Cartref > Tirweddau Hanesyddol > Y Mynydd Du a Mynydd Myddfai >

254 CILMAENLLWYD

CYFEIRNOD GRID: SN 668200
ARWYNEBEDD MEWN HECTARAU: 258.30

Cefndir Hanesyddol
Ardal gymeriad fechan o fewn bryniau isaf Mynydd Du a oedd, ar un adeg, yn rhan o Faenor Llys a orweddai yn rhan ddwyreiniol cwmwd Iscennen. Yn wahanol i weddill Cantref Bychan, y gorweddai o'i fewn, parhaodd Iscennen yn annibynnol mewn enw ar reolaeth Eingl Normanaidd hyd 1284, pan ddaeth i feddiant John Giffard, ac yn 1340 daeth yn rhan o Ddugaeth Caerhirfryn (Rees 1953, xv-xvi). Efallai fod rhan o ardal 254, fel Ardal gyfagos 197, wedi bod yn rhan o stad Maerdref Carreg Cennen (gweler Ardal 198); marciwyd anheddiad ('Penthill') yn Fferm Penhill gan Rees ar ei fap o Dde Cymru yn y 14eg ganrif (Rees 1932). Fodd bynnag, ymddengys fod y rhan fwyaf o'r ardal o amgylch fferm fawr, ganolog, Cilymaenllwyd, yn eiddo i Bremonstratensiaid Abaty Talyllychau (Rees 1932). Aeth y fferm i ddwylo'r teulu Lloyd, a oedd yn reciwsantiaid, erbyn y 17eg ganrif, pryd y cynhaliwyd rasys ceffylau gerllaw (Jones 1987.34); fe'i rhentiwyd yn ddiweddarach i denantiaid. Yng ngorllewin yr ardal ceir grwp o gaeau cul a fu o bosibl yn gaeau agored gynt; mae gweddill y clostiroedd, fodd bynnag, yn fawr ac yn gymharol reolaidd ac efallai o darddiad l-ganoloesol. Ychydig o ddatblygu a fu'n ddiweddar.

Map a atgynhyrchwyd o fap yr OS gyda chaniatad yr Arolwg Ordnans ar ran Rheolwr Llyfrfa Ei Mawrhydi, Hawlfraint y Goron 2001. Cedwir pob hawl. Byddai ei atgynhyrchu heb ganiatad yn torri Hawlfraint y Goron a gall hynny arwain at erlyniad neu achos sifil. Rhif y drwydded: GD272221

Disgrifiad a hanfodion hanesyddol y dirwedd
Gorwedd yr ardal gymeriad yma ar lethrau gweddol raddol sydd gogwydd de a de orllewin iddynt rhwng 180m a 240m o uchder. Mae'n cynnwys ffermydd gwasgaredig ac anheddau eraill sydd wedi'u lleoli mewn caeau afreolaidd a rheolaidd eu maint. Diffinnir y caeau gan gloddiau pridd a chloddiau cerrig ac arnynt wrychoedd. Ac eithrio ar hyd ffyrdd a llwybrau nid yw'r gwrychoedd mewn cyflwr da yn gyffredinol, ac maent naill ai wedi dymchwel neu yn fylchog iawn. Ffensys gwifren sy'n rhwystro da byw rhag crwydro. Ychydig o goed a geir yn y gwrychoedd, ac mae hyn ynghyd ag ychydig o goed bach collddail yn rhoi golwg agored i lawer o'r dirwedd. Mae'r rhan fwyaf o'r tir ffermio yn dir pori sydd wedi'i wella, er y ceir pocedi diarffordd o dir pori garw a thir brwynog. Cysylltiadau lleol sydd i drafnidiaeth - lonydd a llwybrau. Mae'r ffermdai yn adeiladau trillawr o gerrig, ac thri bae, ac maent yn dyddio o'r 19eg ganrif ac yn gyffredinol yn y traddodiad brodorol. Ceir hefyd fythynnod llai a godwyd o gerrig yn y traddodiad brodorol. Mae'r tai allan o'r 19eg ganrif wedi'u codi o gerrig ac yn gyffredinol wedi'u trefnu'n un neu ddwy res. Mae gan y rhan fwyaf o'r ffermydd adeiladau amaethyddol modern.

Mae'r archeoleg a gofnodwyd wedi ei gyfyngu i'r anheddiad Canoloesol ym Mhenhill, safle melin ac anheddau.

Ni cheir adeiladau rhestredig.

Nid yw Cilymaenllwyd yn ardal gymeriad hawdd i'w diffinio gan fod llawer o'r ardaloedd cyffiniol yn rhannu hanfodion tirwedd tebyg. Felly tueddir i gael llain o newid rhwng yr ardal hon a'r ardaloedd cyffuniol.

 

 

 

 

 

[cliciwch am rhestr y pynciau os nad yw'n bresennol]