Cartref > Tirweddau Hanesyddol > Y Mynydd Du a Mynydd Myddfai >

240 Y MYNYDD DU

CYFEIRNOD GRID: SN 820228
ARWYNEBEDD MEWN HECTARAU: 14720.00

Cefndir Hanesyddol
Ardal gymeriad sy'n cynnwys mynyddoedd Y Mynydd Du/Mynydd Myddfai/Mynydd Bach i gyd. Gorwedd y rhan fwyaf o'r ardal o fewn Cwmwd Perfedd yng Nghantref Bychan, lle y goroesodd arferion tirddaliadaeth cynhenid hyd ddiwedd y cyfnod Canoloesol pan y'i hymgorfforwyd yn y Sir Gaerfyrddin fodern, ond gorweddai ei rhan fwyaf dwyreiniol o fewn Arglwyddiaeth Brycheiniog. Erbyn hyn mae'n weundir a mynydd agored sydd yn amlygu'n gyffredinol ffin bendant 'r ardaloedd a rennir yn gaeau i'r gogledd, sy'n awgrymu cyfnod hir o sefydlogrwydd - ers yr 16eg ganrif mewn mannau (Leighton 1997,29). Fodd bynnag digwyddodd ymwthiad ad hoc a chlostiro seneddol ar hyd ei hymyl gorllewinol pellaf. Mae llawer o'r ardal yn cynnwys mynydd-dir na chafodd ei ddefnyddio'n helaeth gan ddyn, ond mae'r ardaloedd hynny o weundir a gafodd eu defnyddio yn arddangos pum prif thema ar ddefnydd tir. O'u dominyddu gan bori defaid ar yr ucheldir yn barhaus, maent yn cynnwys dileu coetir naturiol a gyrhaeddai uchderau o 800m o'r cyfnod Mesolithig; meddiannu a chlostiro rhannol ar y dirwedd yn y cyfnod cyn-hanesyddol, a gweithgaredd defodol cyfoes; peth meddiannu anffurfiol ar yr ardal, gyda thai hir, a'r clostiro rhannol a fu arno yn ystod y cyfnod l-ganoloesol; gweithgareddau hamdden y 19eg a'r 20fed ganrif yn cynnwys hela (Leighton1997). Mae rhan ogleddol yr ardal yn amlygu hanes mwy cymhleth. Yn y fan hon, caiff mynydd Myddfai ei groesi gan y ffordd Rufeinig o Lanymddyfri (Alabum) i Aberhonddu (Cicutio), gyda sefydlu dau wersyll gorymdeithio olynol a orfodwyd yn y Pigwn. Hepgorwyd y ffordd yn ddiweddarach a ffafrio trywydd yr A40(T) bresennol. Mae ail wersyll gorymdeithio yn gorwedd ar lwyfandir y gweundir yn arosfa Garreg i'r de. Gorweddai llawer o Fynydd Myddfai ar un adeg ym maenor Dl Hywel a roddwyd i Abaty Talyllychau erbyn 1324 (Ludlow 1998). Maenor ucheldir ydoedd a weithredwyd fwy na thebyg gan ffermwyr tenant. Ymwni yn bennaf phori anifeiliaid ar y mynydd, ac ymddengys ei fod i raddau pell iawn heb ei rannu'n gaeau yn y cyfnod hanesyddol, fel y mae heddiw. Manteisiwyd ar yr ardal hon yn ddiweddarach ar gyfer cerrig llechi ac roedd y rhes o chwareli a ddilynai'r brigiad yn gweithio'n bennaf yn yr 18fed a'r 19eg ganrif. Mae ffordd porthmyn yn rhedeg o'r dwyrain i'r gorllewin ar ymyl Arosfa Garreg o Langadog i Drecastell, a cheir mawnfa fawr o'r cyfnod l-ganoloesol. Yn bellach i'r de, cafodd y ffordd y mae'n bosibl ei gweld o hyd, dros y mynydd o Frynaman i Langadog, a fuasai'n llwybr porthmyn l-ganoloesol ei gwneud yn ffordd dyrpeg o 1779. Disodlwyd hi gan yr A4069 bresennol ond mae'n dal i oroesi fel llwybr a'r enw 'Hewl y Bryn' (DAT a CPAT, 1997, 5). Nodweddir ymyl dwyreiniol yr ardal gan nifer o dwmpathau gobennydd a all fod o darddiad l-ganoloesol cynnar, er bod ffarmio cwningod wedi ei weithredu mewn ardaloedd cyfagos ymhellach i'r dwyrain hyd ddiwedd y 19eg ganrif.

