Cartref > Tirweddau Hanesyddol > Y Mynydd Du a Mynydd Myddfai >

234 CEFNTELYCH

CYFEIRNOD GRID: SN 799322
ARWYNEB MEWN HECTARAU: 257.90

Cefndir Hanesyddol
Ardal fechan ar gyrion gorllewinol Bannau Brycheiniog, gynt o fewn i Faenor Myddfai, Cwmwd Perfedd, yn y cyn Gantref Bychan, yr ymosodwyd arno gan yr Eingl-Normaniaid o dan Richard Fitz Pons a sefydlodd caput yn Llanymddyfri ym 1110 - 16 (Rees n.d.). Yn fuan faeth i feddiant yr arglwyddi Clifford o Aberhonddu fel Arglwyddiaeth Llanymddyfri ond dychwelodd o dan reolaeth Gymreig hyd 1282 pan y'i meddiannwyd gan John Giffard (James n.d., 87). Goroesodd arferion tirddaliadaeth cynhenid hyd ddiwedd y cyfnod Canoloesol pan y'i hymgorfforwyd yn y Sir Gaerfyrddin fodern . Daliwyd yr arglwyddiaeth yn ddiweddarach gan deulu Audley, ac yn y cyfnod l-ganoloesol gan Fychaniaid Gelli Aur a Ieirll Cawdor (James n.d.,87). Mae cefnen Cefntelych bellach wedi ei chau chaeau cymharol reolaidd mawr a sefydlwyd erbyn 1840 (Map Degwm Myddfai). Gallant fod yn hwyrach yn y cyfnod l-ganoloesol, yn hytrach nag yn gynharach, a gall fod y gefnen heb ei chau am lawer o'r cyfnod hanesyddol. Caiff ei chroesi gan ffordd Rufeinig a ddilynai lwybr yr ucheldir o Lanymddyfri (Alabum) i Aberhonddu (Cicutio). Mae'r ardal (yn cynnwys ardal gyfagos 240), o ganlyniad i'r ffordd yn arddangos nifer o safleoedd milwrol Rhufeinig (James1982,9), megis y gwersyll gorymdeithio a'r gwersyll ymarfer yn Allt-yr-hafod-fawr. Ni fu datblygu wedi hynny o fewn i'r ardal gymeriad ar wahn i un daliad bach anffurfiol.

Map a atgynhyrchwyd o fap yr OS gyda chaniatad yr Arolwg Ordnans ar ran Rheolwr Llyfrfa Ei Mawrhydi, Hawlfraint y Goron 2001. Cedwir pob hawl. Byddai ei atgynhyrchu heb ganiatad yn torri Hawlfraint y Goron a gall hynny arwain at erlyniad neu achos sifil. Rhif y drwydded: GD272221

Disgrifiad a hanfodion hanesyddol y dirwedd
Mae'r ardal gymeriad gymharol fechan hon yn cynnwys cefnen gogledd-orllewiniol a de-ddwyreiniol rhwng 180m a 270m. Ar wahn i un fferm fechan gyda ffermdy o'r 19eg ganrif yn y traddodiad brodorol a rhes fach o dai allan, nid oes aneddiadau yn yr ardal. Mae ln syth - sydd ar gwrs ffordd Rufeinig - yn rhedeg ar hyd y gefnen. Yn ei hanfod mae hon yn dirwedd caeau rheolaidd canolig i fawr o ran eu maint a rennir gan gloddiau pridd a gwrychoedd arnynt. Ar wahn i ffyrdd cyffiniol a llwybrau, mae'r cloddiau mewn cyflwr gwael ac maent naill ai wedi dymchwel neu wedi tyfu'n wyllt. Ychydig o goed nodedig sydd i'w gweld yn y gwrychoedd ac mae'r ffactor hwn ynghyd diffyg tir coediog a'r cloddiau sydd wedi dymchwel yn rhoi golwg agored i'r dirwedd. Y defnydd tir bron yn gyfan gwbl yw tir pori a gafodd ei wella.

Dominyddir yr archeoleg gan y ffordd Rufeinig, y gwersyll ymarfer a'r gwersyll gorymdeithio sydd wedi goroesi fel cloddweithiau pridd ac sy'n rhoi haen ar l haen o hanes i'r dirwedd.

Ceir hefyd garreg arysgrifedig bosibl. Ychydig o adeiladau sydd yn yr ardal ac nid oes un sy'n nodedig.

Mae'r ardal gymeriad i'r gorllewin, yn rhannu llawer o hanfodion hanesyddol yr ardal hon sy'n llain o newid graddol yn hytrach na'n forder ymyl galed. Yn y mannau eraill i'r de a'r gorllewin mae'r wedd goediog drom a chaeau llai yr ardal gyfagos yn ffin weddol glir. Gorwedd planhigfa goniffer i'r dwyrain.

 

 

 

 

 

[cliciwch am rhestr y pynciau os nad yw'n bresennol]