Cartref > Tirweddau Hanesyddol > Y Mynydd Du a Mynydd Myddfai >

255 BLAEN CENNEN

CYFEIRNOD GRID: SN 686191
ARWYNEBEDD MEWN HECTARAU: 209.50

Cefndir Hanesyddol
Ardal gul ar lethr ogleddol isaf y Mynydd Du. Mae tystiolaeth o anheddu cynnar yn yr ardal garreg galch o amgylch Llygan Llwchwr ar ben gorllewinol yr ardal gymeriad hon. Ceir haen ar l haen o hanes yn y dirwedd; cafodd siambr gladdu neolithig ei chofnodi yn gyfagos at fan darganfod cynhanesyddol, a hefyd dwmpathau llosg o'r Oes Efydd ac anheddiad Oes haearn/Rhufeinig-Brydeinig. Yn ystod y cyfnod hanesyddol gorweddai'r ardal oddi mewn i Gantref Bychan, ac fe'i rhennid rhwng dau gwmwd. Gorweddai'r hanner gorllewinol o fewn cwmwd Iscennen, a barhaodd mewn enw yn annibynnol ar reolaeth Eingl-Normanaidd hyd 1284 pan ddaeth i ddwylo John Giffard, ac ym 1340 daeth yn rhan o Ddugaeth Caerhirfryn (Rees 1953, xv?xvi). Ymosodwyd ar weddill Cantref Bychan, yn cynnwys Cwmwd Perfedd y gorweddai hanner ddwyreiniol yr ardal ynddo, gan yr Eingl Normaniaid o dan Richard Fitz Pons a sefydlodd caput yn Llanymddyfri yn 1110 - 16 (Rees n.d.) a daeth yn fuan wedyn i feddiant yr arglwyddi Clifford o Aberhonddu fel Arglwyddiaeth Llanymddyfri. Fodd bynnag bu sawl cyfnod o reolaeth Gymreig a goroesodd arferion tirddaliadaeth cynhenid yno hyd ddiwedd y cyfnod Canoloesol pan y'i hymgorfforwyd yn y Sir Gaerfyrddin fodern. Awgryma'r patrwm o glostiroedd hirsgwar rheolaidd gyda ffiniau syth fod yr ardal yn dir pori agored hyd y cyfnod l-ganoloesol. Cofnodir rhan o'r ardal fel tir comin ffurfiol, ond mae'r caeau o gwmpas Ffarm Blaencennen yn fwy afreolaidd ac mae'n ymddangos ei fod yn ddaliad cynharach, ac mae'r ffin ffisegol rhwng yr ardal hon a gweundir agored Ardal 239 i'r de wedi ei diffinio'n dda fel wal gerrig yn dyddio mewn mannau o'r 16eg ganrif (Leighton 1997, 29). Cofnodwyd llwyfannau cytiau l-ganoloesol a thwmpathau clustogau yn Llygad Llwchwr, mewn cysylltiad safle chwarel garreg galch fechan ac odyn. Fodd bynnag tir pori oedd prif sylfaen yr economi ac roedd corlan Cwmllwyd, ym mhen dwyreiniol yr ardal, a gafodd ei adfer yn ddiweddar (Murphy 1998), yn gwasanaethu nifer o ffermydd a roddodd eu henwau i'r clostiroedd a luniwyd trwy ei hisrannu. Ceir corlan a lle dipio defaid arall. Roedd y dirwedd wedi sefydlu yn ei ffurf bresennol erbyn tua 1840 (Mapiau degwm Llandeilo Fawr a Llangadog) ac ychydig o newid a datblygu a fu'n ddiweddar.

Map a atgynhyrchwyd o fap yr OS gyda chaniatad yr Arolwg Ordnans ar ran Rheolwr Llyfrfa Ei Mawrhydi, Hawlfraint y Goron 2001. Cedwir pob hawl. Byddai ei atgynhyrchu heb ganiatad yn torri Hawlfraint y Goron a gall hynny arwain at erlyniad neu achos sifil. Rhif y drwydded: GD272221

Disgrifiad a hanfodion hanesyddol y dirwedd
Gorwedd yr ardal gymeriad gymharol fechan hon ar lethrau sy'n wynebu'r gogledd rhwng dyffryn afon Cennen a'r Mynydd Du ar uchderau o 220m i 320m. Mae'r ardal i gyd wedi ei rhannu'n gaeau. Mae'r caeau yn gymysgedd o glostiroedd gweddol fychan rheolaidd ac afreolaidd am yn ail a chlostiroedd rheolaidd mwy o faint. Ceir amrywiaeth yn y mathau o ffiniau. Ceir wal gerrig ar hyd y ffin 'r Mynydd Du a waliau tebyg eraill ar yr uchderau uwch hyn yn agos at y Mynydd Du. Mae'r rhan fwyaf o'r waliau wedi dymchwel. Cloddiau pridd neu gloddiau cerrig yw'r mathau eraill o ffiniau. Arferai gwrychoedd dyfu ar y rhain, ond mae'r cloddiau bron i gyd bellach wedi diflannu neu nid ydynt yn ddim mwy na llinellau o lwyni anniben. Ffensys gwifren sy'n rhwystro da byw rhag crwydro. Ychydig o goed a geir yno. Cymysgedd o dir pori garw, brwyn, tir gwlyb a thir pori wedi ei wella yw'r defnydd tir. Cysylltiadau lleol sydd i drafnidiaeth a lonydd a thraciau ydynt. Y patrwm anheddu yw ffermydd gwasgarog. Mae'r ffermdai o'r 19eg ganrif yn adeiladau deulawr, tri bae, o gerrig yn y traddodiad brodorol. Mae'r tai allan o ddyddiad tebyg, wedi eu codi o gerrig ac yn gyffredinol o faint eithaf cymedrol. Yn aml un rhes o adeiladau a geir. Mae gan y rhan fwyaf o'r ffermydd adeiladau amaethyddol modern.

Mae'r archeoleg a gofnodwyd yn gymharol gyfoethog ac amrywiol i ardal fechan, ac yn cynnwys beddfaen siambr Neolithig, dau dwmpath llosg o'r Oes Efydd a charnedd tomen gron bosibl, man darganfod cynhanesyddol, anheddiad agored o'r Oes Haearn/Rhufeinig -Frythonig, ffynnon gysygredig Ganoloesol bosibl, llwyfannau cytiau l?ganoloesol cynnar, twmpathau clustog, chwarel ac odynnau calch.

Ceir rhai adeiladau nodedig ond nid yw'r un ohonynt wedi ei gofrestru.

I'r de, mae'r ardal hon wedi ei diffinio'n dda lle y mae'n ffinio 'r Mynydd Du. Yn y mannau eraill nid yw'r diffiniad cystal, ac mae'n tueddu i fod yn llain o newid graddol yn hytrach nag yn forder ymyl galed rhwng yr ardal hon a't ardaloedd cyffiniol.

 

 

 

 

 

[cliciwch am rhestr y pynciau os nad yw'n bresennol]