Cartref > Tirweddau Hanesyddol > Y Mynydd Du a Mynydd Myddfai >

235 MAES-GWASTAD

CYFEIRNOD GRID: SN 727290
ARWYNEB MEWN HECTARAU: 311.40

Cefndir Hanesyddol
Ardal i dde ddwyrain afon Tywi a fu unwaith yn rhan o gwmwd Perfedd, Cantref Bychan, yr ymosodwyd arno gan yr Eingl?Normaniaid yn dynesu o'r dwyrain o dan Richard Fitz Pons a sefydlodd caput yn Llanymddyfri ym 1110 -16 (Rees n.d.). Yn fuan wedyn daeth i feddiant yr arglwyddi Clifford o Aberhonddu fel Arglwyddiaeth Llanymddyfri. Fodd bynnag bu sawl pennod o reolaeth Gymreig a goroesodd arferion tirddaliadaeth cynhenid yno hyd ddiwedd y cyfnod Canoloesol pan y'i hymgorfforwyd yn y Sir Gaerfyrddin fodern. Roedd y rhan fwyaf o'r ardal hon yn rhan o patria Llangadog a gymerwyd gan esgob Tyddewi yn niwedd y 13eg ganrif (Rees 1932). Awgrymir anheddiad, a rhannu tir ffurfiol, Canoloesol gan dystiolaeth yr enwau lleoedd mewn ardaloedd eraill a orweddai oddi fewn i'r patria (ee. Ardal 207), ac yn yr un modd mae'r enwau yn Ardal 235 yn awgrymu presenoldeb darnau caeau agored blaenorol, a berthynai efallai i fwrdeisdref Llangadog a oedd yn dechrau datblygu (Ardal 206), ac mae'n ymddangos bod llain o haenau tir caedig felly yn gorwedd ar ben gogleddol yr ardal. Mae'r castell mwnt a beili yng Nghastell Meurig 1.5 km i'r de ddwyrain o Langadog yn ymddangos fel pe bai yn perthyn i gymal cyntaf cynnar yr ymgyrch Eingl Normanaidd. Fe'i cipiwyd chatapyltiau a ffyn tafl gan y Tywysog Maelgwn ap Rhys ym 1203 (Jones 1952, 82), ac ar l hynny efallai iddo fynd yn wag; o leiaf, nid yw'n ymddangos ei fod wedi dylanwadu ar unrhyw anheddiad diweddarach. Dominyddwyd hanes l-ganoloesol yr ardal, cyfnod pryd y daliwyd Arglwyddiaeth Llanymddyfri gan Fychaniaid Gelli Aur ac yn ddiweddarach Ieirll Cawdor (James n.d.,87) gan dy bonedd Glansefin, a fu'n gartref i'r teulu Lloyd ers yr 16eg ganrif ac fe'i haseswyd yn dy 8 aelwyd yn 1670 (Jones 1987,78). Safai'r annedd ei hun, sydd yn awr yn westy, yn Ardal 228 ond mae ffarm y plas a'r felin yn yr ardal gymeriad hon. Cyfeirir at Glansefin Isaf ychydig i'r gogledd ym 1634 pan gafodd ei forgeisio am 100 i ddod yn rhan o ystad Dirleton yn Ardal 201 (ibid.). Mae'r A4069 rhwng Llangadog a Llanymddyfri sy'n ffurfio ymyl gogledd orllewinol yr ardal gymeriad yn dilyn llinell y ffordd dyrpeg a ddechreuwyd ym 1779 (Lewis 1971,43). Ychydig iawn o ddatblygu a fu'n ddiweddar; cododd pentref cnewyllol bychan o amgylch Sardis capel Anghydffurfiol o'r 19eg ganrif, oddi ar y prif lwybr, tra bod cornel gogledd-orllewinol yr ardal lle y mae'n mynd i mewn i Langadog (Ardal 206), wedi datblygu rhywfaint yn yr 20fed ganrif.

Map a atgynhyrchwyd o fap yr OS gyda chaniatad yr Arolwg Ordnans ar ran Rheolwr Llyfrfa Ei Mawrhydi, Hawlfraint y Goron 2001. Cedwir pob hawl. Byddai ei atgynhyrchu heb ganiatad yn torri Hawlfraint y Goron a gall hynny arwain at erlyniad neu achos sifil. Rhif y drwydded: GD272221

Disgrifiad a hanfodion hanesyddol y dirwedd
Mae ardal gymeriad Maes-gwastad yn llanw llawr dyffryn eang Afon Brn i'r dwyrain o Langadog. Mae'n gymharol wastad ac mae'n gorwedd rhwng 60 m a 80 m uwchlaw lefel y mr. Yn ei hanfod tirwedd o dir pori wedi ei wella a ffermydd gwasgaredig ydyw. Mae'r caeau'n ganolig i fawr o ran eu maint ac amrywiant o'r cymharol reolaidd i'r afreolaidd. Mae rhai ar ffurf stribedi, gan awgrymu system o gaeau agored. Mae'r ffiniau yn gyffredinol yn gloddiau pridd a gwrychoedd arnynt. Mae'r cloddiau wedi eu cynnal a'u cadw'n dda iawn. Mae gan yr ardal olwg agored oherwydd mai ychydig o goed a geir yn y gwrychoedd ac ychydig o goedwigoedd. Mae'r A4069 yn gyn ffordd dyrpeg; mae'r ffyrdd eraill yn lonydd a llwybrau lleol. Ffermydd gwasgaredig yw patrwm yr anheddiad. Ffermdai yn dyddio o'r 19eg ganrif, adeiladau deulawr thri bae ydynt, o gerrig, gydag enghreifftiau o'r traddodiad brodorol ynghyd 'r arddull Sioraidd mwy bonheddig. Mae'r tai allan o'r 19eg ganrif sy'n gysylltiedig 'r ffermydd yn rhai sylweddol, fel y mae'r adeiladau amaethyddol modern.

Dominyddir yr archeoleg a gofnodwyd gan briddwaith rhestredig castell mwnt a beili enfawr Castell Meurig a gadwyd mewn cyflwr da. Cafwyd hefyd ddarganfyddiadau o'r Oes Haearn a Rhufeinig, y caeau agored Canoloesol a gaewyd, a dau briddwaith anhysbys.

Ceir rhai adeiladau nodedig, ond nid oes yr un wedi ei restru, yn cynnwys Pont Glansefin, fferm y plasdy a'r felin, Glansefin Isaf, Ysgol Sul, a rhagor o felinau a phontydd.

Nid yw hon yn ardal hawdd i'w diffinio, gan fod yr ardaloedd cymeriad eraill sy'n ffinio hi'n meddu ar nodweddion tebyg. Fodd bynnag, mae'r tir mwy coediog a'r caeau llai o faint yn yr ardaloedd sy'n ffinio yn gyffredinol yn darparu digon o wahaniaethau i gael ffin gymharol glir a phendant i'r ardal hon.

 

 

 

 

[cliciwch am rhestr y pynciau os nad yw'n bresennol]