Cartref > Tirweddau Hanesyddol > Y Mynydd Du a Mynydd Myddfai >

236 PENTREGRONW

CYFEIRNOD GRID: SN 790279
ARWYNEB MEWN HECTARAU: 36.42

Cefndir Hanesyddol
Ardal gymeriad fechan ar lethr de?orllewinol Mynydd Myddfai, yn gorwedd o fewn Maenor Myddfai, Cwmwd Perfedd, Cantref Bychan gynt, yr ymosodwyd arnynt gan yr Eingl-Normaniaid o dan arweiniad Richard Fitz Pons a sefydlodd caput yn Llanymddyfri ym 1110-16 (Rees n.d.). Dychwelodd o dan reolaeth Gymreig yn ddiweddarach, ond o 1282 ymlaen arhosodd Arglwyddiaeth Llanymddyfri yn nwylo'r Saeson, er i arferion tirddaliadaeth cynhenid oroesi hyd ddiwedd y cyfnod Canoloesol pan y'i hymgorfforwyd yn y Sir Gaerfyrddin fodern. Fe'i daliwyd yn y cyfnod l-ganoloesol gan Fychaniaid Gelli Aur a Ieirll Cawdor (James n.d., 87). Mae'r ardal gymeriad hon yn ardal fechan o dir caedig sy'n ffurfio poced yn ymwthio i weundir Mynydd Myddfai, nas caewyd fel arall, ac mae'n cynnwys 28 o gaeau bychain afreolaidd o amgylch tyddyn bychan Pentregronw, a farciwyd ac a labelwyd ar fapiau o ddechrau'r 19eg ganrif. Mae ffurf y clostiroedd yn awgrymu gorgyffyrddiad Canoloesol diweddar neu l-ganoloesol i'r gweundir agored.

 

Map a atgynhyrchwyd o fap yr OS gyda chaniatad yr Arolwg Ordnans ar ran Rheolwr Llyfrfa Ei Mawrhydi, Hawlfraint y Goron 2001. Cedwir pob hawl. Byddai ei atgynhyrchu heb ganiatad yn torri Hawlfraint y Goron a gall hynny arwain at erlyniad neu achos sifil. Rhif y drwydded: GD272221

Disgrifiad a hanfodion hanesyddol y dirwedd
Gorwedd yr ardal gymeriad fechan hon ar lethr serth iawn sy'n wynebu'r de-orllewin rhwng 220m a 340m o uchder ar ymyl Mynydd Myddfai. Caewyd yr ardal yn gaeau bychain lled reolaidd gan gyfuniad o waliau cerrig, cloddiau pridd a chloddiau caregog. Arferai'r gwrychoedd dyfu ar y cloddiau, ond mae'r rhain bellach naill ai wedi syrthio neu wedi tyfu'n wyllt. Mae'r waliau cerrig mewn cyflwr adfeiliedig. Ceir tir pori wedi ei wella ar y llethrau is, llai serth, ar y pen gogledd-orllewinol a wnaed yn ddiddos i gadw da byw rhag crwydro ffensys gwifrau. Yn y mannau eraill mae'r ffiniau wedi'u dymchwel ac mae'r tir yn dychwelyd i fod yn weundir. Saif Pentregronw, ffermdy gwag sengl, ar y llethrau is.

Mae'r archeoleg a gofnodwyd wedi ei chyfyngu i Bentregronw, y ffermdy bychan a godwyd cherrig sydd yn fwy na thebyg yn dyddio o 19eg ganrif, a chyn fwthyn cyfagos, heb i'r un ohonynt fod yn adeilad nodedig.

Mae hon yn ardal a ddiffiniwyd yn dda gan ei bod wedi ei hamgylchynu ar dair ochr gan weundir agored y Mynydd Du, ac ar y bedwaredd ochr, gan hen ffermydd a chaeau a sefydlwyd ers amser.

 

 

 

 

 

[cliciwch am rhestr y pynciau os nad yw'n bresennol]