Cartref > Tirweddau Hanesyddol > Y Mynydd Du a Mynydd Myddfai >

256 CASTELL CARREG CENNEN

CYFEIRNOD GRID : SN 668190
ARWYNEBEDD MEWN HECTARAU: 16.58

Cefndir Hanesyddol
Ardal gymeriad fechan yn cynnwys bryncyn creigiog a chastell Carreg Cennen, wrth droed y Mynydd Du. Defnyddid yr ogof o dan y Castell yn y cyfnod cynhanesyddol, ond mae hanes yr ardal yn bennaf yn Ganoloesol. Benthyciwyd llawer o'r adran hon gan Lewis 1990, Carreg Cennen Castle. Carreg Cennen yn ystod y cyfnod hanesyddol oedd canolfan weinyddol a llys cwmwd Iscennen, gan roi i Faenor Llys y gorweddai o'i fewn ei enw; gorweddai maerdref yr ardal yn Ardal 198 a gynrychiolir yn awr gan yr enwau ffermydd Ferdre Fawr a Fach (Rees 1924, 200). Sefydlasid y llys erbyn y 13eg ganrif o leiaf ac ymddengys ei fod wedi ei wneud yn llys caerog cyn codi'r castell presennol yn ddiweddarach yn y ganrif honno, o bosibl o dan Rhys ap Gruffydd Tywysog Deheubarth a gododd gestyll yn Ninefwr (Ardal 195) ac Aberteifi yn niwedd y 12fed ganrif. Ynghyd Chantref Bychan, trosglwyddwyd Carreg Cennen i ddwylo ei fab Rhys Grug ond fe'i gwahanwyd oddi wrth weddill Iscennen yn 1233 pan olynwyd ef gan Rhys Mechell. Fe'i cipiwyd am gyfnod byr gan y Saeson yn 1248, a newidiodd ddwylo sawl gwaith yn y 1250au ac, yn 1277, fe'i hildiwyd yn derfynol i ddwylo'r Saeson. Daeth y castell ynghyd ag Iscennen i ddwylo John Giffard yn 1283 ac yn 1340 daeth yn rhan o Ddugaeth Caerhirfryn (Rees 1953, xv?xvi). Ailgodwyd y castell fel adeilad carreg sylweddol, a chodwyd y Ward Fewnol bresennol yn y 13eg ganrif ac ychwanegwyd y Ward Allanol yn 14eg ganrif. Cipiwyd y castell a'i niweidio yn ystod gwrthryfel Glyn Dwr ac fe'i dinistriwyd yn derfynol yn ystod Rhyfeloedd y Rhosynnau yn 1461. Mae hanes diweddarach y castell yn aneglur hyd y 18fed ganrif pan ddaeth y safle trawiadol hwn i sylw arlunwyr a beirdd Rhamantaidd. Daeth i ddwylo'r Wladwriaeth yn 1932 ac mae Cadw yn awr yn ei reoli ar ei rhan

Map a atgynhyrchwyd o fap yr OS gyda chaniatad yr Arolwg Ordnans ar ran Rheolwr Llyfrfa Ei Mawrhydi, Hawlfraint y Goron 2001. Cedwir pob hawl. Byddai ei atgynhyrchu heb ganiatad yn torri Hawlfraint y Goron a gall hynny arwain at erlyniad neu achos sifil. Rhif y drwydded: GD272221

Disgrifiad a hanfodion hanesyddol y dirwedd
Mae'r Ardal gymeriad fach iawn hon yn cynnwys castell Canoloesol Carreg Cennen a'r bryn y mae'n sefyll arno. Carreg galch garbonifferaidd yw bryn Carreg Cennen ac mae'n codi o ddyffryn afon Cennen tua 150m o uchder i gopa o dros 260m. Mae ochrau gogleddol, dwyreiniol a gorllewinol y bryn yn serth ac mae'r ochrau deheuol a de-orllewinol yn greigiau fertigol. Gorchuddir y llethrau deheuol llai serth ond sydd eto'n greigiog gan goetir o goed collddail. Mae gweddill y bryn yn dir pori wedi ei wella. Rhannwyd hwn yn gaeau bychain afreolaidd eu sip gan gloddiau pridd a phridd a cherrig ac arnynt wrychoedd. Castell Carreg Cennen ei hun , fodd bynnag, yw elfen fwyaf hanesyddol y dirwedd. Mae darnau sylweddol o'r castell cerrig ar y copa wedi goroesi yn cynnwys y rhan fwyaf o'r prif furlen a'r tyrau cysylltiedig. Nid yw'r ward allanol wedi ei chadw cystal. Yn rhan o'r olion ceir llwybr dan do sy'n arwain ar hyd wyneb y graig i ogof. Gorwedd gweddillion odyn galch a godwyd o gerrig yn y Ward allanol.

Dominyddir yr archeoleg a gofnodwyd gan olion sylweddol castell cerrig Canoloesol gyda'i borthdy a'i br o dyrau, ond y mae hefyd y defnydd cynhanesyddol o'r ogof, man darganfod o'r Oes Efydd, celc o arian Rhufeinig ac odynnau calch l-ganoloesol.

Nid oes adeiladau eraill.

Mae hon yn ardal a ddiffinnir yn dda. Mae'r bryn a'r castell yn rhai o elfennau tirwedd sydd fel arall yn un o ffermydd a chaeau.

 

 

 

 

 

[cliciwch am rhestr y pynciau os nad yw'n bresennol]