Cartref > Tirweddau Hanesyddol > Y Mynydd Du a Mynydd Myddfai >

231 TRICHRUG

CYFEIRNOD GRID: SN 679222
ARWYNEBEDD MEWN HECTARAU: 786.10

Cefndir Hanesyddol
Crib de-orllewinol i ogledd-ddwyreiniol ar ochr dde-ddwyreiniol dyffryn afon Tywi. Yn ystod y cyfnod hanesyddol gorweddai'r ardal o fewn Cantref Bychan, a rennid rhwng dau gwmwd. Gorweddai hanner gorllewinol yr ardal o fewn i gwmwd Iscennen, yn benodol o fewn Maenor Llys. Parhaodd Iscennen mewn enw yn annibynnol ar yr Eingl Normaniaid hyd 1284 pan gafodd ei feddiannu gan John Giffard ac ym 1340 daeth yn rhan o Ddugaeth Gaerhirfryn (Rees 1953, xv-xvi). Ymosodwyd ar weddill Cantref Bychan, yn cynnwys Cwmwd Perfedd y gorweddai gweddill yr ardal hon o'i fewn gan yr Eingl Normaniaid o dan arweinyddiaeth Richard Fitz Pons, a sefydlodd caput yn Llanymddyfri ym 1110-16 (Rees n.d.), ac yn fuan wedyn daeth i feddiant yr arglwyddi Clifford o Aberhonddu fel Arglwyddiaeth Llanymddyfri. Fodd bynnag bu sawl cyfnod o deyrnasiad Cymreig a goroesodd arferion tenantiaeth cynhenid yno hyd ddiwedd y cyfnod Canoloesol pan gafodd y'i hymgorfforwyd yn y Sir Gaerfyrddin fodern. Dynodir y ffin rhwng y ddwy ardal o hyd gan gyffordd 'T' ar y llwybr sy'n dilyn meingefn y grib yn yr hanner gorllewinol a ddangosir fel llwybr gan Rees ar ei fap o dde Cymru yn y 14eg ganrif (Rees 1932). Mae map Rees hefyd yn rhoi'r label 'Brenyae Forest' ar yr ardal hon, ac yn wir ymddengys fod yr ardal, fwy na thebyg, yn dir heb ei gau yn ystod y cyfnod Canoloesol ac wedi hynny. Roedd y patrwm o glostiroedd rheolaidd mawr ffiniau syth yn bodoli erbyn 1839 (Map Degwm Llanagadog) ond, fwy na thebyg, wedi ei sefydlu'n ddiweddar; awgryma ei morffoleg fod yr hyn a fu'n weundir gynt wedi'i rannu'n gaeau yn fwy diweddar. Digwyddasai peth is-rannu erbyn 1891 (Archwiliad Ordnans 6" Argraffiad Cyntaf). Dominyddir yr ardal gan ei harcheoleg gynhanes a oroesodd sy'n darparu haen ar l haen o hanes. Mae'r safleoedd yn cynnwys grp o domennydd crwn o'r Oes Efydd a bryngaer o bosib o'r Oes Haearn. Mae'r tir uchel o fewn yr ardal wedi ei dolcio chyn chwareli, hwyrach rhai l-ganoloesol. Ychydig o ddatblygu a fu'n ddiweddar.

Map a atgynhyrchwyd o fap yr OS gyda chaniatad yr Arolwg Ordnans ar ran Rheolwr Llyfrfa Ei Mawrhydi, Hawlfraint y Goron 2001. Cedwir pob hawl. Byddai ei atgynhyrchu heb ganiatad yn torri Hawlfraint y Goron a gall hynny arwain at erlyniad neu achos sifil. Rhif y drwydded: GD272221

Disgrifiad a hanfodion hanesyddol y dirwedd
Mae ardal gymeriad Trichrug yn gorwedd ar draws cefnen gogwydd de-orllewinol gogledd-ddwyreiniol. Ar ochrau'r gefnen mae'r ardal hon yn disgyn i tua 200m, mae'r pegwn uchaf yn cyrraedd uchder o dros 400m. Mae crib y gefnen yn codi o ychydig dros 200m yn y de-orllewin i'r pwynt uchaf yn y pen gogledd-ddwyreiniol. Rhannwyd y gefnen gyfan yn glostiroedd rheolaidd canolig a mawr eu maint, ond ar draws llawer o grib y gefnen, ar y pegwn uchaf yn sicr, mae'r rhain wedi dymchwel, ond ar yr ochrau maent yn goroesi er eu bod mewn cyflwr dirywiedig iawn. Mae ffiniau amrywiol i'r caeau, yn gloddiau pridd a gwrychoedd, cloddiau caregog gwrychoedd weithiau a waliau cerrig sych. Ar grib y gefnen mae'r gwrychoedd naill ai wedi diflannu neu wedi dymchwel, ond mewn mannau eraill maent mewn cyflwr gwell ond yn gyffredinol maent wedi tyfu'n wyllt. Mae bron pob un o'r waliau cerrig wedi dymchwel. Ffensys gwifren yw'r ffensys terfyn i gadw da byw rhag crwydro. Ar y pwynt uchaf mae'r gefnen yn ei hanfod yn cynnwys ardal fechan o weundir sydd heb ei rannu'n gaeau. Mewn mannau eraill tir pori garw a thir pori sydd wedi ei wella yw'r prif ddefnydd tir, er bod sawl planhigfa goniffer ganolig eu maint hefyd i'w cael yno. Mae olion niferoedd o chwareli bach ar hyd y gefnen yn cynnwys elfennau tirwedd pwysig. Mae twmpathau claddu o'r Oes Efydd hefyd yn nodweddion amlwg o'r dirwedd. Ychydig o anheddu cyfoes sydd yn yr ardal gymeriad hon.

Mae'r archeoleg a gofnodwyd yn gyfoethog a phwysig, yn cynnwys man darganfod Neolithig neu Oes Efydd, grwp o domennydd crwn o'r Oes Efydd ac, ar ymyl yr ardal, maen hir o'r Oes Efydd. Ceir hefyd fan darganfod o'r Oes Haearn neu Rufeinig, caer bosibl o'r Oes Haearn, chwareli l-ganoloesol a chlostiroedd anhysbys.

Ychydig o adeiladau a geir ac nid oes yr un ohonynt yn nodedig.

Mae hon yn ardal glir iawn oherwydd ei huchder cymharol. Er hynny, nid yw ei ffiniau yn bendant gan fod clostiroedd mawr y gefnen yn ymdoddi i gaeau llai a chyfoethocach y tir amaeth cyffiniol. I'r dwyrain ceir ffin glir lle y mae'r ardal hon yn ffinio thir coedwigaeth.

 

 

 

 

[cliciwch am rhestr y pynciau os nad yw'n bresennol]