Cartref > Tirweddau Hanesyddol > Y Mynydd Du a Mynydd Myddfai >

237 ALLT Y FERDRE

CYFEIRNOD GRID: SN 798335
ARWYNEB MEWN HECTARAU: 339.00

Cefndir Hanesyddol
Ardal eithafol afreolaidd o ran ei chynllun, sy'n cynnwys y llethrau coediog sy'n ffurfio asgell ddeheuol Afon Gwydderig. Unwaith gorweddai o fewn cwmwd Hirfryn, Cantref Bychan, yr ymosodwyd arno gan yr Eingl-Normaniaid o dan Richard Fitz Pons a sefydlodd caput yn Llanymddyfri ym 1110-16 (Rees n.d.), er iddi ddychwelyd o dan reolaeth Gymreig yn ddiweddarach. O 1282 ymlaen arhosodd Arglwyddiaeth Llanymddyfri o dan reolaeth Seisnig ond goroesodd arferion tirddeiliadaeth cynhenid hyd ddiwedd y cyfnod Canoloesol pan y'i hymgorfforwyd yn y Sir Gaerfyrddin fodern . Yn ystod y cyfnod l-ganoloesol fe'i daliwyd gan Fychaniaid Gelli Aur a Ieirll Cawdor (James n.d., 87). Ceir ynddi fryngaer o'r Oes Haearn a gall ei fod wedi gosod rhyw ymdeimlad o bwysigrwydd parhaus i'r ardal. Awgryma'r enw lle Ferdre y gallai'r ardal fod wedi bod yn rhan o un o gyn stadau maerdref cwmwd Hirfryn. Daliwyd stadau felly'n arferol gan denantiaid caeth a oedd yn gyfrifol am y rf ac yn atebol i'w llys cyfreithiol eu hunain, ac yn gyfrifol am gynnal a chadw melin yr arglwydd, y llafur a chludo cynnyrch, yn dal eu tir drwy etifeddiaeth gyda hawliau parhaol i'w daliadau (Rees,1924,200). Ar hyn o bryd ychydig iawn o anheddiad sydd yn yr ardal, sy'n adlewyrchu'r sefyllfa a welir ar fapiau hanesyddol. Mae peth o'r tir wedi'i rannu'n gaeau, ond roedd y caeau llai afreolaidd yn gynharach - cofnodwyd glasleiniau Canoloesol yng ngogledd yr ardal - a chaeau rheolaidd mwy o faint sydd yn ddiweddarach. Mae llawer o'r ardal, fodd bynnag, heb ei rhannu'n gaeau ar hyn o bryd, sydd, o bosibl, yn adlewyrchu'r defnydd hanesyddol, gan ei bod mae'n debyg wedi cynnwys ochrau dyffryn coediog serth yn bennaf a thir pori a oedd heb ei gau hyd ddiwedd yr 20fed ganrif pan gafodd conifferau eu plannu. Mae'r ffordd rhwng Aberhonddu a Llanymddyfri o'r A40(T) a wnaed yn ffordd dyrpeg yn niwedd y 18fed ganrif yn ffurfio ymyl gogleddol yr ardal yn rhannol.

Map a atgynhyrchwyd o fap yr OS gyda chaniatad yr Arolwg Ordnans ar ran Rheolwr Llyfrfa Ei Mawrhydi, Hawlfraint y Goron 2001. Cedwir pob hawl. Byddai ei atgynhyrchu heb ganiatad yn torri Hawlfraint y Goron a gall hynny arwain at erlyniad neu achos sifil. Rhif y drwydded: GD272221

Disgrifiad a hanfodion hanesyddol y dirwedd
Gorwedd ardal gymeriad Allt y Ferdre ar draws bryniau tonnog a llethrau serth sy'n wynebu'r gogledd yn bennaf o ddyffryn Afon Gwydderig rhwng 110m a 240m. Mae'r ardal i gyd yn goediog. Mae rhai'n goedydd collddail wedi eu hen sefydlu ar y llethrau serth, ond mae planhigfeydd conifferau yn llanw'r gwagleoedd rhyngddynt i greu bloc o dir coedwigaeth afreolaidd yn gorchuddio sawl cilomedr sgwr. Plannwyd coed conifferaidd dros dir a arferai fod wedi ei gau yn rhannol a gynhwysai gaeau rheolaidd ac afreolaidd. Mae ffiniau caeau wedi goroesi o dan y coedwigoedd, ond prif hanfodion tirwedd hanesyddol yr ardal sy'n aros yw lonydd a llwybrau'r blanhigfa.

Mae'r archeoleg a gofnodwyd yn darparu haen ar l haen o hanes ond fe'i cyfyngir i fryngaer o'r Oes Haearn sy'n goroesi fel cloddwaith cofrestredig, a theras amaethu Ganoloesol.

Ychydig iawn o adeiladau a geir ac nid oes yr un ohonynt yn nodedig.

Mae'r ardaloedd cymeriad tirwedd eto i gael eu diffinio i'r dwyrain a'r gogledd. I'r gorllewin a'r de gorwedd ffermydd a chaeau ardaloedd cyfagos.

 

 

 

 

 

[cliciwch am rhestr y pynciau os nad yw'n bresennol]