen Arthur a Phen Arthur Isaf, is-adran o ddaliad mwy gydag enw diddorol, wedi eu cynnwys yn yr ardal. Yn ychwanegol ceir dau enw lle Llety; mae dyffryn dwfn Afon Sawdde yn llwybr cyswllt naturiol ac roedd yr A4069 yn ffordd porthmyn o bwys o'r cyfnod l-ganoloesol. Sefydlwyd pownd neu gorlan efallai o amgylch y bont ar afon Sawdde ym Mhont-ar-llechau, a ddaeth yn lle o gryn bwysigrwydd ac yn lleoliad pentreflys (cwrt lt) Myddfai o bryd i'w gilydd. (James n.d.,87). Daeth y ffordd yn ffordd Dyrpeg o 1779 (Lewis 1971,43) gan hybu anheddiad masnachol pellach ym Mhont-ar-llechau gyda sefydlu dau d-tafarn (caewyd y ddau bellach), chwarel lechi a chyn ffatri wln. Roedd ail ffatri wln yn sefyll gynt ar ben gorllewinol yr ardal yng Nglandr. Ni fu datblygu diweddar ac mae'r ardal gyfan o dan goed planhigfeydd conifferaidd yr 20fed ganrif ddiweddar.

Map a atgynhyrchwyd o fap yr OS gyda chaniatad yr Arolwg Ordnans ar ran Rheolwr Llyfrfa Ei Mawrhydi, Hawlfraint y Goron 2001. Cedwir pob hawl. Byddai ei atgynhyrchu heb ganiatad yn torri Hawlfraint y Goron a gall hynny arwain at erlyniad neu achos sifil. Rhif y drwydded: GD272221

Disgrifiad a hanfodion hanesyddol y dirwedd
Mae planhigfa Pen-Arthur yn ymestyn dros ochr ddwyreiniol y grib sy'n codi i uchderau o dros 300m a gorchuddia ochrau serth dyffryn afon Sawdde. Cyn y planhigfeydd ceid sawl anheddiad gwasgaredig ac roedd yr ardal yn ei chyfanrwydd wedi ei chlostiro yn glostiroedd canolig i fawr eu maint. Mae cloddiau pridd a charreg y clostiroedd hyn wedi goroesi o dan y planhigfeydd . Dengys tystiolaeth mapiau bod sawl annedd wedi goroesi mewn llennyrch bychain yn y coedwigoedd - nid archwiliwyd y rhain yn yr astudiaeth hon. Mae'r A4069 y ffordd dyrpeg gynt yn dilyn dyffryn afon Sawdde ac felly aiff drwy'r ardal hon. Ar wahn i'r elfennau tirwedd cynnar hyn, mae'r rhan fwyaf o'r elfennau hanesyddol yn cynnwys llwybrau a lonydd a nodweddion eraill sy'n gysylltiedig choedwigaeth.

Darpara'r archeoleg a gofnodwyd y dirwedd haneslin sy'n cynnwys bedd siambr bedd Neolithig bosibl a chaer fynydd o'r Oes Haearn, yn ychwanegol at y safleoedd ffatroedd gwln l-ganoloesol a'r chwareli llechi.

Nid oes adeiladau nodedig ond haedda'r cyn dai tafarn, y Three Horseshoes a'r Coopers Arms ym Mhont-ar-llechau, sy'n gyfochrog chyn dollborth y dyrpeg, y bont, pownd (a chorlan?) gael eu nodi am eu gwerth hanesyddol.

Mae'r ardal goedwigaeth hon wedi ei diffinio'n dda gan y tir amaethyddol caedig cyffiniol a chan dir uchel lled agored.

 

 

 

 

[cliciwch am rhestr y pynciau os nad yw'n bresennol]