Map a atgynhyrchwyd o fap yr OS gyda chaniatad yr Arolwg Ordnans ar ran Rheolwr Llyfrfa Ei Mawrhydi, Hawlfraint y Goron 2001. Cedwir pob hawl. Byddai ei atgynhyrchu heb ganiatad yn torri Hawlfraint y Goron a gall hynny arwain at erlyniad neu achos sifil. Rhif y drwydded: GD272221

Disgrifiad a hanfodion hanesyddol y dirwedd
Mae'r ardal gymeriad eithriadol fawr hon yn cynnwys pob rhan o'r Mynydd Du/Mynydd Myddfai/ Mynydd Bach sy'n gorwedd y tu allan i Ardal 239. Mae'r holl ardal yn weundir agored. Mae'n cynnwys y darren uchel uwchben Llyn y Fan Fach/Llyn y Fan Fawr a adwaenir fel Bannau Sir Gr/Ban Brycheiniog sy'n cyrraedd uchder o dros 800m. Fodd bynnag, mae'r ardal hon yn gyffredinol yn gorwedd rhwng 250m a 600m o uchder. Mae olion manteisio gan ddynion yn y gorffennol yn fach ond eto'n nodedig. Tomennydd claddu o'r Oes Efydd sydd i'w gweld ar gopa'r rhan fwyaf o'r bryniau yw'r elfennau hynafol mwyaf amlwg yn y dirwedd, ond ceir nifer o aneddiadau a adawyd ar draws y mynydd, yn bennaf mewn cymoedd ac ar lefelau is. Mae'r rhan fwyaf yn l-ganoloesol ond gallai rhai fod yn gynharach. Cysylltir hwy weithiau gyda hen systemau caeau a chorlannau defaid. Ceir hefyd olion diwydiannol: chwareli a thramffyrdd. Mae ffordd yr A4069, hen ffordd dyrpeg, yn croesi'r mynydd o''r gogledd i'r de ac yn cysylltu dyffryn afon Aman diwydiannol gyda'r gweithfeydd carreg galch a dyffryn afon Tywi. Er gwaetha'r holl olion hyn mae'r dirwedd yn weundir agored amhoblogedig gyda thir garw ar y lefelau isaf a mawnydd blanced ar y lefelau uchaf. Un o nodweddion anarferol yr ardal hon yw ei ffin bendant gyda thir amaethyddol wedi ei rannu'n gaeau i'r gogledd. Ymddengys fod hwn yn ffin wedi ei hir sefydlu ac fe'i nodir ar y llawr am y rhan fwyaf o'i gwrs gan wal gerrig sydd wedi dymchwel mewn mannau neu gloddiau caregog. I'r gorllewin a'r dwyrain nid yw'r ffin rhwng gweundir agored yr ardal hon a thir amaethyddol caedig agos mor bendant -mae ymwthiadau blaenorol wedi cymylu'r ffin.

Mae'r archeoleg a gofnodwyd yn helaeth ac mae'n ymwneud 'r defnydd tir a amlinellir uchod, yn cynnwys llwyfannau cytiau o'r Oes Efydd, cylchoedd cerrig, cernydd copa a systemau caeau, y ffordd a'r gwersylloedd Rhufeinig, tai hir l-ganoloesol cynnar a chlostiroedd anffurfiol, mawnfeydd cyfoes, twmpathau gobennydd, chwareli cerrig llechi a'r nodweddion gweithgareddau hamdden a'r gwylfannau o'r 19eg a'r 20 fed ganrif.

Nid oes adeiladau yn dal i sefyll.

Mae hon yn ardal nodedig iawn ac mae'n ffinio thir ffermio caedig a choedwigaeth. Dim ond i'r gogledd lle y mae'n ymdoddi gyda pharth o weithfeydd diwydiannol ar y mynydd y mae ei ffiniau'n amhendant.

 

 

 

 

 

[cliciwch am rhestr y pynciau os nad yw'n bresennol]